Neidio i'r prif gynnwy

Pennod 4: Gwybodaeth

Diffiniad  

Testun wedi'i gymryd o Ganllawiau  Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023.pdf (llyw.cymru) 

"Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael a'i bod yn cael ei rhannu’n briodol ar gyfer pawb sydd ei hangen.  Rydym yn troi data’n wybodaeth drwy driongli perfformiad meintiol ac ansoddol, profiad a dulliau mesur canlyniadau i ddeall ansawdd gwasanaethau, effeithiolrwydd gwaith gwella ac effaith penderfyniadau a wneir. Rydym yn monitro, yn adrodd ac yn uwchgyfeirio dangosyddion drwy ein strwythurau llywodraethu i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd ar bob lefel o ran dysgu, gwella ac atebolrwydd." 

Sut mae hyn yn berthnasol i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol 

  • Rhaid i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol gael prosesau sy'n codio gwybodaeth sy'n dod i mewn i fformatau safonol yn gywir gan ddefnyddio'r cofnod cyfrifiadur gydol oes. 

  • Gellir gwella ansawdd gwasanaethau trwy reoli Digwyddiadau Diogelwch Cleifion a phryderon yn effeithlon ac yn effeithiol. 

  • Mae practisau'n defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau i ddatblygu gwybodaeth am sut mae eu gwasanaethau'n perfformio. 

Rhestr o’r Matricsau yn y Bennod hon 

Newidiadau i fatricsau o'r OHLlCP diwethaf (lle bo'n berthnasol) 

Mae Safon 2015 'Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg Cyfathrebu’ a'i matricsau sicrhau llywodraethu gwybodaeth a Chadw Cofnodion, wedi cael eu cynnwys. Fodd bynnag, y Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth yw'r dull ffurfiol o sicrwydd ar gyfer diogelu data ac agweddau GDPR ar reoli gwybodaeth persona yn y GMC 

Mae matricsau 2025 'Cofnod data safonol' a 'Gwybodaeth i gleifion' wedi eu cynnwys yn y matrics hwn. Fodd bynnag, mae 'Caniatâd ar gyfer archwiliad clinigol a thriniaeth’ yn cael eu trafod mewn man arall. 

Mae testun eang 'Data i Wybodaeth' yn egwyddor allweddol ar gyfer pob pennod yn yr OHLlCP hwn sydd wedi'i ddiweddaru, am fod practisau’n gallu hunan-raddio yn ôl pa mor dda y maent yn defnyddio data i wybodaeth i greu systemau dysgu effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth meintiol ac ansoddol.