Diffiniad
Testun wedi'i gymryd o Ganllawiau Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023.pdf (llyw.cymru)
"Mae ein system gofal iechyd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar werth i wella’r canlyniadau sydd bwysicaf i bobl mewn ffordd sydd mor gynaliadwy â phosibl ac sy’n osgoi gwastraff. Rydym yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau i sicrhau’r gwerth gorau mewn ffordd effeithlon. Dim ond yr hyn sydd ei angen rydym yn ei wneud, ac wrth roi triniaethau rydym yn sicrhau bod unrhyw ymyriadau yn cynrychioli’r gwerth gorau a fydd yn gwella canlyniadau i bobl."
Sut mae hyn yn berthnasol i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol
Mae’n rhaid i Bractisau Cyffredinol gydbwyso'r pwysau sy'n cystadlu i reoli cleifion mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion unigol, gyda'r ddyletswydd ehangach i warchod adnoddau ar gyfer eu poblogaeth gofrestredig, fel bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael blaenoriaeth.
Mae Gofal Iechyd Darbodus yn esiampl o hyn
Mae’n ofynnol yn gytundebol hefyd i Bractisau Cyffredinol osgoi rhoi cyffuriau, offer a thriniaethau ar bresgripsiwn y mae eu cost yn ormodol o'i gymharu â'r hyn y mae claf ei angen.
Rhestr o’r Matricsau yn y Bennod hon
8.1 Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth
Newidiadau i fatricsau o'r OHLlCP diwethaf (lle bo'n berthnasol)
Ni chrybwyllwyd Gofal Effeithlon yn PHLlCP 2015 na Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ychwaith.