Neidio i'r prif gynnwy

Ffynonellau data allweddol ar gyfer gwybodaeth iechyd

Mae'r is-dudalen hon yn rhan o’r Porth Cymorth Cynllunio I Glystrau  (CPSP)

Setiau data dangosol / offer proffilio rhyngweithiol a gasglwyd

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad at setiau data neu offer dangosyddion iechyd a llesiant sydd wedi’u casglu:

  • Offeryn mapio ystadegau iechyd a gofal Cymru (Llywodraeth Cymru): Mae’r offeryn hwn yn dangos yr ystadegau iechyd a gofal amrywiol sy’n cynnwys data am Gymru.
  • Dangosyddion llesiant cenedlaethol (Llywodraeth Cymru): Data a chrynodebau ar gyfer pob un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol.
  • Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Mae’r Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn cyflwyno dealltwriaeth gyffredin o’r canlyniadau iechyd sy’n bwysig i bobl Cymru.
  • Proffil Adferiad COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Diben y proffil hwn yw monitro a deall tueddiadau ym maes iechyd yn fwy cyffredinol, mewn cysylltiad â COVID-19, a galluogi ymateb iechyd y cyhoedd cydgysylltiedig at adferiad.
  • Mapiau Iechyd Cymru  (DHCW): Gallwch archwilio ystod eang o ddangosyddion iechyd yn ôl ardal, tueddiadau mapiau mewn data dros amser a gwneud cymariaethau ar lefelau lleol a chenedlaethol.  Mae’n cynnwys marwolaethau yn sgil canser; derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys; ystadegau cryno ar dderbyniadau; atgyfeiriadau cleifion allanol; pyramidiau poblogaeth; marwolaethau o bob achos; derbyniadau yn sgil y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon; ac amseroedd aros am driniaethau cyffredin.
  • Proffilio Lleoedd Cymru (Data Cymru): Mae’r offeryn hwn yn darparu gwybodaeth amrywiol am drefi a lleoedd ar hyd a lled Cymru.
  • InfoBaseCymru (Data Cymru): Mae’n darparu mynediad rhwydd at ystod eang o wybodaeth i Gymru; mae’n cynnwys proffiliau ardaloedd lleol sy’n cyflwyno ystadegau ar bobl, yr economi, addysg, iechyd, tai, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Ffynonellau data gwybodaeth am iechyd y boblogaeth

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad at ddata gwybodaeth am iechyd y boblogaeth:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol (ONS): Mae casgliadau data/cyhoeddiadau yn cwmpasu Cymru ac yn cynnwys achosion marwolaethau; iechyd plant; COVID-19; anabledd; defnydd o gyffuriau, alcohol a smygu; system gofal iechyd; anghydraddoldebau iechyd; profiadau iechyd a bywyd; iechyd a llesiant; iechyd meddwl; a gofal cymdeithasol.
  • Marwolaethau y gellir eu hosgoi ym mwletinau Ystadegol y DU (ONS): Marwolaethau o achosion yr ystyrir y gellir bod wedi’u hosgoi, eu trin neu eu hatal gydag ymyriadau gofal iechyd neu iechyd y cyhoedd amserol ac effeithiol.
  • Data a dadansoddi (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Cynnyrch, data a dadansoddiadau gwybodaeth iechyd er mwyn mynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd, gwella iechyd a gwasanaethau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru).
  • Proffiliau poblogaethau practisau cyffredinol (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Cynhyrchwyd y Proffiliau Poblogaethau Practisau Cyffredinol i gynorthwyo practisau a chlystyrau gyda’u cynlluniau datblygu unigol, a [oedd] yn ofyniad yn Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Parth Datblygu Rhwydwaith Clystyrau Meddygon Teulu [DS: Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i adnewyddu’r proffiliau hyn].
  • Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): WCISU yw Cofrestr Canser Genedlaethol Cymru a’i phrif rôl yw cofnodi, storio ac adrodd ar bob achos o ganser ar gyfer y boblogaeth sy’n byw yng Nghymru lle bynnag y byddant yn cael eu trin.  Mae’r adroddiadau yn cwmpasu digwydded, goroesiad a marwolaethau.
  • Rhaglen Mesur Plant Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur taldra a phwysau plant mewn dosbarthiadau Derbyn; mae adroddiadau blynyddol a thablau data ar gael.
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru: Gallwch archwilio canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol dros y blynyddoedd yn ein dangosydd canlyniadau cyfleus gan Lywodraeth Cymru.
  • Arolwg Iechyd Cymru: Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth am statws iechyd, salwch, ffordd o fyw, defnydd o’r gwasanaeth iechyd a phlant [DS: Daeth Arolwg Iechyd Cymru i ben yn 2015; o Ebrill 2016 mae gwybodaeth am iechyd a ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Cymru].
  • Porth Mewnfudo Cymru: Mae’n casglu’r data sydd ar gael i’r cyhoedd mewn un lle drwy offeryn data ar-lein sy’n syml a hawdd i’w ddefnyddio.
  • Llwyfan Care Wales Amcanestyniadau Poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru (Gofal Cymdeithasol Cymru): Gall eich cynorthwyo i gynllunio pa wasanaethau gofal y gallai fod eu hangen yn eich ardal leol yn y dyfodol, drwy ddangos anghenion iechyd a gofal posibl eich poblogaeth dros yr 20 mlynedd nesaf.

