Neidio i'r prif gynnwy

Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau

Mae’r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau yn mynegio adnoddau o bob rhan o’r system yng Nghymru, a allai helpu i gynhyrchu a diweddaru cynlluniau blynyddol cynllunio clystyrau / grŵp cynllunio clystyrau cyfan.  Mae wedi’i strwythuro i adlewyrchu elfennau allweddol cylch cynllunio, darparu trosolwg o ystyriaethau/ methodoleg ar gyfer asesu ac ymateb i anghenion lleol, cysylltu ffynonellau gwybodaeth bellach a chefnogi datblygiad sgiliau.  Mae’r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (PCCC) wedi’i anelu ar gyfer cynllunio clystyrau / grŵp cynllunio clystyrau cyfan ac aelodau cydweithredol proffesiynol ar gyfer ymwybyddiaeth a goruchwyliaeth, a hefyd staff gofal sylfaenol/bwrdd iechyd sy’n eu cefnogi gyda gofynion cynllunio integredig.

Sut mae’r mynegai hwn yn gweithio?

Cliciwch i ehangu pob pennawd pwnc sydd wedi’i grwpio er mwyn datgelu cynnwys am bwnc penodol, a allai gynnwys crynodebau mewnol, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau (hyperddolenni i’w cynnwys wrth i is-dudalennau pynciau ddod ar gael yn ddwyieithog).  Bydd y mynegai yn datblygu gyda chefnogaeth defnyddwyr y porth; gallwch ddarparu adborth yma.

Mynegai CPSP

Dylai clystyrau allu cael mynediad at gyngor a chefnogaeth cynllunio arbenigol priodol ac amserol, cyfeirio at ganllawiau cynllunio presennol a chael mynediad at hyfforddiant/ adnoddau addas i ddatblygu galluoedd cynllunio mewnol.

Canllawiau cynllunio cenedlaethol
Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol ar gael i hysbysu cynlluniau blynyddol clystyrau ar y ffurfiau canlynol:

  • Fframweithiau cynllunio GIG Cymru: Canllawiau i helpu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i gwblhau eu cynlluniau tymor canolig integredig.
  • Gofynion cyflwyno cynllun blynyddol clwstwr: Cyflwynir templed o gynllun a deunyddiau ategol, a ddatblygwyd ar y cyd gan SPPC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda mewnbwn gan Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol a Llywodraeth Cymru ar wahân:
  • Gofynion cynllunio Grŵp cynllunio ar draws y clwstwr: Bydd Blwyddyn Pontio i ddiweddaru’r trefniadau ymgysylltu a chynllunio ac i atgyfnerthu asesiadau anghenion a threfniadau cynllunio presennol ac i atgyfnerthu asesiadau anghenion a chynlluniau tymor canolig integredig presennol.
    • 2022-23 Ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau
    • 2023-24 i’w gadarnhau
  • Model Gofal Sylfaenol Cymru Gweinidogol / cerrig milltir / blaenoriaethau trawsnewidiol: Gallai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno blaenoriaethau mewn llythyr ar ffurf Model Gofal Sylfaenol Cymru/ cerrig milltir trawsnewidiol; neu flaenoriaethau ehangach, gyda’r disgwyliad y bydd cynlluniau’r clwstwr (a’r bwrdd iechyd) yn adlewyrchu’r rhain:

Adnoddau hyfforddiant a dysgu cenedlaethol
Cyfleoedd i ddatblygu gallu cynllunio mewnol a gellir ceisio gallu.  Mae adnoddau cenedlaethol yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaglen Dysgu ym maes Cynllunio NWSSP (PP4L): Sefydlwyd academi gynllunio i atgyfnerthu sgiliau cynllunio, gyda chyswllt da rhwng cymuned gynllunio GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.  Mae’n cwmpasu Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd (yma), gweithdai, dosbarthiadau meistr, a digwyddiadau dysgu.
  • Cynllunio a hyrwyddo adnoddau dysgu (a gynhelir gan SCW): Gwybodaeth am gynllunio, comisiynu a chynhyrchu ar y cyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; pecyn offer i gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer llunio Cynlluniau Ardal.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC): Adnoddau i integreiddio a chynyddu arbenigedd a gallu wrth gynllunio, datblygu, siapio a chefnogi’r gweithlu iechyd.
  • Academi Wales: Cyfres o adnoddau dysgu, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau ar gyfer arweinwyr a rheolwyr.
  • Conffederasiwn GIG Cymru: Pynciau (e.e. cyllid, iechyd y boblogaeth, ac yn y blaen), rhwydweithiau, cefnogaeth arweinyddiaeth, cyhoeddiadau, digwyddiadau a newyddion.
  • Datblygu a chynllunio gwasanaeth iechyd (rhan o’r Public Health Textbook): Mae HealthKnowledge yn ‘siop un stop’ a fydd yn darparu’r holl ddeunyddiau dysgu iechyd y cyhoedd i chi, beth bynnag yw eich cymhwysedd presennol.

Cyngor a chymorth lleol ar gynllunio
Gallai cyngor a chymorth fod ar gael i glystyrau gan eich tîm gofal sylfaenol lleol, gan gynnwys drwy swyddogion cymorth datblygu clwstwr.

Cyngor a chymorth lleol ar iechyd y cyhoedd
Gall cyngor iechyd y cyhoedd fod yn eang a bydd fel arfer yn eirioli i ganolbwyntio’r ffocws ar wella canlyniadau iechyd y boblogaeth, blaenoriaethu gwaith atal/ canfod yn gynnar niweidiau y gellir eu hosgoi, a lleihau anghydraddoldebau o ran mynediad a chanlyniadau iechyd.  Gallai cyngor a chymorth fod ar gael i glystyrau gan eich tîm iechyd y cyhoed lleol:

Yn gyffredinol, mae datblygu cynlluniau yn cynnwys deall anghenion iechyd a phatrymau o ddefnydd poblogaethau lleol o wasanaethau (yr adran hon), nodi opsiynau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer camau gweithredu i wella (2c), a chytuno ar flaenoriaethau i’w gweithredu (2d). Mae asesiad traddodiadol o anghenion iechyd yn edrych ar boblogaethau drwy “lens” data agregedig sy’n canolbwyntio ar glefydau penodol (yn wahanol i reoli iechyd y boblogaeth; gweler 2b isod). Mae’n dibynnu’n aml i raddau helaeth ar ddata cenedlaethol a gesglir yn rheolaidd sy’n deillio’n rhannol o ffynonellau anghlinigol, ond bydd hefyd yn ymgorffori data clinigol lleol pan fydd ar gael.

Olion Traed asesu a chynllunio yng Nghymru
Mae cyfarwyddebau lluosog yn gofyn am baru asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth ac allbynnau cynllunio ar draws olion traed daearyddol a/neu strwythurol amrywiol yng Nghymru.  Darperir trosolwg o’r rhain ar y dudalen ganlynol:

Patrymau asesu anghenion iechyd

Dulliau sy’n canolbwyntio ar ddata
Mae asesiadau o anghenion traddodiadol yn cynnwys coladu a chyflwyno data gwybodaeth iechyd perthnasol sydd ar gael o ffynonellau cenedlaethol a byrddau iechyd.  Pan ddefnyddir y dull hwn yn unig, gallai gael ei ddisgrifio yn “asesiad anghenion desg”.  Gall y data hyn fod ar sawl ffurf, ond fel arfer maent yn mynd i’r afael â phynciau/ cyflyrau ar wahân; ni roddir ystyriaeth ddigonol o gydafiachedd; ac mae diffyg gwybodaeth gysylltiol rhwng setiau data.  Gellir ystyried dangosyddion sy’n gysylltiedig â phrosesau/ perfformiad neu ganlyniadau o ddiddordeb fel a ganlyn:

  • Data epidemioleg: Disgrifio nodweddion clefyd yn ôl person, lle ac amser - nodweddion cysylltiedig eraill, er enghraifft rhyw, ethnigrwydd, amddifadedd ardal leol, ac yn y blaen.  Bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi a’u cyflwyno yn aml fel cyffredinrwydd cyflwr (o bosibl yn ôl oedran neu ryw, ar ôl-troed daearyddol penodol ac yn ddelfrydol gyda thueddiadau amser) neu ddigwydded (e.e. achosion newydd fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ystod cyfnod o flwyddyn).
  • Data gweithgarwch gwasanaeth: Mae hyn yn disgrifio sut mae pobl â chyflyrau penodol neu grŵp o gyflyrau yn defnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael (e.e. nifer yr ymgynghoriadau dros y ffôn neu’r cyfraddau derbyniadau i’r ysbyty).
  • Data cymharol: Pan fyddant ar gael, gellir cyfosod data o feysydd eraill gyda data ar gyffredinrwydd/digwydded neu ddata gweithgarwch gwasanaeth.  Er enghraifft gellir gwrthgyferbynnu cyffredinrwydd mesuredig gyda chyffredinrwydd disgwyliedig (sy’n cael ei amcangyfrif yn aml drwy lenyddiaeth ymchwil) er mwyn archwilio bylchau posibl canfyddiad achosion, neu awgrymu baich lleol gormodol o glefydau.  Gallai cyfraddau mynychu gwahanol ar gyfer ymyriadau sgrinio fod yn arwydd o rwystrau er enghraifft mynediad gwael; mae’n bosibl y gellir nodi gwahaniaethau dros amser yn ogystal â lleoliad neu nodweddion eraill (e.e. pwysau tymhorol).

Ffynonellau data gwybodaeth iechyd
Mae nifer o sefydliadau yn darparu gwybodaeth iechyd yng Nghymru, pob un yn cynhyrchu nifer o gynnyrch penodol, a gallai pob un gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd unigryw.  Gall ceisio mynd i’r afael ag ystod amrywiol o adnoddau arbenigol fod yn frawychus ac yn heriol i’w dehongli - yn arbennig i’r rhai sydd angen gwneud hynny’n anaml.  

