Diffiniad
Testun wedi'i gymryd o Ganllawiau Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023.pdf (llyw.cymru)
"Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor, yr arweiniad a’r gofal o ansawdd uchel sydd eu hangen arnynt yn gyflym ac yn rhwydd, yn y lle iawn y tro cyntaf. Rydym yn gofalu am y rheini sydd â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf, a phan nodir fod triniaeth yn angenrheidiol, rydym yn trin pobl ar sail eu blaenoriaeth glinigol benodol a chytunedig."
Sut mae hyn yn berthnasol i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol
Mae'r ddau baragraff canlynol yn seiliedig ar y disgrifiad o Wasanaethau Unedig yng nghytundeb y GMC (2023);
Mae Practisau Cyffredinol yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau meddygol sylfaenol pan fyddant, neu'n credu eu bod—
(a) yn sâl, gyda chyflyrau y disgwylir adferiad yn gyffredinol ohonynt,
(b) yn dioddef o salwch angheuol, neu
(c) yn dioddef o glefyd cronig,
sy’n cael ei gyflwyno yn y modd a bennir gan arfer y contractwr ar ôl ystyried canllawiau neu lwybrau clinigol perthnasol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac mewn trafodaeth â'r claf.
Mae rheolaeth practisau cyffredinol yn cynnwys cynnig ymgynghoriad a, lle bo'n briodol, archwiliad corfforol at ddiben nodi'r angen, os o gwbl, ar gyfer triniaeth neu ymchwiliad pellach, a sicrhau bod triniaeth o'r fath neu ymchwiliad pellach ar gael fel sy'n angenrheidiol ac yn briodol, gan gynnwys atgyfeirio'r claf i wasanaethau eraill a chysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â thriniaeth a gofal y claf.
Rhestr o’r Matricsau yn y Bennod hon
6.1 Mynediad at Wasanaethau Meddygol Cyffredinol
6.2 Amser i brofi, rhoi diagnosis ac atgyfeirio.
Newidiadau i fatricsau o'r OHLlCP diwethaf (lle bo'n berthnasol)
Mae Safon 2015 'Mynediad Amserol' a'i fatricsau 'Mynediad i ymgynghoriadau' ac 'Atgyfeiriadau ar lefel practis' wedi'u cynnwys yn y bennod hon.