Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys 3 chlwstwr sef Gogledd Powys, Canolbarth Powys a De Powys
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wella iechyd a lles tua 139,174 o bobl sy’n byw ym Mhowys ac am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd effeithiol o ansawdd uchel.  Ceir 3 chlwstwr o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy’n gweithio’n agos gydag 16 o bractisau meddygol, 24 o bractisau deintyddol, 20 o optometryddion a 23 o fferyllfeydd
Mae Powys wedi gwahaniaeth rhwng clystyrau, ers 2015, o ran dulliau cynllunio sy’n cwmpasu sefydliadau, gwasanaethau a phroffesiynau. Hefyd, mae rhwydweithiau meddygon teulu ar gael sy’n grwpiau o ymarferwyr meddygol cyffredinol. Mae hyn yn galluogi i faterion sy’n ymwneud â Phractisau Meddygon Teulu a materion cynllunio ehangach yn ymwneud â chlystyrau gael eu trafod ar wahân ond gyda’r naill yn hysbysu’r llall.
Mae gan bob un o’r 3 chlwstwr ym Mhowys aelodaeth amlddisgyblaethol ac amlsefydliadol gan gynnwys Byrddau Iechyd, y Cyngor Sir, y Trydydd Sector, Deintyddiaeth, Optometreg a Fferylliaeth Gymunedol.
Mae cerrig milltir a chamau gweithredu’r Clystyrau’n cyd-fynd â Strategaeth Iechyd a Gofal Powys sy’n cwmpasu:
  • Llesiant
  • Cymorth a Chefnogaeth Cynnar
  • Mynd i’r Afael â’r Pedwar Mater o Bwys
  • Gofal Cydgysylltiedig
  • Dyfodol y Gweithlu
  • Amgylcheddau Arloesol
  • Digidol yn Gyntaf
  • Trawsnewid mewn Partneriaeth