Ffynonellau data gwybodaeth iechyd: Mynegai o ffynonellau data cenedlaethol a allai hysbysu asesiadau o anghenion lleol

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc sy’n ymgorffori cyfeiriadau pynciau penodol i ddadansoddiadau data sy’n berthnasol i anghenion iechyd lleol.

    Dulliau sy’n seiliedig ar asedau
    Mae diffiniad Llywodraeth Cymru o atal yn eang: “Atal yw gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r deilliannau gorau posib, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a lleoliadau i’w cyfrannu”. Mae’r pandemig Covid wedi creu gwasanaethau iechyd a lles “dros dro” mewn asedau cymunedol, a oedd yn cael eu hystyried yn “ddarpariaeth hanfodol mewn cymunedau anghysbell lle mae amddifadedd a rhwystrau traddodiadol i gynhwysiant yn galw am wasanaethau hawdd eu cyrraedd sy’n agos i gartrefi pobl.” (BCT, 2020). Dylid ystyried unrhyw asedau neu sefydliadau partner lleol posibl perthnasol a allai hwyluso’r broses o gynhyrchu ar y cyd.  Gallai’r mynegeion asedau lleol helpu i adnabod y rhain.

    • Dewis Cymru: Cronfa ddata chwiliadwy (yn ôl gair allweddol, categori, awdurdod lleol, canlyniad, cod post) sy’n cyfeirio at 6,000 a mwy o wasanaethau llesiant lleol a chenedlaethol.
    • Map o Asedau Cymunedol yng Nghymru: Map cliciadwy gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy’n grwpio asedau yn ôl categori y mae’r gymuned yn berchen arnynt neu’n eu rhedeg.

    Dulliau cyfranogol
    Gelwir y broses o ymgorffori safbwyntiau rhanddeiliaid ar gwestiynau ail-ddylunio gwasanaeth yn ddull “corfforaethol”.  Gallai cyfranogiad ac ymgysylltiad gynrychioli unrhyw ris ar yr “ysgol gyfranogi”, gan amrywio fel arfer o hysbysu (“gwneud ar gyfer”) i gyd-gynhyrchu (“gwneud gyda”). Gallai cyd-gynhyrchu leoli rhanddeiliaid fel partneriaid hanfodol yn y broses o ddylunio, cynnal a dehongli asesiadau o anghenion lleol.  Gall dulliau ar gyfer casglu safbwyntiau gynnwys arolygon, dadansoddi adborth, grwpiau ffocws, cyfweliadau gyda hysbyswyr allweddol, ac yn y blaen.  Yn gyffredinol, gall dau grŵp gwahanol gyfrannu safbwyntiau:

    • Defnyddwyr cymunedol/ gwasanaethau: Nodi cyfleoedd i gyd-gynhyrchu wrth ymgysylltu â chymunedau lleol i sicrhau bod cynlluniau yn adlewyrchu eu llais a’u mewnbwn a defnyddio iaith sy’n siarad â hwy ac ar eu rhan.
    • Gweithwyr proffesiynol: Ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (gan gynnwys drwy fentrau cydweithredol proffesiynol ACD ac iechyd y cyhoedd) ynghylch eu safbwyntiau ar flaenoriaethau lleol (“anghenion normadol”) a datrysiadau posibl.

    Gweler hefyd Pecyn Offer ACD sy’n cwmpasu cyfathrebu ac ymgysylltu.

    Grwpiau agored i niwed ac wedi’u hymyleiddio
    Mae rhai grwpiau yn cael llai o gyfle i gymryd rhan/lleisio eu barn wrth gynnal asesiadau angen neu mewn sgyrsiau ar ail-gynllunio gwasanaethau.  Pan fydd gorgyffwrdd rhwng ffocws pwynt gofal ar grwpiau agored i niwed ac wedi’u hymyleiddio a’r agenda anghydraddoldebau cymdeithasol eang iawn, gallai fod yn ddefnyddiol egluro’r dull gweithredu a ddilynir fel a ganlyn:

    • Rydym yn mesur anghydraddoldebau mewn poblogaethau a rhannau mawr (a ddiffinnir fel grwpiau) mewn poblogaethau
    • Rydym yn defnyddio dulliau gweithredu poblogaeth gyfan er mwyn lleihau anghydraddoldebau (anghydraddoldebau sy’n anghyfiawn ac y gellir eu hosgoi), sy’n ymwneud yn bennaf â mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a gweithredoedd sefydliadau mwy, er enghraifft y llywodraeth a sefydliadau cenedlaethol neu ranbarthol
    • Rydym yn defnyddio dulliau gweithredu wedi’u targedu ar y cyfan ar gyfer cyflawni anghenion penodol unigolion, teuluoedd a chymunedau llai y nodwyd eu bod yn agored i niwed neu wedi’u hymyleiddio; gallai camau gweithredu fod ar lefel claf neu glwstwr ac wedi’u teilwra i fynd i’r afael â phryderon penodol e.e. mynediad gwell at wasanaethau sgrinio ar gyfer anfantais benodol (yn hytrach nac yn fwy cyffredinol).

    I grwpiau agored i niwed neu wedi’u hymyleiddio, gallai llethr “ysgafn” anghydraddoldeb (e.e. a ddangosir fel plot cwintel canlyniad o gymharu ag amddifadedd) ymddangos mwy fel ymyl clogwyn. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn ffafrio ail-gyflunio gwasanaethau fel eu bod yn cyflawni gwelliannau i bawb, ond dylid cydnabod yr ymdrech ychwanegol sydd ei angen ar gyfer y grwpiau hyn sydd â mwy o anghenion heb eu diwallu (mae hyn yn gysyniad cyffredinoliaeth gymesur).

    I gyfeirio pobl at gamau gweithredu cydweithfeydd proffesiynol, gweler y canlynol:

    Grwpiau agored i niwed ac ymylol :  Nodi anghenion grwpiau agored i niwed ac ymylol 

    Dulliau o gyfosod data
    Bydd angen coladu a/neu ddadansoddi a fformatio data a gasglwyd o ffynonellau lluosog er mwyn ei gyflwyno.  Er enghraifft, gallech driongli canfyddiadau o lenyddiaeth ryngwladol, proffilio lleol a lleisiau cymunedol/proffesiynol yn naratif wedi’i hysbysu gan dystiolaeth.  Efallai y byddwch yn ategu cyfrol dechnegol gyda ffeithluniau mwy hygyrch.  Mae’n bosibl cyfosod data mewn nifer o wahanol ffyrdd; ceir strwythur defnyddiol i gefnogi penderfyniadau comisiynu gwybodus fel a ganlyn.

    Dulliau o gyfosod data: Pedwar cwestiwn allweddol i helpu i strwythuro naratif o anghenion y boblogaeth

    Deall amrywiad
    Gallai data meintiol a gwybodaeth arall ddangos amrywiad o ran mynediad at neu ganlyniadau gofal, a all, neu beidio, gyfateb i anghenion heb eu diwallu grwpiau hysbys sy’n agored i niwed.   Dylai asesiadau o anghenion geisio a thrafod amrywiad o’r fath yn weithredol:

    • Nid yw amlygu amrywiad yn feirniadaeth; mae’n ffenomen naturiol a gall fod yn iach.  Er enghraifft, gall fod yn ganlyniad bwriadol arloesedd mewn lleoliadau gofal sylfaenol sy’n ceisio profi gwelliannau i brosesau neu gyflawni canlyniadau gofal gwell.
    • Mae’n bosibl y cyfeirir at amrywiad sy’n cael ei arsylwi (neu ei fesur yn fwy penodol) mewn cyd-destun gofal iechyd fel anghydraddoldeb.
    • Yr enw ar anghydraddoldeb y bernir y gellir bod wedi’i osgoi ac sy’n anghyfiawn yn gymdeithasol yw annhegwch, a ddisgrifir weithiau fel amrywiad.
    • Nid yw proffiliau data yn darparu esboniad ar beth allai gyfrif am hyn ar lefel dangosydd.  Mae yna lawer o resymau posibl am amrywiad – cadarnhaol a negyddol, er enghraifft cyfansoddiad demograffig; daearyddiaeth a’i heffaith ar fynediad at wasanaethau; gweithgareddau gwella ansawdd; nodweddion gweithredu rhaglen; cyfyngiadau adnoddau; gwybodaeth am arfer gorau; argaeledd arbenigedd gwella ansawdd; cryfder tystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gwella effeithiol; materion sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac yn y blaen.
    • Mae’r rhai sy’n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol mewn sefyllfa dda i adlewyrchu ac ystyried (mewn amgylchedd adolygu cyfoedion cefnogol) perthnasedd esboniadau posibl dros unrhyw amrywiad a ddangosir mewn asesiad o anghenion lleol.
    • Pan fydd amrywiad yn amlwg, dylid sicrhau mai’r cam cyntaf bob amser fyddai i ddilysu cywirdeb y dadansoddiad drwy ymgynghori â’r ffynhonnell ddata wreiddiol, rhag ofn y bydd gwallau anfwriadol.  Dylid deall bod amrywiad a ddangosir gan unrhyw offer yn “amcangyfrif gorau” ar un pwynt mewn amser.  Mae amrywiad yn fwy cyfnewidiol na’r hyn y mae ciplun yn ei awgrymu, felly gallai mesuriad ar adeg arall ddangos darlun gwahanol (gan gynnwys tueddiadau).

