Neidio i'r prif gynnwy

Pennod 11:Diffiniadau Ymagwedd Systemau Cyfan

Diffiniad  

Testun wedi'i gymryd o Ganllawiau  Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023.pdf (llyw.cymru) 

"Mae ein system gofal iechyd yn sicrhau bod diogelwch mewn gofal iechyd yn mynd y tu hwnt i ddiogelwch cleifion unigol. Byddwn yn edrych o fewn ein ffiniau sefydliadol a’r tu hwnt iddynt i ddysgu sut y gallwn ddiwallu anghenion esblygol pobl mewn modd parhaus, dibynadwy a chynaliadwy. Byddwn yn cryfhau perthnasoedd ac yn gweithio gyda'n holl bartneriaid i sicrhau canlyniadau da. Mae ein polisïau yn ymgorffori'r uchelgeisiau ehangach o fewn y saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol." 

Sut mae hyn yn berthnasol i Wasanaethau Meddygol Cyffredinol 

  • Mae gan Bractisau Cyffredinol 'Ddyletswydd Cydweithredu â phractisau eraill' cytundebol yn barod, 'Dyletswydd cydweithredu mewn perthynas â gwasanaethau y tu allan i oriau', a 'Dyletswydd cydweithredu: gwaith clwstwr'. 

  • Mae gan Bractisau Cyffredinol hefyd ddyletswydd cytundebol i weithio o fewn eu Cydweithredfa GMC, i gyfrannu gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys galw a chynllunio capasiti, i Gynllun Tymor Canolig Integredig y clwstwr a dangos sut maent wedi ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau lleol. Yn benodol, rhaid iddynt ddangos tystiolaeth eang o bartneriaeth, gweithio amlbroffesiynol/amlasiantaethol, a datblygu gwasanaethau 

    integredig, a chyfrannu at gyflawni canlyniadau penodol a bennwyd i glystyrau, 

  • Canllawiau a llwybrau clinigol a gytunwyd yn genedlaethol sydd orau wedi'u dyfeisio gyda gofal sylfaenol a gofal eilaidd yn yr ystafell. P'un ag yw'r pwnc yn ofal brys neu argyfwng, neu ofal wedi'i gynllunio, mae'r gofyniad cytundebol i bob practis ystyried y llwybrau clinigol hyn ym mhob ymgynghoriad yn golygu bod Practisau Cyffredinol yn gallu gweithio ar draws ffiniau os darperir adnoddau digonol. 

  • Mae Practisau Cyffredinol yn gweithredu o fewn system sy'n cael ei chyfarwyddo gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Darlun ymarferol o hyn yw'r 'Prosiect Gofal Sylfaenol Gwyrddach'. 

Rhestr o’r Matricsau yn y Bennod hon 

11.1 Gweithio gyda’n Partneriaid  

Newidiadau i fatricsau o'r OHLlCP diwethaf (lle bo'n berthnasol) 

Nid oedd cyfeiriad penodol at 'Ymagwedd Systemau Cyfan' yn safonau na OHLlCP 2015. Mae rhai agweddau ar gymysgedd o fatricsau wedi cael eu dwyn i mewn i'r bennod hon.