Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ceir 8 rhwydwaith clwstwr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae’r boblogaeth yn amrywio rhwng 30,000 a thros 75,000 o bobl.  Ceir arweinyddiaeth amlwg o fewn y rhwydweithiau, gan feddygon teulu yn benodol; a datblygwyd y rhwydweithiau ar sail aml-broffesiynol.  Maent bellach yn sail i drefnu a darparu llawer o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, a datblygwyd cysylltiadau cryf â’r trydydd sector.  Sefydlwyd Uned Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol i arwain yr agenda hon, fel un o’r chwe Uned Weithredol sy’n cwmpasu pob un o’r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd.
https://bipba.gig.cymru/gwasanaethau-cymunedol-lleol/clystyrau1/clystyrau/