    Adnoddau ategol
    Gallai canllawiau cyffredinol, hyfforddiant a chyngor gynorthwyo clystyrau gyda gofynion asesiadau anghenion.  Gallai hyn gynnwys y canlynol:

    • Dulliau o asesu anghenion a chanlyniadau gofal iechyd a’r defnydd a wneir ohonynt a gwerthuso iechyd a gofal iechyd (rhan o’r Public Health Textbook): Mae HealthKnowledge yn ‘siop un stop’ a fydd yn darparu deunyddiau dysgu iechyd y cyhoedd i chi, waeth beth yw eich cymhwysedd presennol.
    • Pecyn offer asesu’r boblogaeth (a gynhelir gan SCW): Mae’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datblygu’r Pecyn Offer Asesu’r Boblogaeth hwn, ochr yn ochr â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid, i gefnogi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Cafodd ei gynllunio i gynorthwyo awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gynnal asesiad o’r boblogaeth a chyhoeddi eu canlyniadau.
    • Cyngor a chymorth iechyd y cyhoedd lleol (gweler PCCC adran 1).

    Mae rheoli iechyd y boblogaeth yn “lens” amgen i asesiad anghenion traddodiadol.  Mae’n golygu edrych ar yr un boblogaeth gan ddefnyddio data ar lefel cleifion wedi’u trefnu yn gydrannau neu glystyrau ar sail anghenion.  Mae’n archwilio’r defnydd o adnoddau yn seiliedig ar gyffredinedd risg i ddisgrifio anghenion gofal, gan hwyluso’r defnydd gorau o’r ddarpariaeth gofal a’r defnydd o adnoddau yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus

    Mae rheoli iechyd y cyhoedd fel dull gweithredu yng Nghymru wedi’i dreialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) ac mae’n cynnwys cydrannau â chyswllt agos o gylchrannu, haenu risgiau a dadansoddi amrywiad wedi’i addasu achosion cymysg.  Yn bwysicach, dylid ystyried asesiadau traddodiadol o anghenion a rheoli iechyd y boblogaeth fel elfennau cyflenwol wrth iddynt fynd i’r afael ag anghenion cyflawni cynllunio a gofal iechyd penodol; maent yn rhannu’r her o drosglwyddo data yn wybodaeth y gellir gweithredu arni.

    Cylchrannu
    Mae cylchrannu’n cynnwys y nodweddion canlynol

    • Gall cylchrannu’r boblogaeth yn seiliedig ar ystod o ffactorau nodi grwpiau yn ôl eu hangen holistaidd a’u gallu i elwa ar ofal rhagflaenol.
    • Mae cylchrannu’n cynnwys cysylltu setiau data gofal sylfaenol, eilaidd, a, lle byddant ar gael, setiau data gofal cymunedol a chymdeithasol er mwyn ystyried newidynnau cymdeithasol-ddemograffig, morbidrwydd, y defnydd o ofal (e.e. derbyniadau cleifion mewnol dewisol, derbyniadau cleifion heb eu trefnu, derbyniadau cyntaf a dilynol cleifion allanol, ymweliadau i’r Adran Achosion Brys, ymweliadau i bractis meddyg teulu a phresgripsiynau), gwybodaeth am gostau a ffactorau risg.
    • Mae cylchrannau (grwpiau o gleifion) yn deillio ar sail proffiliau o anghenion a rennir.
    • Datgelodd canlyniadau cylchrannau mewn CTM bod angen gofal iechyd sylweddol a chymhleth yn nodwedd ar draws y grwpiau oedran a bod hyn wedi’i ysgogi gan amddifadedd a ffactorau risg ymddygiad yn hytrach nac oedran a chyfyngiadau swyddogaethol.
    • I gefnogi gwelliannau cynllunio i iechyd y boblogaeth, mae angen nodi a gweithredu camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth ar sail cylchrannau unigol.  Ystyrir mai teilwra ymyriadau i gylchrannau penodol yw’r ffordd orau o sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau gofal iechyd.

    Haenu risgiau
    Mae haenu risgiau yn cynnwys y nodweddion canlynol:

    • I gefnogi penderfyniadau clinigol, mae haenu risgiau cleifion unigol yn seiliedig ar fodel ACG John Hopkins (felly mae buddiannau lefel glinigol/unigol a lefel y boblogaeth i’r dull gweithredu hwn).
    • Mae sgorau risg yn cael eu llunio o newidynnau amrywiol (e.e. oedran, rhyw, meddyginiaeth, clefyd ac yn y blaen) a gellir eu defnyddio ar gyfer modelau rhagfynegol amrywiol (e.e. tebygolrwydd derbyniadau brys mewn ysbyty).
    • Gellir defnyddio’r sgorau hyn ar lefel practis meddyg teulu, clwstwr a bwrdd iechyd i nodi unigolion neu grwpiau o gleifion yn y grwpiau risg uchaf a fydd yn galluogi’r broses o reoli a lleihau risg drwy ofal wedi’i dargedu a gofal rhagweledol.

    Amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg
    Mae dadansoddiad o amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg yn adeiladu ar y data cylchrannu a haenu risgiau ac mae ganddynt y nodweddion canlynol:

    • Mae dadansoddiad o amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg yn cynhyrchu mynegeion defnydd gofal iechyd amrwd ac wedi’u haddasu ar gyfer practisau, clystyrau a byrddau iechyd.
    • Mae addasu ar gyfer achosion cymysg yn galluogi cymhariaeth wirioneddol rhwng darparwyr neu ardaloedd.
    • Mae llwyfan adrodd yn galluogi cymhariaeth o gyfraddau wedi’u haddasu ar gyfer achosion cymysg gyda meddygon teulu dienw eraill yn y clwstwr, cyfartaledd y clwstwr, cyfartaledd y bwrdd iechyd, ac o bosibl ar draws clystyrau yn genedlaethol.
    • Unwaith eto, mae’n rhaid nodi ymyriadau ar sail tystiolaeth er mwyn hysbysu dulliau rheoli sy’n seiliedig ar ofal rhagweledol ac ataliol.

    Gweithrediadau lleol
    Nid oes dull rhaglen ar lefel Cymru gyfan i reoli iechyd y cyhoedd.  Gwnaed cynnig wedi’i nodi gan Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus i ddatblygu’r dull gweithredu gyda nifer fach o glystyrau ym mhob bwrdd iechyd drwy’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol; sicrhaodd hyn gymorth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ond nid yw wedi’i ariannu hyd yma, yn rhannol oherwydd y pandemig Covid.  I gael y newyddion diweddaraf am y gweithgarwch presennol ac i ganfod a yw’r offer hyn ar gael i gefnogi asesiad o anghenion, dylai clystyrau gysylltu â’u timau gofal sylfaenol a/neu eu timau iechyd y cyhoedd lleol.

    Mae manteision penderfyniadau sy’n cael eu hysbysu gan dystiolaeth yn hysbys.  Mae peidio defnyddio tystiolaeth i hysbysu penderfyniadau (pan fydd tystiolaeth ar gael) yn creu’r risg o wneud y peth anghywir – sy’n arwain at ganlyniadau is na’r safon ddisgwyliedig neu ni chyflawnir y canlyniadau bwriadedig, costau cyfle gwastraffu arian ac ymdrech, a niweidiau y gellir eu hosgoi o bosibl).  Gall dibynnu ar synnwyr cyffredin, barn arbenigol neu brofiad achosi problemau (yr enghraifft glasurol yw cyngor angheuol Dr Spock i osod babanod i gysgu ar eu blaenau).  Nid tystiolaeth yw’r unig ddylanwad ar brosesau gwneud penderfyniadau (gweler adran 2d). 

    Diffinio’r cwestiwn
    Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynegi cwestiwn clir fel rhagarweiniad i ganfod tystiolaeth briodol.  Mae cwestiwn da yn helpu i sicrhau bod y dystiolaeth yn cyd-fynd â’r cwestiwn, yn hytrach na’r cwestiwn yn addasu i gyd-fynd â’r dystiolaeth.  Mae’n:

    • Tywys eich strategaeth chwilio (eich dull o ddewis ffynonellau a chystrawen).
    • Helpu i gadarnhau a yw’r dystiolaeth rydych wedi’i chanfod yn berthnasol i’r mater/ problem dan sylw (h.y. dethol a gwerthuso).
    • Helpu i benderfynu sut y gallech gyfosod tystiolaeth (h.y. gwneud synnwyr rhesymegol o’r hyn sy’n berthnasol yn eich tyb chi).
    • Sicrhau cydbwysedd ar draws dimensiynau eglurder, ffocws a chymhlethdod.

    Mae’r cofair PICO yn ddull defnyddiol (mae yna amrywiadau eraill) ar gyfer tynnu sylw at anatomi pwrpasol eich cwestiwn a dylunio eich strategaeth chwilio:

    • Claf, Poblogaeth neu Broblem e.e. 65+ oed yng Nghymru neu Diabetes Math 2
    • Ymyrraeth e.e. cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff neu gyngor ffordd o fyw
    • Cymharydd(cymaryddion) e.e. gofal arferol neu ragnodi Wonderstatin
    • Canlyniad(au) e.e. colli 10% o bwysau, sgôr risg CHD

    Canfod tystiolaeth
    Gellir ceisio tystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i gadw pobl yn iach neu i gefnogi ymatebion i anghenion (sy’n gysylltiedig â salwch).  Mae tystiolaeth yn cyfeirio at ganfyddiadau o ymchwil a gwybodaeth o ffynonellau eraill sydd â gwerth i helpu i wneud penderfyniadau.  O ran tystiolaeth:

    • Mae angen barn bwrpasol i gadarnhau a yw’r math/ffynhonnell yn gymesur i’r penderfyniad y bydd yn ei hysbysu (nid oes fformiwla yn anffodus).  Bydd yr hyn sy’n dystiolaeth berthnasol hefyd yn ddibynnol ar y cwestiwn sy’n cael ei holi (gweler uchod).
    • Efallai y bydd diffyg tystiolaeth, ac os felly mae opsiwn i arloesi (adran 5) a gwerthuso (adran 4).  Mae hyn yn wahanol i gael tystiolaeth o ddim effaith; yn yr achos hwn, peidiwch â’i wneud!
    • Yn ddelfrydol dylai ddisgrifio’r hyn sy’n gweithio, i bwy ac ym mha gyd-destun.  Mae hyn yn galw am eglurhad o’r ffactorau a allai gael dylanwad ar lwyddiant ymyrraeth y rhagwelir iddi weithio mewn amodau delfrydol (effeithlonrwydd) yn ymarferol (effeithiolrwydd) – gan gynnwys yng nghyd-destun GIG Cymru.
    • Gellir ei nodweddu fel hierarchaeth yn ôl dyluniad yr astudiaeth neu, gyda lens iechyd y boblogaeth, o’r gorau (yn gyffredinol) i’r lleiaf dibynnol: canllawiau ar sail tystiolaeth (e.e. NICE); adolygiadau systematig o ymchwil (h.y. ffynonellau eilaidd); prif ymchwil (astudiaethau unigol o wahanol ddyluniadau sy’n gwasanaethu gwahanol ddibenion) a “nid ymchwil”.  Fodd bynnag, gall gwerthusiadau cadarn o wasanaethau fod yn werthfawr iawn.

