Neidio i'r prif gynnwy

Tudalen Lanio Seilwaith Cymunedol

Galluogi pobl i fyw'n dda gartref trwy atal, dewis, lles ac annibyniaeth.

Mae'r Pecyn Cymorth Seilwaith Cymunedol (SC) yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau a ddyluniwyd ar gyfer unrhyw un (gan gynnwys pob proffesiwn, ardal neu lefel ymarfer) sy'n cefnogi darparu gofal ar sail lleoedd, ni waeth beth y bo'i leoliad.  
Mae egwyddorion gofal ar sail lleoedd wrth wraidd pob Rhaglen Genedlaethol a Rhaglen ar gyfer y Llywodraeth. Yn allweddol i hyn mae cydweithio amlbroffesiynol, sy’n darparu gofal di-dor, mwy effeithiol sy’n hanfodol i wireddu’r uchelgais ar gyfer gofal iechyd a lles cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae gofal ar sail lleoedd yn gofyn i bob partner a rhanddeiliad ddechrau gydag anghenion cyfannol unigolion a’r boblogaeth leol, ac yna weithio gyda’i gilydd i’w cefnogi. Bydd hyn yn herio rhai o’r ffiniau traddodiadol rhwng gweithwyr proffesiynol a rhwng gwasanaethau. 

Nod
Bydd y pecyn cymorth SC yn galluogi rhanddeiliaid i ddysgu mwy am y Rhaglen SC, ei huchelgais a sut mae’n gallu cefnogi timau i ddarparu gofal ar sail lleoedd a gwasanaethau cofleidiol er mwyn galluogi pobl i fyw’n dda gartref. 
Mae'r pecyn cymorth wedi'i ddylunio i wneud y canlynol:

  • Creu effeithlonrwydd – trwy ddarparu canllawiau ar sail tystiolaeth, enghreifftiau o arfer da, fframweithiau a datganiadau o safon i gefnogi gwaith amlbroffesiynol
  • Cefnogi mabwysiadu dull arfer gorau ‘Unwaith i Gymru’ trwy rannu canllawiau a dogfennau arfer gorau
  • Cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i randdeiliaid gan ddefnyddio’r adnoddau hyn i ddatblygu a gwella arfer
  • Cynnig ffordd safonol o fesur gwerth a chanlyniadau 

Bydd y pecyn cymorth yn aros yn fyw ac yn cael ei ddiweddaru pan fo darnau allweddol o waith yn cael eu datblygu a’u rhannu

Sut mae’r offeryn hwn yn gweithio?
Cliciwch i ehangu pob pennawd pwnc cyfunol i ddatgelu cynnwys sy’n benodol i’r pwnc, megis crynodebau mewn llinell, dolenni cyfeirio uniongyrchol neu ddolenni i ragor o gynnwys ar is-dudalennau (ychwanegir hyperddolenni pan fydd yr is-dudalennau pwnc yn ddwyieithog). Bydd y pecyn cymorth yn datblygu gyda chymorth defnyddwyr; rhowch adborth yma.