Ffynonellau data rhaglenni iechyd y cyhoedd

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad i ddata rhaglenni iechyd y cyhoedd:

  • Adrodd Ar-lein am y Brechlyn Ffliw (IVOR) [Mewnrwyd yn unig]: Data am nifer y bobl sy’n manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw ar lefel practis cyffredinol, clwstwr, awdurdod lleol a bwrdd iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Coverage of Vaccination Evaluated Rapidly (COVER) [Mewnrwyd yn unig]: Mae COVER yn adrodd ar nifer y bobl sy’n manteisio ar frechlynnau yn amserlen imiwneiddio reolaidd i blant y DU ac maent yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar sail chwarterol; cynhyrchir adroddiad blynyddol hefyd sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol o fis Ebrill i fis Mawrth.
  • Manteisio ar frechlyn COVID-19 (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Data ar y nifer sy’n manteisio ar frechlynnau gan System Imiwneiddio Cymru.
  • Sgrinio Coluddion Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol am y rhaglen.
  • Bron Brawf Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol am y rhaglen.
  • Sgrinio Serfigol Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol am y rhaglen.
  • Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol am y rhaglen.
  • Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol am y rhaglen.
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC): Dull i newid ymddygiad sy’n defnyddio’r miliynau o ryngweithiadau o ddydd i ddydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael gyda phobl eraill i’w cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u llesiant corfforol a meddyliol.  Gallai data lefel bwrdd iechyd fod ar gael gan arweinwyr lleol i’w cyflenwi gan MECC.
  • Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff (NERS): Mae NERS yn darparu mynediad i ymarfer corff wedi’i deilwra a’i oruchwylio ar gyfer y rhai nad ydynt yn gwneud ymarfer corff ac sydd mewn perygl o brofi, neu sydd yn profi cyflwr iechyd cronig neu hirdymor.
  • Helpa Fi I Stopio: Pwynt cyswllt unigol i smygwyr sydd am roi’r gorau i smygu yng Nghymru; mae data am smygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau i smygu drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

Ffynonellau data am weithgarwch clinigol practisau meddygon teulu

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad i ddata am weithgarwch clinigol practisau meddygon teulu:

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP): Mae NWSSP yn darparu gwasanaethau Meddygon teulu amrywiol ac mae hyn yn cynnwys casglu data monitro contractau/gweithgarwch, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt wedi bod yn destun dadansoddi neu adrodd hyd yma.
  •  Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (DHCW) [Mewnrwyd yn unig]: Mae’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth gofal sylfaenol i GIG Cymru drwy’r adroddiadau sy’n cael eu cynhyrchu naill ai’n uniongyrchol gan DHCW neu gan un o sefydliadau eraill GIG Cymru sy’n gyfrifol am gyhoeddiadau o’r fath (sy’n cael eu cyfeirio drwy’r Porth).
  • Cofrestrau clefydau QAIF (StatsCymru): Cofrestrau clefydau Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) a gynhelir gan fyrddau iechyd lleol, clystyrau a phractisau meddygon teulu.
  • Rheoli iechyd y boblogaeth: Mae’r dull hwn sy’n cael ei ysgogi gan ddata yn cynnwys segmentu, pennu lefel risg a dadansoddiadau amrywiad wedi’i addasu achosion cymysg ac mae’n cael ei ddatblygu ym mhob bwrdd iechyd; dylai clystyrau gysylltu â’u timau gofal sylfaenol a/neu iechyd y cyhoedd lleol.  Gweler hefyd CPSP adran 2b.
  • Gwasanaeth Demograffig Cymru (DHCW): Mae Gwasanaeth Demograffig Cymru yn cynnwys pob claf sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru sydd hefyd yn byw yng Nghymru.
  • NHAIS/ Exeter: Mae hyn yn cynnwys pob claf sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu lle bynnag y mae’n byw (h.y. gan gynnwys cleifion o Loegr sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru).
  • Gallai unedau gwybodaeth a/neu dimau rheoli contractau gofal sylfaenol byrddau iechyd lleol allu darparu mynediad i ddata crai cyffredinol neu ddadansoddiadau pwrpasol gwasanaethau meddygol.

