Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau Cronfa RhSGS 2022

Dechreuodd Cronfa’r Rhaglen Strategol Gofal Sylfaenol (RhSGS), sy’n werth £3.8 miliwn, ym mis Ebrill 2022. Mae Cronfa’r RhSGS yn cymryd lle’r ffrwd ariannu Pennu Cyfeiriad/Braenaru a oedd ar gael i Fyrddau Iechyd ledled Cymru o 2015 i 2022. 

Caiff Cronfa’r RhSGS ei defnyddio gan Fyrddau Iechyd i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) ac o fuddsoddi mewn cynlluniau gofal sylfaenol i fynd i'r afael â Gordewdra, yn unol â’r Strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach. Cytunwyd ar y ddau faes buddsoddi hyn – DCC a Gordewdra – gan Gyfarwyddwyr y Grŵp Cyfoedion Gofal Sylfaenol a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol.

Ym mis Chwefror 2022, cymeradwyodd y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol 17 o gynlluniau: 7 cynllun rhaglen DCC a 10 cynllun i fynd i'r afael â Gordewdra.  Ceir trosolwg o'r cynlluniau a dolenni i wybodaeth sy’n rhoi crynodeb o’r cynlluniau yn y tabl isod. Mae adroddiad yn amlinellu manteision a chanlyniadau disgwyliedig y prosiectau atal gordewdra hefyd i’w weld yma: Manteision a Chanlyniadau Prosiectau Cronfa RhSGS i Gefnogi Atal Gordewdra

Caiff Grŵp Dysgu Gweithredol ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o ddatrys problemau a rhannu gwybodaeth ar gyfer y rhaglen DCC a’r cynlluniau Gordewdra.

Caiff adroddiadau monitro a gwireddu buddion yng nghanol ac ar ddiwedd y cynlluniau eu cynhyrchu dros 2022/2024 a'u cyflwyno i'r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol. Gellir gweld yr adroddiad monitro canol blwyddyn ar gyfer blwyddyn 1, 2022/23 yma: Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn Cronfa Gofal SylfaenolGellir gweld Adroddiad cyfamserol - Blwyddyn Un (2022/23) yma

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r cynlluniau, cysylltwch â'r RhSGS SPPC@wales.nhs.uk.

Bwrdd Iechyd

Teitl y Cynllun

Disgrifiad o'r Cynllun

Datblygu Clwstwr Carlam (DCC)

Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Aneurin Bevan

Hyb Datblygu Clwstwr Carlam

Nod y prosiect hwn yw cryfhau'r gwaith cynllunio a chyflawni drwy Glystyrau drwy fuddsoddi mewn rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPAB (English only)

BIP Betsi Cadwaladr

Ymgorffori ac Aeddfedu Clystyrau Carlam ar draws Gogledd Cymru

Cydnabyddir y bydd angen cymorth ac adnoddau ychwanegol ar bartneriaid i'w helpu i symud ymlaen gyda'r agenda DCC, i weithredu Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr ac i sicrhau bod systemau llywodraethu ac arwain a systemau eraill priodol ar waith i greu llwyfan ar gyfer gweithio integredig sy’n seiliedig ar le.  

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPBC (English only)

BIP Betsi Cadwaladr

Datblygu Dull Systemau (Digidol) o Reoli Iechyd y Boblogaeth

Mae'r cynnig hwn yn ceisio gweithio gyda phartneriaid ar draws gofal sylfaenol, iechyd cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd i gytuno ar y mathau o ddata ar y boblogaeth sydd eu hangen i gefnogi gwaith cynllunio Clwstwr effeithiol. Lle nad yw'r data hwnnw'n cael ei gasglu ar hyn o bryd, neu os nad yw'n cael ei gasglu o fewn yr amserlenni priodol, bydd mecanweithiau'n cael eu datblygu i gefnogi'r gwaith o'i gasglu.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPBC (English only)

BIP Caerdydd a’r Fro

Seilwaith DCC

Gwella galluoedd cynllunio a chyflawni grwpiau cydweithredol yn rhan o'r rhaglen DCC. 

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIP Caerdydd a’r Fro (English only)

BIP Hywel Dda

Cymorth Rhaglen DCC

Caiff yr arian ei ddefnyddio i gefnogi Arweinyddiaeth Glinigol a gwaith rheoli prosiectau er mwyn cwmpasu, datblygu a gweithredu DCC o fewn Hywel Dda. Un sesiwn amser arweinydd clinigol yr wythnos a chymorth rheolwr 8a llawn amser i gyflawni'r gwaith o weithredu'r weledigaeth yn Hywel Dda.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPHDd (English only)

Bwrdd Iechyd (BI) Addysgu Powys

Datblygu Model Clwstwr Carlam

Cryfhau’r model Clwstwr o weithio ar draws Gogledd a Chanolbarth Powys, gyda'r nod o greu model cyflawni Clwstwr strategol glir, cadarn, rhagweithiol a chydlynol.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIAP (English only)

BIP Bae Abertawe

Rhaglen Datblygu DCC

Gweithredu Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam ar draws BIP Bae Abertawe.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPBA (English only)

Gordewdra

BIP Aneurin Bevan

Cyngor ar Reoli Pwysau a Chymorth Hunangyfeiriedig mewn Gofal Sylfaenol (Lefel 1)

Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod cyngor yn cael ei roi'n systematig, gan gyfeirio a sicrhau mynediad i gymorth hunangyfeiriedig ar gyfer cyflawni neu gynnal pwysau iach (cam i lawr).