    Ceisiwch fod yn agored ynghylch sut mae tystiolaeth yn cael ei cheisio, ei dethol a’i gwerthuso a chydnabod cyfyngiadau’r dull rydych wedi’i ddewis.

    Ffynonellau tystiolaeth
    Gellir caffael tystiolaeth o un neu fwy o’r categorïau ffynhonnell canlynol:

    • Crynodebau sy’n integreiddio tystiolaeth o’r isaf yn yr hierarchaeth ac ar draws ffynonellau lluosog (gweler isod).
    • Cronfeydd data llyfryddol, er enghraifft MEDLINE, sydd ar gael drwy e-lyfrgell GIG Cymru.
    • Gwefannau sy’n perthyn i sefydliadau, sy’n cynnwys safonau polisi neu ofal proffesiynol perthnasol e.e. RCGP.
    • Cyfnodolion pynciau penodol, y gellir chwilio drwyddynt am erthyglau perthnasol ar-lein neu â llaw.
    • Pyrth chwilio e.e. Trip neu Hwb Gwybodaeth a Llyfrgell y GIG (mae’r ddwy ffynhonnell yn caniatáu mynediad PICO)
    • Peiriannau chwilio e.e. Google neu Google Scholar Gellir eu defnyddio’n fedrus i wella penodolrwydd y canlyniadau.  Cynghorir defnyddio’r prawf CRAP (Currency; Reliability/ Relevance; Authority/ Audience; and Purpose/ Point of view).

    Mae ffynonellau crynodebau sydd wedi’u crynhoi ymlaen llaw (tystiolaeth eilaidd) er mwyn gwella yn cynnwys:

    Canllawiau NICE: Argymhellion ar sail tystiolaeth a ddatblygwyd gan bwyllgorau annibynnol,  sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ac aelodau lleyg, ac sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad gan randdeiliaid.

    • Safonau ansawdd NICE: Pennu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella ansawdd; pwysleisio meysydd ag arfer presennol amrywiol.
    • Crynodebau gwybodaeth glinigol NICE: Darparu crynodeb hygyrch i ymarferwyr gofal sylfaenol o’r dystiolaeth bresennol a chanllaw ymarferol ar arfer gorau.
    • Cylchlythyr diweddariad ar gyfer gofal sylfaenol NICE: Gellir tanysgrifio i dderbyn newyddion a chanllawiau misol ar gyfer meddygon teulu a staff gofal sylfaenol.
    • Adolygiadau yn Llyfrgell Cochrane Casgliad o gronfeydd data sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol safonol a thystiolaeth annibynnol i hysbysu penderfyniadau gofal iechyd.
    • Arfer Gorau BMJ: Offer pwynt gofal cyffredinol ar sail tystiolaeth, sydd wedi’i strwythuro mewn ffordd unigryw o amgylch ymgynghoriad y claf gyda chyngor ar werthuso symptomau, trefnu profion a’r dull trin.
    • Gwasanaeth Tystiolaeth yr Arsyllfa (OES) Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adolygiadau systematig, mapiau tystiolaeth a chrynodebau cyflym; mae’r casgliadau’n cwmpasu Covid-19, ymddygiad iechyd, a phenderfynyddion ehangach iechyd. Gweler hefyd yr eirfa a rhestr o ffynonellau i gael tystiolaeth eilaidd werthfawr, a ddefnyddir gan OES i greu mapiau tystiolaeth.

    Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc sy’n ymgorffori opsiynau gweithrediadau gwella pynciau penodol.

    Dethol a gwerthuso tystiolaeth
    Gwerthusiad beirniadol yw’r broses o archwilio tystiolaeth ymchwil yn ofalus ac yn systematig i farnu ei ddibynadwyedd, ei werth a’i berthnasol mewn cyd-destun penodol (Burls 2009). Am nad yw adolygiadau cyfoedion yn warant o ansawdd, dylid cynnal rhyw lefel o werthuso beirniadol ar gyfer yr holl dystiolaeth rydych wedi’i dethol fel y bo’n berthnasol, sut bynnag y’i cyhoeddir. Fel arfer mae gwerthuswyr academaidd / proffesiynol yn defnyddio rhestrau gwirio dyluniad penodol ar gyfer erthyglau cyfnodolion (e.e. CASP); gallwch ofyn y cwestiynau beirniadol canlynol i helpu i sifftio i ganfod y rhai defnyddiol (Gweler hefyd casgliad How to read a paper BMJ):

    • A yw o ddiddordeb? Sganio’r teitl/ crynodeb.
    • Pam mae wedi’i ysgrifennu? Sganiwch y cyflwyniad.
    • Sut y cafodd ei ysgrifennu? Sganiwch yr adran dulliau.
    • Beth a ganfuwyd? Sganiwch yr adran canlyniadau.
    • Beth yw’r goblygiadau? Sganiwch y crynodeb/ trafodaeth ac ystyried cyd-destunoli (A ellir addasu hyn i gyd fynd â’r cyd-destun lleol/ Cymru?).
    • Pwy wnaeth ei ariannu? A yw’r ffynhonnell gyllido/ datganiadau o fuddiant yn awgrymu rhagfarn bosibl?

    Rhannu’r hyn a ddysgir ac arbenigedd
    Dylai manteision rhannu gwybodaeth a phrofiad (sy’n cynnwys llwyddiannau a methiannau) fod yn amlwg.  Mae cydweithio yn un ffordd o hwyluso hyn, fodd bynnag, rydym yn wael am rannu gwybodaeth ar y cyfan (e.e. adroddiadau gwerthuso) a’u gweithredu cyn dysgu, o fewn ac ar draws sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru.  Gellir dweud bod yr un peth yn wir am rannu gyda ac o gymunedau/defnyddwyr gwasanaeth.  Gallai opsiynau i atgyfnerthu defnydd tystiolaeth trwy brofiad gynnwys:

    • Blwyddlyfrau clwstwr, sy’n gallu bod yn dystiolaeth i ddarganfod beth sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o Gymru (2019; TBC)
    • Cyflwyniadau/ gweithdai yn y Gynhadledd Gofal Sylfaenol Genedlaethol
    • Digwyddiadau dysgu ad hoc
    • Rhwydweithio drwy gyfranogi mewn fforymau gofal sylfaenol amrywiol (e.e. Rhwydwaith Arweinwyr Clwstwr).
    • Ymrwymo i werthuso a chyhoeddi ar ddulliau arloesol (e.e. gweler adran 5)
    • Mynd ati i chwilio’n weithredol am gyfleoedd partneriaeth (gweler dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar asedau, adran 2a)
    • Ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth (gweler dulliau gweithredu cyfranogol, adran 2a)
    • Gweithredu’r hyn a ddysgwyd o’r Rhaglen Pacesetter (gweler adran 5).

    Gellir fframio templed syml i gefnogi proses ehangach o rannu’r hyn a ddysgwyd o rannau eraill o Gymru o amgylch y cwestiynau canlynol:

    • Pa broblem oedd yn cael ei thrafod?
    • Beth a wnaed i fynd i’r afael â hyn?
    • Sut mae hyn yn dangos arfer da?
    • Pa ddysgu allweddol y gellir ei rannu?
    • Pwy wnaeth hyn neu gyda phwy y gellir cysylltu â hwy gydag unrhyw ymholiadau?

    Adnoddau ategol
    Gallai datblygu cyfleoedd ar gyfer timau/ staff ategol clystyrau gynnwys:

    • Dod yn gyfarwydd â’r “hierarchaeth tystiolaeth” ac ystyried addasrwydd y ffynonellau tystiolaeth/ dulliau cyfosod i’w diben.
    • Gwneud defnydd mwy effeithiol o Google (neu offer chwilio eraill).
    • Dysgu mwy am yr hyn mae cyfrif OpenAthens o e-Lyfrgell GIG Cymru yn ei gynnig (mynediad dilys i adnoddau electronig).
    • Mae gan dimau iechyd cyhoeddus lleol (er eu bod yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru) fynediad at gyfres o ganllawiau tystiolaeth (mewnrwyd yn unig), i’w defnyddio gan staff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys holi’r cwestiwn; canfod y dystiolaeth; adolygu’r dystiolaeth; gwerthusiad beirniadol a gweithredu ar dystiolaeth.  Fodd bynnag, Ni ddylid eu hailadrodd neu eu rhannu mewn unrhyw amgylchiadau gyda sefydliadau allanol oni thrafodir hyn yn gyntaf gyda’r Gwasanaeth Tystiolaeth.”

    Dylai cytuno ar flaenoriaethau i’w gweithredu adlewyrchu blaenoriaeth atal (er mwyn lleihau baich afiechyd y gellir ei osgoi yng Nghymru) ac ystyried cyfeiriadau strategol amrywiol a fydd yn hwyluso aliniad gwaith cynllunio, er mwyn i gamau gweithredu ar y cyd arwain at welliannau mesuradwy yn iechyd y boblogaeth.