Ffynonellau data am weithgarwch clinigol fferylliaeth gymunedol

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad i ddata am weithgarwch clinigol fferylliaeth gymunedol:

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP): Mae NWSSP yn darparu gwasanaethau fferylliaeth amrywiol ac mae hyn yn cynnwys casglu data monitro contractau/gweithgarwch, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt wedi bod yn destun dadansoddi neu adrodd hyd yma.
  • Uwch wasanaethau Fferylliaeth (NWSSP): Dangosfwrdd data fferylliaeth sy’n cwmpasu’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin; Adolygiad o Feddyginiaethau wrth Ryddhau; Atal Cenhedlu Brys; Cyflenwad Meddyginiaethau Brys; Brechiad rhag y Ffliw; a’r Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu.
  • Gallai unedau gwybodaeth a/neu dimau rheoli contractau gofal sylfaenol byrddau iechyd lleol ddarparu mynediad i ddata bras cyffredinol neu ddadansoddiadau pwrpasol fferylliaeth gymunedol.
  • Casglu Data Presgripsiynau Practisau Cyffredinol (NWSSP): Mae data am bresgripsiynu gan bractisau meddygon teulu ar gael ar lefel gyflwyno; cesglir y wybodaeth o systemau gwybodaeth rhagnodi a gweinyddu.
  • Presgripsiynu (StatsWales): Ystadegau am bresgripsiynau sydd wedi’u presgripsiynu gan feddygon teulu a’u gweinyddu yn y gymuned, gan gynnwys dadansoddiad o eitemau presgripsiynau a chostau gan grwpiau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain.
  • Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol GIG Cymru: Mae WAPSU yn ceisio gwella iechyd drwy sicrhau’r defnydd gorau o feddyginiaethau yng Nghymru.
  • Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Rhagnodi (AWTTC): Mae’r Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Rhagnodi (SPIRA) yn rhaglen ryngweithiol ar-lein ar gyfer dadansoddiadau cymharol o ddata rhagnodi.
  • Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol   (AWMSG): Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol ac adroddiadau.
  • Ymwrthedd i Wrthfiotigau: Gwybodaeth ac adroddiadau am ymwrthedd i wrthfiotigau a rhagnodi gan y Rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Rhagnodi (HARP).

Ffynonellau data am weithgarwch clinigol / iechyd y geg ymarfer deintyddol

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad i weithgarwch clinigol / iechyd y geg ymarfer deintyddol:

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP): Mae NWSSP yn darparu gwasanaethau deintyddol amrywiol ac mae hyn yn cynnwys casglu data monitro contractau/gweithgarwch, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt wedi bod yn destun dadansoddi neu adrodd hyd yma.
  • Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru: Mae’r Uned yn gweithio gyda Chydgysylltydd Epidemioleg Ddeintyddol i gynllunio a darparu Rhaglen Arolwg Deintyddol GIG Cymru.  Mynediad i adroddiadau monitro Cynllun Gwên; adroddiadau Arolwg Deintyddol Cymru; proffiliau iechyd geneuol byrddau iechyd lleol.
  • Arolwg Iechyd Geneuol Oedolion (NHS Digital): Mae’r Arolwg Iechyd Geneuol Oedolion yn casglu gwybodaeth am gyflwr dannedd a hylendid deintyddol oedolion.  Mae’n ymchwilio i brofiadau deintyddol, gwybodaeth am ac agweddau at ofal deintyddol a hylendid deintyddol.  [Mae’n cynnwys preswylwyr yng Nghymru].
  • Gallai unedau gwybodaeth a/neu dimau rheoli contractau gofal sylfaenol byrddau iechyd lleol ddarparu mynediad i ddata crai cyffredinol neu ddadansoddiadau pwrpasol optometrig.

Ffynonellau data ar weithgarwch clinigol ymarfer optometrig / iechyd y llygaid

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu mynediad i ddata am weithgarwch clinigol ymarfer optometrig / iechyd y llygaid:

  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP): Mae NWSSP yn darparu gwasanaethau offthalmig amrywiol ac mae hyn yn cynnwys casglu data monitro contractau/gweithgarwch, ac mae’n bosibl na fydd rhai ohonynt wedi bod yn destun dadansoddi neu adrodd hyd yma.
  •  Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Adroddiadau ystadegol rhaglenni.
  • Gallai unedau gwybodaeth a/neu dimau rheoli contractau gofal sylfaenol byrddau iechyd lleol ddarparu mynediad i ddata crai cyffredinol neu ddadansoddiadau pwrpasol optometrig.

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn ôl pwnc, sy’n ymgorffori cyfeiriadau ar gyfer pynciau penodol i ddadansoddiadau data sy’n gysylltiedig ag anghenion iechyd lleol.