Neidio i'r prif gynnwy

Tudalen Lanio ar gyfer Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB)

Nod rhaglen waith y Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yw dylunio a chyflwyno model newydd o ofal brys ar gyfer poblogaeth Cymru. Y nod yw darparu gofal di-dor, sy’n cael ei ddarparu’n gyson ar lefel leol, waeth beth fo’r ffiniau sefydliadol.

Mae’r pecyn cymorth i Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys (CGSB) yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer rhanddeiliaid a allai fod yn cefnogi ac yn datblygu’r Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys neu ar gyfer cydweithwyr sydd â diddordeb yn y gwaith sy’n cael ei wneud. 
Nod
Bydd y pecyn cymorth CGSB yn helpu rhanddeiliaid i ddysgu mwy am y Rhaglen CGSB, ei thaith a’i huchelgais.  Bydd y pecyn cymorth yn cefnogi rhanddeiliaid i roi’r ddamcaniaeth ar waith drwy ddarparu gwybodaeth allweddol am sut i gael mynediad i ddeunyddiau dysgu a chyngor gan eraill.
Nod y pecyn cymorth yw:

  • Rhannu’r hyn a ddysgir ar lefel Genedlaethol a Lleol o safbwynt Clinigwyr, Rheolwyr Gweithredol a Rheolwyr Rhaglenni
  • Annog cydweithio er mwyn profi a dysgu oddi wrth ein gilydd yn sgil cyflanwi’r dull arfer gorau ‘Unwaith i Gymru’ sy’n annog rhannu canllawiau a dogfennau arfer da 
  • Cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol wrth wella Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys yn barhaus.

Bydd y pecyn cymorth yn parhau i fod yn adnodd byw a fydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd fel y bo’n briodol.


Sut mae’r offeryn hwn yn gweithio?
Cliciwch ar bob pennawd pwnc i ddatgelu cynnwys ar bwnc penodol, a allai gynnwys crynodebaul, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau.
Bydd y pecyn cymorth yn parhau i gael ei ddatblygu gyda chefnogaeth defnyddwyr.  Mae eich adborth yn bwysig i ni oherwydd bydd yn ein cynorthwyo i wella’r adnodd hwn, felly byddem yn eich annog i ddarparu unrhyw adborth yma.