    Cyfeiriad strategol allweddol
    Bydd alinio gweithgareddau clwstwr gyda dogfennau strategol allweddol yn helpu i sicrhau y bydd blaenoriaethau asiantaethau a phartneriaethau lleol eraill (e.e. Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus) a chyrff cenedlaethol (e.e. Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn dylanwadu ar gamau gweithredu clwstwr wedi’u cynllunio – yn ogystal â’r blaenoriaethau a nodwyd yn lleol.  Gellir canfod cyfeiriad strategol allweddol yn y canlynol:

    • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Deddfwriaeth sy’n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
    • Cymru iachach: Wedi’i gyhoeddi mewn ymateb i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (yma), mae’n cyflwyno’r weledigaeth hirdymor o ddull gweithredu system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol drwy fodel sy’n canolbwyntio ar iechyd, llesiant ac atal salwch.  Mae hefyd yn cyflwyno’r Nod Pedwarplyg o wella iechyd a llesiant y boblogaeth; ansawdd gwell a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy hygyrch; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy a llawn cymhelliant.
    • Rhaglen lywodraethu: Mae’r rhaglen yn ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r amcan llesiant o ddarparu gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy o safon uchel.
    • Blaenoriaethau gweinidogol: Ar gyfer 2022-23 y rhain yw’r ymateb i Covid-19; adferiad y GIG; gweithio ochr yn ochr â gofal cymdeithasol; Cymru Iachach; cyllid y GIG a rheoli o fewn yr adnoddau; Iechyd a llesiant meddyliol ac emosiynol; Cefnogi’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; ac iechyd y Boblogaeth
    • Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC): Y rhaglenni allweddol ar gyfer 2022-23 yw Datblygu Clystyrau Carlam; Gofal Sylfaenol Brys; Seilwaith Cymunedol; a Llesiant Meddyliol.
    • Fframwaith Clinigol Cenedlaethol: Mae’r fframwaith yn disgrifio sut y dylid cynllunio gwasanaethau clinigol gan ddefnyddio llwybrau system gyfan, oes cyfan gyda mesuriadau a safonau canlyniadau/ profiad y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, ond sy’n cael eu cyflenwi’n lleol yn ôl nodweddion y boblogaeth a’r gweithlu.
    • Ein strategaeth hyd at 2024 (Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru): Galluogi dull gweithredu system gyfan i ofal iechyd ar sail gwerth i Gymru.
    • Cynlluniau ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: Mae pob Bwrdd (a restrir yma) yn cynhyrchu cynllun ardal rhanbarthol.
    • Cynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus: Mae pob Bwrdd (sydd wedi’u mynegio yma) yn cynhyrchu cynllun llesiant lleol blynyddol.
    • Cynllun blynyddol/ Cynllun Tymor Canolig Integredig byrddau iechyd lleol: Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol (a restrir yma) yn cynhyrchu cynllun blynyddol neu gynllun tymor canolig integredig yn unol â fframwaith cynllunio blynyddol GIG Cymru.
    • Cynllun blynyddol/ Cynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru: Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynhyrchu cynlluniau strategol sy’n nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd y boblogaeth.

    Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc sy'n ymgorffori cyd-destun strategol yn ôl pynciau penodol.

    Mathau o benderfyniadau
    Mae matrics Stacey yn ddull o ddeall y gwahanol fathau o benderfyniadau y gellir gwneud hyn: ceir disgrifiad pellach o hyn yn Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru):

    • Mae penderfyniadau rhesymegol yn deillio o bresenoldeb lefelau uchel o gytundeb a sicrwydd
    • Mae penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu nodweddu gan lefelau uchel o sicrwydd, ond gyda lefelau is o gytundeb ynglŷn â’r camau gweithredu gorau
    • Mae penderfyniadau beirniadol wedi’u nodweddu gan lefelau uchel o gytundeb ym mhresenoldeb llai o sicrwydd ynglŷn â’r camau gweithredu gorau

    Gall penderfyniadau gwleidyddol gael eu dylanwadu gan ffactorau sy’n cynnwys:

    • Cyngor technegol/ proffesiynol, yn seiliedig ar dystiolaeth (a fydd, yn ddelfrydol, yn dynodi lefel uchel o elw ar fuddsoddiad, a/neu werth am arian mewn perthynas â dewisiadau amgen posibl h.y. cost cyfle derbyniol)
    • Credoau personol
    • Canfyddiadau am farn y cyhoedd/ defnyddwyr gwasanaeth
    • Gwleidyddiaeth pleidiau/ sefydliadol (ac ar lefelau lleol a chenedlaethol).

    Datblygu achos busnes
    Gellir cynnwys cyfuniad o ddata sy’n disgrifio anghenion heb eu cyflawni, tystiolaeth ar gyfer gweithredu adferol, alinio â chyfeiriad strategol presennol, a chynnig i flaenoriaethu mewn achos busnes amlinellol i gefnogi proses ffurfiol o wneud penderfyniadau.  Fel arfer dychwelir at yr achos busnes wrth baratoi i’w weithredu (gweler adran 3) a datblygu yn ôl yr angen mewn ymateb i ddylanwadau arno – a allai hyd yn oed ei annilysu.

    • Achosion busnes clwstwr: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau  yn cwmpasu cyd-destun achos busnes; tystiolaeth; manteision a chyflwyno achos ariannol (Atodiad 15).  Gweler hefyd y trosolwg diagram o broses ddatblygu y prosiect a’r achos busnes.
    • Templed achos busnes: Templed sy’n cael ei ddarparu yn Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau, gan gynnwys gwerthusiad o opsiynau.
    • Achosion busnes clwstwr enghreifftiol: Wedi’u cynnwys yn Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau, mae’r enghreifftiau yn berthnasol i uned drin ac uwch ymarferwyr awdioleg.
    • Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr: Mae hyn yn cynnwys adran ar gynigion ac achosion busnes (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru)

    Adnoddau blaenoriaethu eraill
    Gallai’r adnoddau ychwanegol canlynol gefnogi penderfyniadau clwstwr:

    • Gwneud penderfyniadau clwstwr: Mae’r Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn cwmpasu egwyddorion, systemau a phrosesau ar gyfer penderfyniadau clwstwr (Atodiad 5). Gweler hefyd y samplau o fframwaith gwneud penderfyniadau, fframwaith blaenoriaethu, a traciwr penderfyniadau.
    • Gwerthusiad opsiynau: Er bod cyfeiriad at fodelau clwstwr, gellir defnyddio egwyddorion cyffredinol gwerthusiad o opsiynau, sy’n cael eu hamlinellu yn y Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau (Atodiad 9) i fathau eraill o benderfyniadau, gan gynnwys blaenoriaethu.
    • Gweithio yng Nghymru: Crynodebau o bolisïau a strategaethau allweddol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant yng Nghymru (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru).
    • Gallai themâu o’r Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT) ac adolygiadau Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer gwaith cynllunio gwasanaethau ehangach, gan sicrhau bod yr hyn a ddysgir o ddigwyddiadau a phryderon yn hysbysu gwaith datblygu gwasanaethau.

    Ar ôl penderfynu ar gwrs gweithredu - sydd wedi’i hysbysu o bosibl gan achos busnes amlinellol - mae’n bosibl y bydd angen mireinio/ diweddaru’r achos dros newid i adlewyrchu ystyriaethau cynllunio gweithredol mwy manwl wrth iddynt ddod i’r amlwg.  Ar gyfer cynlluniau prosiect bydd angen uchelgeisiau sydd wedi’u hegluro’n glir, gwaith rheoli gweithredol parhaus, nodi gofynion cyllid a’r gweithlu, a gwirio synnwyr yn erbyn ffordd o feddwl y boblogaeth am iechyd.

    Canlyniadau a modelau rhesymeg CAMPUS
    Mae canlyniadau yn disgrifio’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni (i ddefnyddwyr gwasanaeth neu eraill) drwy wneud y gweithgarwch; nid yw hyn yr un peth ag allbynnau – y pethau rydym yn eu cynhyrchu (er enghraifft adroddiad) yn y broses o gyflawni’r gweithgarwch.  Gallai helpu i feddwl am ganlyniadau fel nodau, ac allbynnau fel amcanion neu gynnyrch prosiect:

    • Dylai canlyniadau fod yn rhai CAMPUS (SMART) yn benodol (cyraeddadwy; amserol; mesuradwy; penodol; uchelgeisiol a synhwyrol). Yn ogystal, ni ddylid anghofio disgrifio’r profiad a ddymunir ar gyfer y claf/ gwasanaeth.
    • Gall modelau rhesymeg (gweler adran 4) helpu i wirio synnwyr yr elfennau y mae’n rhaid iddynt ddod ynghyd i gynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiect yn llwyddiannus – darparu eglurder ar y canlyniadau bwriadedig.

    Rheoli prosiectau
    Gellir diffinio rheoli prosiect fel y ddisgyblaeth o ddefnyddio prosesau ac egwyddorion penodol i weithredu, cynllunio, cyflawni a rheoli’r ffordd y mae mentrau neu newidiadau newydd yn cael eu gweithredu mewn sefydliad (Axelos).  Mae prosiect yn fenter dros dro sy’n bodoli i gynhyrchu canlyniad diffiniedig (Axelos) sy’n galw am weithredu, cynllunio, cyflawni, monitro (gweler hefyd adran 4) a chau i lawr.  Mae methodoleg a thempledi amrywiol yn bodoli i gefnogi pob un o’r camau hyn:

    Gweler hefyd Pecyn Offer ACD sy'n darparu templedi rheoli prosiect.

