Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Sylfaenol Gwyrddach

Croeso i Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Yn y tudalennau hyn gallwch ddod o hyd i wybodaeth sy’n eich helpu chi a’ch practis i fod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Gallwch hefyd gael mynediad at Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, a wnaeth lansio yn Mehefin 2022.

Mae Fframwaith a Chynllun Dyfarnu Gofal Sylfaenol Cymru Wyrddach 2023 bellach AR AGOR. I gofrestru am ddim cliciwch yma


Gwyliwch y fideo byr yma i ddarganfod mwy am y Cynllun

 

Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru Blwyddlyfr 2022

Mae'r blwyddlyfr yma  wedi'i ddatblygu i ddathlu llwyddiannau'r practisau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun ac mae'n cynnwys casgliad o astudiaethau achos ymarferol i ysbrydoli eraill i gofrestru a chymryd camau eu hunain (I weld, dewiswch 'Fullscreen' ar frig y dudalen neu 'Download' ar waelod y dudalen)

 

Ail lansiad Cenedlaethol 2023 (Saesneg yn unig)
Mae recordiad o weminar lansiad Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ar gael i'w wylio isod. Mae'r gweminar yn rhoi trosolwg o'r Cynllun ac yn egluro sut i gymryd rhan.

 

 

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn siarad cyn i'r Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru cael ei lansio yn 2022. “Dwi wir yn edrych ymlaen i weithio gyda chi wrth i ni geisio datgarbyneiddio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gweithio tuag at ein nod o sero net”


 

Os ydych chi eisiau rhannu eich syniadau a’ch datblygiadau arloesol ar gyfer dod yn bractis gofal sylfaenol gwyrddach, gallwch ymuno â Gwella, rhwydwaith cymorth am ddim sydd wedi’i gynllunio i ddod â thimau o’r un meddylfryd at ei gilydd. I ymuno gyda Gwella ebostiwch greenerprimarycare@wales.nhs.uk.