Neidio i'r prif gynnwy

Ysgogi Arloesi

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3.8 miliwn o’r Gronfa Gofal Sylfaenol sy’n werth £40 miliwn yn y rhaglen pennu cyfeiriad (pacesetter) genedlaethol. Dechreuodd y rhaglenni pennu cyfeiriad yn 2015 ble y rhoddwyd gwerth 2-3 blynedd o gyllid i fyrddau iechyd er mwyn darparu dull systematig o brofi a gwerthuso ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er mwyn cyflawni nodau’r Gronfa Gofal Sylfaenol sef sicrhau cynaliadwyedd, gwella mynediad, a darparu mwy o ofal yn y gymuned. Mae cyllid pellach wedi’i ddyrannu i fyrddau iechyd yn flynyddol i gefnogi cylchred dwy flynedd bellach o brosiectau pennu cyfeiriad. Mae’r rhaglen yn anelu at geisio canfod prosiectau tebyg ledled Cymru, a phan wneir hynny byddant yn cydweithio i brofi arloesedd mewn nifer o feysydd thematig.