    Ffynonellau cyllid
    Gallai’r cyllid sydd ar gael i gefnogi mentrau ar sail clystyrau ddeillio o ffynonellau amrywiol, gan gwmpasu un neu fwy o’r canlynol:

    • Cyllid clwstwr
    • Cynllun rhagnodi cymhellion
    • Y Gronfa Gofal Integredig (ICF)
    • Y Gronfa Trawsnewid
    • Cyllid prif ffrwd (bwrdd iechyd craidd)
    • Cronfa Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (mae hyn yn disodli’r cyllid Pacesetter o Ebrill 2022)
    • Cyllid ymchwil (e.e. drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Canolfan PRIME Cymru; NIHR i gefnogi gwerthusiad gwasanaeth cadarn / cyhoeddiad academaidd)

    Amodau a chefnogaeth ariannol
    Bydd angen i glystyrau fod yn ystyriol o’r angen i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac arddangos diwydrwydd dyladwy o ran prosesau caffael:

    Cynllunio a chefnogi’r gweithlu
    Gellir ymgynghori â’r canllawiau, templedi a’r offer cynaliadwyedd y gweithlu canlynol:

    • Mae Cynllunio gweithlu’r clwstwr gofal sylfaenol (AaGIC): Y dull cam wrth gam i gynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol yn darparu methodoleg wedi’i symleiddio i bractisau a chlystyrau ei defnyddio i greu eu cynlluniau gweithlu.
    • Rolau gofal sylfaenol yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Dolenni cyfeirio at adnoddau amrywiol, gan gynnwys y Compendiwm o rolau a modeli newydd mewn gofal sylfaenol (yma).
    • Clystyrau gofal sylfaenol: recriwtio a hyfforddi staff: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn cwmpasu gwerthoedd ac ymddygiad; recriwtio i dimau clwstwr; cynllunio’r gweithlu; addysg a hyfforddiant staff clwstwr; a chefnogaeth a goruchwyliaeth broffesiynol (Pennod 11).
    • Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn darparu swydd-ddisgrifiadau enghreifftiol ar gyfer arweinydd clwstwr, rheolwr practis, cydlynydd clwstwr a swyddog cymorth prosiect; mae hefyd yn darparu protocol ar gyfer staff sy’n cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd lleol sy’n gweithio mewn practisau meddygon teulu a thempled ar gyfer arolwg o wybodaeth, sgiliau a hyfforddiant.
    • Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr: mae’n cynnwys adran ar gynllunio’r gweithlu (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru)
    • Primary and Community Care Allied Health Professions (AHP) Workforce Guidance: Organising principles to optimise utilisation: Mae’r papur hwn gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn gais i weithredu ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i weithredu’r egwyddorion trefnu a argymhellir i wneud y defnydd gorau o’r gweithlu Proffesiynau perthynol i iechyd ym meysydd gofal sylfaenol a chymunedol.  Mae ar gael hefyd mewn fformat cryno.
    • Cofrestr Meddygon Teulu Locwm Cymru Gyfan: Y pwynt cyswllt cyntaf i bractisau ddarganfod Meddygon Teulu Locwm sydd wedi’u cofrestru ar Gofrestr Meddygon Teulu Locwm Cymru Gyfan, y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol a sicrhau bod meddygon teulu locwm yn elwa ar y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol.
    • System Genedlaethol ar gyfer Adrodd am y Gweithlu (WNWRS): Teclyn ar gyfer gweithlu gofal sylfaenol sy’n sicrhau bod ffordd o adnabod pob meddyg teulu a gweithiwr iechyd proffesiynol a gyflogir mewn practisau, a fydd yn cael ei yswirio gan yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol.  Mae hefyd yn galluogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu yn haws.
    • GP Wales: Un pwynt unigol i hysbysebu a monitro swyddi meddygon teulu parhaol a swyddi gwag meddygon teulu locwm (sy’n ymgorffori Cofrestr Meddygon Teulu Locwm Cymru Gyfan).

    Cynllunio cyfalaf ac ystadau
    Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn ag ystadau a llety yn y lle cyntaf i'r Tîm Ystadau yn y bwrdd iechyd neu'r awdurdod lleol priodol.

    Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer safleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ar gael drwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF):

    • sefydlwyd yr IRCF er mwyn cefnogi dull cydlynol o gynllunio'r gwaith o gydleoli ac integreiddio gwasanaethau iechyd (gofal sylfaenol) a gofal cymdeithasol yn y gymuned ledled Cymru a helpu i ailgydbwyso darpariaeth gofal preswyl drwy gynyddu'r ddarpariaeth o'r tu mewn i'r sector nid er elw.
    • Dylid gwneud ceisiadau i'r IRCF drwy'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a rhaid iddynt gyfrannu at gyflawni Cynllun Cyfalaf Strategol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol.
    • Dylid cysylltu â'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol er mwyn trafod unrhyw gais posibl am gyllid o dan yr IRCF.

    Safbwyntiau iechyd y boblogaeth
    Mae’r rhestr wirio PACE yn adlewyrchu’r gwerthoedd y mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn ceisio eu cyflawni er mwyn cynnal sgyrsiau am sut y gellir ail-gyflunio gwasanaethau orau.  Nid oes angen cymhwyso hyn yn systematig, ond gallai wasanaethu fel ysgogwr meddyliol i helpu clystyrau i wirio synnwyr cynlluniau sy’n cael eu datblygu yn erbyn syniadau iechyd y boblogaeth. 

    PACE: rhestr wirio safbwyntiau iechyd y boblogaeth ar gyfer gwaith cynllunio clystyrau

    Mae monitro yn cyfeirio at bennu targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad ac i gadarnhau a yw’r mewnbynnau’n cynhyrchu’r allbynnau a gynlluniwyd, h.y. mae’n penderfynu a yw gweithrediad yn gyson â’r bwriad dylunio – sy’n awgrymu y gallwn addasu ein dull yn ystod y cyfnod monitro.  Nid yw gwerthusiad ond yn golygu arddangos llwyddiant yn y pen draw; mae hefyd yn darparu gwybodaeth pam nad yw pethau’n gweithio (oherwydd mae gwerth cyfartal i ddysgu o gamgymeriadau).  Nid yw monitro a gwerthuso yn golygu cael gwybod am bopeth (sy’n frawychus), ond maent yn canolbwyntio ar y pethau o bwys.

    Monitro prosiectau
    Mewn cyd-destun rheoli prosiect cyffredinol, mae monitro yn cynnwys goruchwylio cynnydd gwaith prosiect a diweddaru cynlluniau’r prosiect i adlewyrchu’r perfformiad gwirioneddol (Axelos). Yng nghyd-destun gofal iechyd Cymru, mae’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch (Llywodraeth Cymru; 2021) yn disgrifio dyletswydd gyffredinol o “reoli ansawdd” i sicrhau bod y gofal yn cyflawni’r chwe maes ansawdd (gofal sy’n ddiogel, sy’n effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y claf, sy’n amserol, sy’n effeithlon ac sy’n deg.  Mae gwaith mesur a monitro cefnogol yn galluogi:

    • Sicrwydd o gynnydd gweithredu, yn unol â’r disgwyliadau cyflawni o ran graddfa a chyflymder
    • Dull o gofnodi a rhannu dysgu sy’n dod i’r amlwg ar lefel leol (yn arbennig pan fydd cofnod cyfoesol yn cael ei gynnal) ac ar sail ranbarthol neu genedlaethol (fel arfer drwy adroddiadau interim), gan gyflawni’r gwerth mwyaf o brofiad gweithredu cynnar a pharhaus.
    • Sicrhau bod prosiectau yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’n llwyddiannus (gallai nodi gofynion cymorth ychwanegol/ ailgyfluniadau er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y gwaith cynllunio)
    • Cofnodi a rheoli (perchnogaeth, mesurau lliniaru ac ati) materion a risgiau —p’un a ydynt wedi’u rhagweld neu’n dod i’r amlwg
    • Cywiro cwrs adferol, neu derfynu prosiect yn annisgwyl wrth wynebu risgiau anorchfygol, niweidiau gwirioneddol neu gyfyngiadau o ran adnoddau ac yn y blaen, sy’n dibrisio’r achos busnes.

    Gwerthuso prosiect
    Mae gwerthuso yn cyfeirio at y broses strwythuredig o asesu llwyddiant prosiect neu raglen yn cyflawni ei nodau ac adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd.  Y gwahaniaeth allweddol rhwng monitro a gwerthuso yw bod gwerthuso yn gosod barn gwerth ar y wybodaeth a gasglwyd yn ystod prosiect (Cynghorau Ymchwil y DU; 2011), gan gynnwys y data monitro.  Gall yr asesiad o lwyddiant prosiect (ei werthusiad) fod yn wahanol yn ddibynnol ar farn gwerth pwy a ddefnyddir.  Mae gwerthusiad yn caniatáu:

    • Asesiad i ganfod a yw prosiect wedi cyflawni ei nodau bwriadedig
    • Deall sut mae prosiect wedi cyflawni ei ddiben bwriadedig, neu pam nad yw wedi gwneud hynny
    • Nodi pa mor effeithlon y mae’r prosiect wedi trosi adnoddau (arian neu mewn nwyddau) yn weithgareddau, allbynnau (amcanion) a chanlyniadau (nodau)
    • Asesiad o ba mor gynaliadwy ac ystyrlon fu’r prosiect i gyfranogwyr
    • Hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch y camau nesaf.

