Diffiniad
Testun wedi'i gymryd o Ganllawiau Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023.pdf (llyw.cymru)
"Mae ein system gofal iechyd yn rhoi cyfle cyfartal i bawb gyflawni eu potensial llawn ar gyfer bywyd iach nad yw’n amrywio o ran ansawdd yn ôl y sefydliad sy'n darparu gofal, lleoliad lle caiff gofal ei ddarparu neu nodweddion personol (megis oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, dewis iaith, anabledd, crefydd neu gredoau, statws economaidd-gymdeithasol neu ymlyniad gwleidyddol). Rydym yn gwreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol yn ein system gofal iechyd."
Sut mae hyn yn berthnasol i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol
Mae gan Bractisau Cyffredinol ofyniad cytundebol yn barod i beidio â gwahaniaethu yn erbyn cleifion ar sail hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, ymddangosiad, rhywedd neu ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, anabledd neu gyflwr meddygol, wrth gofrestru neu symud cleifion.
Fel cyflogwyr, mae'n ofynnol yn barod ar Bractisau i gymhwyso Deddf Cydraddoldeb 2010 a pheidio â gwahaniaethu yn y gweithle.
Fel eiriolwyr dros eu poblogaeth gofrestredig a'u staff, gall Practisau wneud achos moesegol, achos busnes, achos economaidd ac achos cyfreithiol dros bractisau’n rhoi sylw i gydraddoldeb a hawliau dynol.
Mae gan bractisau gyfrifoldebau penodol o ran yr iaith Gymraeg yng Nghytundeb Unedig y GMC (2023) a hefyd o dan "Mwy na Geiriau" (Llywodraeth Cymru, 2022).
Rhestr o’r Matricsau yn y Bennod hon
9.1 Cydraddoldeb, Cynhwysiant a'r Gymraeg
Newidiadau i fatricsau o'r OHLlCP diwethaf (lle bo'n berthnasol)
Mae safon 2015 'Hawliau Pobl' wedi'i chynnwys yn y bennod hon.
Nid oedd y Gymraeg yn fatrics a nodwyd yn 2025