Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW)

Cliciwch yma i weld delwedd Mesurau System Gyfan Diwrnodau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW) yn fwy manwl.

Beth yw e?

Mae Dyddiau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW) yn gyfres o fesurau sydd wedi'u cynllunio i ddangos ffyrdd o fesur systemau iechyd a gofal ledled Cymru. Gellir addasu'r rhain i ddiwallu anghenion y defnyddiwr a darparu mapiau gwres a dadansoddiad sylfaenol o ryngweithiadau’r boblogaeth gyda darparwyr iechyd a gofal penodol.

Mae dangosfwrdd Dyddiau Iach yn y Cartref Cenedlaethol Cymru (HDAHW) yn darparu trosolwg lefel uchel ar gyfer poblogaeth Cymru. Gofynnwyd i bob Bwrdd Iechyd greu dangosfwrdd HDAHW lleol i redeg ochr yn ochr â'r un cenedlaethol, er mwyn profi a chymhwyso setiau data a fformiwlâu ychwanegol y cytunwyd arnynt yn lleol. Yna gellid ystyried y fformiwlâu newydd hyn, a dreialwyd yn Sandbox dangosfwrdd y Bwrdd Iechyd, i'w cyflwyno yn genedlaethol. 

[Sandbox – amgylchedd digidol diogel ar gyfer arbrofi gyda data]

Mwy o wybodaeth

Mae Llinell Amser Dyddiau Iach yn y Cartref Cymru (HDAHW) yn rhoi darlun gweledol o'r daith i gyflawni mesurau system gyfan HDAHW.

Mae Canllaw Defnyddwyr wedi'i ddatblygu i gefnogi defnyddwyr y dangosfyrddau i ddeall a gwneud y defnydd gorau o’r mesurau. 

Cynhaliwyd Digwyddiad Dangos a Dweud ar 27 Medi 2023 a oedd yn rhoi llwyfan i ddatblygwyr y dangosfwrdd (ar lefel Genedlaethol yn ogystal â lefel Bwrdd Iechyd) gyflwyno'r gwaith yr oeddent wedi'i gyflawni mewn perthynas â’r Gyfres o Fesurau HDAHW.

Mynediad 

Gallwch ofyn am fynediad i'r dangosfyrddau HDAHW trwy ddewis y ddolen briodol isod a dilyn y cyfarwyddiadau.  (Sylwer bod mynediad yn dibynnu ar eich rôl a'ch sefydliad).