    Gallai gwerthusiadau o wasanaethau gynnwys cynigion ymchwil (gyda’r nod o ddatrys cwestiynau heb eu hateb o bosibl) neu arwain adolygiad o’r achos busnes presennol (gweler adran 3), sy’n arwain at benderfyniad i uwchraddio prosiect arloesol, llwyddiannus (gweler adran 5), parhau fel y mae neu gyda gwelliannau, neu atal y prosiect.  O ran gwerthusiad:

    • Mae’n cael ei ystyried yn gamarweiniol yn nhermau cynnyrch gweladwy yn y pen draw (er enghraifft adroddiad gwerthuso), ond mae’n fwy cadarn o’i gyflwyno fel gweithgarwch “cyn, yn ystod ac ar ôl” sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â’r prosiect ei hun.
    • Mae’n well ei gynllunio’n rhagolygol, a chasglu data yn gyfoesol (h.y. monitro) yn ystod gweithredu asesiad crynodol o ganlyniadau wedi’u diffinio ymlaen llaw; gall gwerthusiadau ôl-weithredol fod yn fuddiol, ond gallant fod yn destun rhagfarn ychwanegol.
    • Mae’n well cynnal gwerthusiad o dan oruchwyliaeth rhywun o’r tu allan i’r prosiect (unwaith eto er mwyn lleihau rhagfarn) a gyda chyfraniadau cynrychioliadol (e.e. gyda chyfranogiad y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr).
    • Gellir eu gwella drwy gynnwys data meintiol (rhifau e.e. costau) ac ansoddol (naratif neu “brofiad bywyd” e.e. drwy gyfweliadau).
    • Gall defnyddio templedi model rhesymeg a/ neu gynllun gwerthuso (gweler isod) gynorthwyo gyda hyn.

    Modelau rhesymeg
    Gall modelau rhesymeg helpu i wirio synnwyr yr elfennau y mae’n ofynnol iddynt ddod ynghyd i gynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiect yn llwyddiannus.  Gellir eu cynnwys mewn cynlluniau prosiect o’r dechrau, neu gallant hysbysu cynllun monitro a gwerthuso pwrpasol drwy ysgogi’r canlynol:

    • Mewnbynnau: Y pethau allweddol sydd eu hangen arnom i fuddsoddi/sefydlu i gefnogi’r gweithgarwch
    • Gweithgareddau: Beth i’w wneud gyda’r mewnbynnau
    • Allbynnau: Beth rydym yn ei gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgareddau
    • Canlyniadau: Beth fydd ein canlyniadau yn ei gyflawni i bobl neu wasanaethau (nodau; gall y rhain amrywio dros amser e.e. tymor byr, tymor canolig neu dymor hir a dylent fod yn rhai CAMPUS)
    • Effeithiau: Uchelgeisiau lefel uchel, yn y pen draw e.e. nodau pedwarplyg Cymru iachach
    • Rhwystrau: Yr hyn y gallai fod yn anodd i ni ddylanwadu arno neu ei oresgyn (e.e. ffactorau allanol)
    • Rhagdybiaethau: Beth rydym yn gobeithio sydd eisoes ar waith (amodau cefnogol ac yn y blaen).

    Mae model rhesymeg yn ceisio sefydlu cysylltiadau dilyniannol rhwng yr elfennau uchod, ar ffurf tabl aml-res neu ddiagram.  Weithiau mae’n haws eu poblogi o’r dde i’r chwith, yn hytrach nac o’r chwith i’r dde (gan ddechrau gyda’r mewnbynnau).  O ran gwybodaeth gefndir am fodelau rhesymeg, dylech gyfeirio at yr adnoddau canlynol:

    • Modelau rhesymeg (Data Cymru): Defnyddio modelau rhesymeg i gynllunio, mapio a nodi’r gweithgareddau a’r mewnbynnau sy’n arwain at ganlyniadau, ac i ddeall y newidiadau a ddymunir a phwy fydd yn gyfrifol amdanynt.
    • Defnyddio modelau rhesymeg i werthuso (Yr Uned Strategaeth): Paratowyd y wybodaeth hon gan GIG Lloegr, gan yr Uned Strategaeth, fel rhan o raglen hyfforddiant i gefnogi gwerthusiad cenedlaethol a lleol o raglen a safleoedd Vanguard.

    Mae templed o fodel rhesymeg syml i’w weld yn “Adnoddau cymorth ychwanegol” (isod)

    Cynlluniau gwerthuso
    Nid oes unrhyw fformwla hud ar gyfer datblygu cynllun gwerthuso cyffredinol.  Pe byddai gwerthusiad yn ôl-ystyriaeth i ryw raddau (mae’n digwydd!), gall adolygiad adlewyrchol a chynhwysol ar ôl cwblhau’r prosiect adfer rhywfaint o werth drwy holi “Beth wnaeth lwyddo?  Beth oedd yn llai llwyddiannus?  Sut allwn ni wneud hyn yn wahanol y tro nesaf?”  Gallai cynllun gwerthuso syml holi’r canlynol:

    • Beth ydym ni eisiau ei wybod? Cwestiwn/cwestiynau’r gwerthusiad; y “pethau pwysig”
    • Sut fyddwn ni’n gwybod hyn?  Y dangosyddion llwyddiant (neu niwed) y byddwn yn eu defnyddio
    • Sut fyddwn ni’n casglu data dangosol? Y ffynhonnell/ffynonellau data a’r dull dadansoddi
    • Pryd / lle y cesglir y data?  Amserlenni ac offer e.e. pwynt gofal
    • Pwy fydd yn gwneud hyn?  Monitro a gwerthuso rolau a chyfrifoldebau.

    Mae templed syml o gynllun gwerthuso ar gael yn “Adnoddau cymorth ychwanegol” (isod); gwnewch yn siŵr eich bod yn trin a thrafod pob cwestiwn gwerthuso ar ei res ei hun  Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn cynnig enghreifftiau o werthusiadau clwstwr gwirioneddol o: uwch ymarferwyr awdioleg; uned triniaeth; gwerthusiad/ therapïau; Mind ym Mro Morgannwg ; ac arloesedd/ gwerthusiad Cartref gofal ANP.

    Cynllun monitro a gwerthuso Model Gofal Sylfaenol Cymru a Datblygu Clwstwr Carlam
    Mae cynllun monitro a gwerthuso gweithrediad Model Gofal Sylfaenol Cymru a’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam yn datgan sut y bydd yr uchelgeisiau trawsnewid hyn yn darparu sicrwydd o gynnydd, dysgu a rennir a chefnogi proses o ddod â chynllunio lleol a rhanbarthol at ei gilydd.  Mae’n disgrifio cyflwyniad cam-ddoeth nifer o offerynnau a chynnyrch ategol:

    • Dangosfwrdd dangosyddion allweddol:  teil byw ar y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ar gyfer metrigau adrodd ynghylch Model Gofal Sylfaenol Cymru, Datblygu Clwstwr Carlam a chanlyniadau eraill gofal sylfaenol
    • Offer hunan-adlewyrchu: holiadur ar-lein blynyddol sy’n holi clystyrau beth sydd wedi llwyddo, beth oedd yn llai llwyddiannus neu beth y gellir fod wedi’i wneud yn wahanol
    • Fframwaith Datblygu Clwstwr: mae hyn yn nodi’r safonau a’r meini prawf aeddfedrwydd disgwyliedig ar gyfer arddangos cynnydd gweithrediad
    • Proses adolygu cyfoedion: mae hyn yn disgrifio sut y bydd clystyrau a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ymwneud â gwerthusiadau datblygiadol unwaith fesul cylch Cynllun Tymor Canolig Integredig
    • Adroddiad cynnydd gweithrediad cenedlaethol: adroddiad blynyddol interim (monitro) sy’n crynhoi cynnydd a dysgu allweddol hyd yma
    • Dadansoddiad o gyfraniad: y dull o fynd i’r afael â gwerthusiad diweddbwynt sy’n addas ar gyfer deall cymhlethdod.

    Gweler hefyd Pecyn Offer ACD sy’n cynnwys manylion cynllun monitro a gwerthuso Model Gofal Sylfaenol Cymru a Datblygu Clwstwr Carlam.

    Adnoddau cymorth ychwanegol
    Mae’r adnoddau canlynol yn darparu gwybodaeth gefndir bellach am ddiffinio gofynion monitro a gwerthuso:

    • Cynllunio prosiect clwstwr: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn trafod cofnodi a monitro a gwerthuso (Atodiad 12).
    • Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr: Mae hyn yn cynnwys adran ar werthuso (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru)
    • ​​​​​​​Modelau rhesymeg mewn gwerthusiadau: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn trafod cydrannau model rhesymeg, trafodaeth o’r mathau o werthusiadau ac mae’n darparu templedi model rhesymeg a chynllun gwerthuso.
    • ​​​​​​​Canllaw cyflwyniadol i werthuso (Data Cymru): Bydd y canllaw hwn yn cynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw gwerthusiad a pham ei fod yn bwysig ar gyfer eich prosiectau, rhaglenni a pholisïau; mae’n rhoi’r wybodaeth sylfaenol i chi er mwyn i chi ddeall pam a phryd y gallech gynnal gwerthusiad; mae’n darparu gwybodaeth i chi am y dulliau a’r prosesau y gallech eu defnyddio i gynnal gwerthusiad effeithiol; a darparu awgrymiadau i dywys a chefnogi ymhellach.​​​​​​​
    • The Magenta Book: Guidance for evaluation (Trysorlys EM): The Magenta Book yw’r canllaw a argymhellir gan lywodraeth ganolog ar werthuso sy’n cyflwyno arfer gorau i adrannau ei ddilyn; wedi’i argymell gan Data Cymru fel yr adnodd gwerthuso gorau.
    • ​​​​​​​Mae arbenigedd monitro a gwerthuso yn adnodd prin; gallai fod ar gael drwy dimau iechyd y cyhoedd lleol, neu gan bartner academaidd (a fydd yn gallu ychwanegu trylwyredd a helpu i ddosbarthu dysgu, fel arfer yn gyfnewid am fynediad at ddata).

    Gall clystyrau chwarae rôl allweddol yn datblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau lleol, nodi prosiectau llwyddiannus ar gyfer cynyddu/prif ffrydio, ac addasu neu weithredu dysgu blaenorol o bob rhan o Gymru

    Datblygu syniadau arloesol
    Mae arloesedd yn cynnwys datblygu polisïau, systemau, cynnyrch a thechnolegau a gwasanaethau a dulliau cyflenwi newydd neu well sy’n gwella iechyd pobl, gyda ffocws arbennig ar anghenion poblogaethau agored i niwed (WHO, 2016). Mae’r adnoddau canlynol yn cynnig cipolwg o sut i ddechrau a chynnig syniadau clwstwr mewn amgylcheddau cefnogol:

    • Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (WG): Manylion i’w cadarnhau; model rhesymeg drafft a gyhoeddwyd ar gyfer Strategaeth Arloesedd i Gymru, Rhag 2021 (yma yn anelu at fabwysiadu mwy o arloesedd; gwella canlyniadau i gleifion/ dinasyddion; gwella profiad cleifion/ dinasyddion; ac effeithlonrwydd gwell adnoddau.​​​​​​​
    • ​​​​​​​Caring to change: how compassionate leadership can stimulate innovation in health care (The King’s Fund, 2017): Mae’r papur hwn yn edrych ar dosturi – sy’n cynnwys mynychu, deall, empatheiddio a helpu – fel gwerth diwylliannol craidd y GIG a sut mae arweinyddiaeth dosturiol yn arwain at amgylchedd gwaith sy’n annog pobl i ganfod ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau.
    • ​​​​​​​Open innovation in health: A guide to transforming healthcare through collaboration (NESTA, 2017): Mae’r canllaw hwn yn archwilio enghreifftiau o arloesedd agored ym maes iechyd o bob cwr o’r byd.  Mae’n dadansoddi’r ffyrdd y mae cwmnïau, llywodraethau, ymchwilwyr a dinasyddion yn cydweithio i wella’r broses arloesi, o’r ffordd y mae problemau’n cael eu hadnabod i sut y mae cynnyrch a gwasanaethau newydd yn cael eu creu ac yna eu mabwysiadu gan ddarparwyr gofal iechyd.
    • ​​​​​​​Crafting an elevator pitch (Mind Tools): Mae araith esgynnydd yn araith fer, ddarbwyllol, a ddefnyddir i ennyn diddordeb yn yr hyn mae eich sefydliad yn ei wneud.  Gallwch ei defnyddio hefyd i greu diddordeb mewn prosiect, syniad neu gynnyrch – neu ynoch chi.
    • ​​​​​​​Creating a value proposition (Mind Tools): cyfleu manteision eich cynnig yn syml ac eglur.

    Diagramau sbarduno i gefnogi arloesedd clwstwr
    Mae diagramau sbarduno yn cynnig offeryn i helpu i gynllunio prosiectau gwella.  Gallant:

    • Darparu eglurder a strwythur i dimau clinigol, sy’n canolbwyntio ar gyflawni gweithredol
    • Gellir eu defnyddio i drawsnewid nodau gwella yn gyfres resymegol o ffactorau lefel uchel (prif ysgogwyr) y mae angen dylanwadu arnynt er mwyn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt
    • Nodi’r prosiectau/gweithgareddau penodol sydd eu hangen i weithredu ar y ffactorau lefel uwch.

    Mae’r dull strwythuredig hwn yn helpu i ddyrannu tasgau i unigolion neu grwpiau ac mae’n darparu amcangyfrif o’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i gyflawni’r camau y cytunwyd arnynt.  Mae hyn hefyd yn annog dull o flaenoriaethu amcanion pan fydd disgwyliadau lluosog sy’n cystadlu â’i gilydd.

    Mae gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn gymhleth a gall fod yn heriol cyflawni arloesedd yn y lleoliadau hyn.  Gellir defnyddio diagramau sbarduno er mwyn sicrhau ymgysylltiad clinigol (drwy esbonio’r prosiect mewn trefn resymegol a gyda thasgau wedi’u diffinio) ac i egluro beth y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o fewn amcanion tîm clwstwr bach.  Gallai byrddau iechyd ddatblygu timau arloesedd hefyd sy’n meddu ar y sgiliau a’r gallu i wella timau lleol ar gyfer blaenoriaethau a nodwyd.

    Dylid ychwanegu tasgau na ellir eu cyflawni i gofrestrau risg lleol er mwyn darparu dadansoddiad clir o’r potensial ar gyfer gwella heb ei drafod.

    Dylid annog cydweithrediadau proffesiynol i gynhyrchu cynigion gwella fel grwpiau annibynnol ar draws ffiniau systemau.  Dylai systemau grwpiau cynllunio clystyrau cyfan sefydlu systemau i dderbyn ac ystyried y cyflwyniadau hyn, gan sicrhau yr eir i’r afael ag ymdrechion gwella yn unol â’r blaenoriaethau lleol y cytunwyd arnynt.  Dylai gwerthusiad fod yn rhan annatod o bob cynnig a dylid rhannu dysgu.  Dylid cynnal amserlen o brosiectau cyfredol er mwyn monitro cynnydd a sicrhau bod cylchoedd o newid yn cael eu cwblhau.

    Mae diagramau sbarduno enghreifftiol yn cynnwys:

    • Enghreifftiau o ddiagramau sbarduno IHC (lluosog), yma
    • Gofal diogel a ddibynadwy i gleifion, yma
    • Gwaith gwella ansawdd o ran COVID-19, yma

    Uwchraddio o brosiectau peilot
    Bwriedir i brosiectau peilot wahaniaethu  rhwng yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio.  Gall fod yn heriol uwchraddio pethau sy’n gweithio ar raddfa fach i raddfa fwy (e.e. ôl-troed bwrdd iechyd neu Gymru gyfan); mae cyngor ar gael yn yr adnoddau canlynol:

    • Scaling up projects and initiatives for better health (WHO, 2016): Mae uwchraddio yn golygu ehangu neu ailadrodd prosiectau peilot arloesol neu brosiectau arloesol ar raddfa fach i gyrraedd mwy o bobl a/neu ehangu effeithiolrwydd ymyrraeth.
    • Bevan Exemplars Programme (Comisiwn Bevan): Mae rhaglenni arloesedd Comisiwn Bevan yn cefnogi ac yn galluogi’r rhai sy’n gallu gwneud newidiadau i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal i holl ddinasyddion Cymru a thu hwnt.
    • Against the odds: Successfully scaling innovation in the NHS (Uned Arloesedd, Heb ddyddiad): Mae’r adroddiad hwn o’r Uned Arloesedd a’r Sefydliad Iechyd yn galw am ddulliau newydd i raddio arloesiadau profedig; mae’n pwysleisio’r angen i greu’r amodau cywir er mwyn dosbarthu’r rhain yn llwyddiannus ar draws y GIG.
    • Spreading and scaling up innovation and improvement (BMJ 2019;365:l2068): Mae dosbarthu arloesedd ar draws y system gofal iechyd yn heriol ond gellir ei gyflawni drwy resymegau gwahanol: mecanistig, ecolegol a chymdeithasol.
    • Effective strategies for scaling up evidence-based practices in primary care: a systematic review (Implementation Sci 2017;12:139): Nid yw’n sicr a fu unrhyw strategaethau yn effeithiol oherwydd bod y rhan fwyaf o astudiaethau yn canolbwyntio ar ganlyniadau claf/ darparwr a llai ar uwchraddio canlyniadau prosesau.
    • A principled approach for scaling up primary care transformation in Alberta (Prifysgol Alberta, 2018): Mae mynd i’r afael â’r mwyafrif cynnar yn nhermau beth sy’n gwneud synnwyr iddynt; Helpu timau i ddysgu i ddosbarthu gweithgareddau gwaith gwybodaeth a newid eu modelau meddyliol; mae hwyluso arfer yn hollbwysig; Canolbwyntio newidiadau ar ddisodli rhwystrau a chymhellion rhwystrol; a Chanolbwyntio ar CDM ar sail timau sy’n seiliedig ar systemau fel eu targedu cychwynnol.

    Dysgu o’r Rhaglen Pennu Cyfeiriad
    Roedd dysgu a gasglwyd drwy werthusiad beirniadol Rhaglen Pacesetter Gofal Sylfaenol Cenedlaethol Prifysgol Birmingham, 2018) yn nodi chwe galluogwr trawsnewid.  Mae’r galluogwyr hyn yn cael eu cydnabod yn allweddol i drawsnewid systemau iechyd yn llwyddiannus, yn y DU ac yn rhyngwladol.  Noder bod rhaglenni Pacesetter wedi’u disodli gan y Rhaglen Strategol ar gyfer y Gronfa Gofal Sylfaenol o fis Ebrill 2022:

    • Hwyluso: Mae proses hwyluso allanol ar gael i bractisau cyffredinol er mwyn darparu capasiti ac arbenigedd ychwanegol wrth ymgymryd â thrawsnewidiad.
    • Arwain: Nodir arweinwyr clinigol ac anghlinigol ar gyfer y rhaglen o’r practisau ac o rwydweithiau gofal sylfaenol lleol os yw’n berthnasol a rhoddir amser, cefnogaeth a gofod iddynt adlewyrchu ar y broses drawsnewid.
    • Dysgu: Mae dysgu a datblygiad mewn cysylltiad â sgiliau newydd ar gael, ac mae cyfle i ddysgu o’r broses weithredu drwy adlewyrchiad strwythuredig ar dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg.
    • Ymgysylltu: Mae ymgysylltiad rhanddeiliaid gyda chleifion, cymunedau a’r rhwydweithiau clinigol ehangach wedi’i ymgorffori yn gyffredinol, gyda buddsoddiad digonol mewn seilwaith, capasiti a sgiliau cysylltiedig.
    • Cyllid: Cyllid pontio i alluogi i weithgareddau presennol barhau wrth i ddulliau newydd gael eu cyflwyno a rhyddhau capasiti i arweinwyr clinigol ac anghlinigol.
    • Gwerthuso: Gwerthusiad cadarn i ddarparu gwybodaeth ffurfiannol a chrynodol yn erbyn amcanion a llinellau sylfaen glir.