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPAB (English only)

BIP Betsi Cadwaladr

Datblygu Rhaglen Ddigidol i Alluogi Llwybrau Grŵp Rhithwir i bobl sy'n byw gyda Diabetes Math 2 sy'n gallu trin eu diabetes drwy golli pwysau.

Gellir defnyddio’r cyfle RhSGS hwn gyda'r nod o sicrhau buddsoddiad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu lle dysgu ar-lein sy'n galluogi mynediad haws, a'r cymorth addysgu gorau posibl, yn ogystal â chyfleusterau i bobl â diabetes sy'n dymuno colli pwysau gan ddefnyddio deietau â swm isel iawn o galorïau (i ddechrau, ynghyd â datblygu pellach wedi hynny) i wella eu canlyniadau iechyd hirdymor.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPBC (English only)

BIP Caerdydd a’r Fro

Ymyriadau byr ar gyfer y cyflwr cyn-ddiabetes ar lefel clwstwr

Cynnig rhaglen ymyriadau byr i gleifion y nodwyd eu bod yn gyn-ddiabetig gan weithiwr cymorth hyfforddedig, gyda chymorth dietegydd.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIP Caerdydd a’r Fro (English only)

BIP Caerdydd a’r Fro

Byw’n Dda

Bydd y prosiect hwn sy'n seiliedig ar Glwstwr yn cyflawni Bwyd Doeth am Oes a Dianc Poen ac yn cynnal sesiynau gweithgareddau eraill i gleifion i gefnogi’r gwaith o reoli gordewdra ar lefel clwstwr. Mae'r dull cyfannol hwn ar draws gweithgarwch a deiet yn cefnogi’r gwaith o reoli gordewdra’n rhan o'r llwybr rheoli pwysau.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIP Caerdydd a’r Fro (English only)

BIP Caerdydd a’r Fro

Rhoi Cynnig ar Goginio

Cwrs coginio ymarferol 7 wythnos ar gyfer aelodau o’r gymuned gan gynnwys gofalwyr yw Rhoi Cynnig ar Goginio. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal unwaith yr wythnos am ddwy awr.  Mae pob sesiwn yn cynnwys coginio ymarferol a rhai gweithgareddau am fwyta’n iach a diogelwch bwyd. Mae'r sesiynau'n gyfle gwych i rannu awgrymiadau am arbed amser ac arian ac am leihau gwastraff bwyd. Mae’r cyfranogwyr yn mynd â chyfran o'r hyn y maent wedi’i wneud adref bob wythnos i'w rhannu â'u teulu.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIP Caerdydd a’r Fro (English only)

BIP Cwm Taf Morgannwg

Rhaglen Cyfraith Gofal Gwrthgyfartal Uwch

Bydd y rhaglen arfaethedig hon yn canolbwyntio ar ddatblygu ac alinio’r gwasanaethau canlynol yn ogystal â dod â nhw ynghyd i ddechrau fel bod y ffocws ar newid ymddygiad a lleihau nifer yr achosion o ordewdra a sicrhau bod effaith unrhyw ymyriad yn cael ei defnyddio i'r eithaf. Mae’r pedwar gwasanaeth sydd i'w cynnwys fel a ganlyn;

  • Rhaglen Archwiliad Iechyd Cyfraith Gofal Gwrthgyfartal,
  • Archwiliadau Iechyd Atal ar gyfer Cleifion â salwch meddwl difrifol
  • Gwasanaeth Rheoli Pwysau Cymru Gyfan
  • Gwasanaeth Gwella Lles a

Rhaglen Addysg i Gleifion i ddarparu gwasanaeth hunanreoli

  • Atal y Cyflwr Cyn-ddiabetes Cymru Gyfan
     

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPCTM (English only)

 

BIP Hywel Dda

Rheoli Ffordd Iach o Fyw dan Arweiniad Gofal Sylfaenol

Dechreuodd Clinig Ffordd o Fyw Clwstwr Aman Gwendraeth ar ddiwedd 2018. Mae'r rhaglen yn cynnig rhaglen ffordd o fyw ddwys a arweinir gan grwpiau sydd â’r nod helpu pobl i wella o ddiabetes. Mae'r rhaglen yn edrych ar bob agwedd ar ffordd o fyw gan gynnwys bwyd, cysgu, rheoli straen ac ymarfer corff gyda chyngor ar ffurfio arferion. Mae rhwng 10 a 12 o bobl ym mhob grŵp gyda phob grŵp yn rhedeg am 8 wythnos. Caiff y rhaglen ei harwain gan feddyg teulu lleol.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPHDd (English only)

BIP Hywel Dda

Rheoli Pwysau dan Arweiniad Fferyllydd Cymunedol

Gweithio gyda chwmni colli pwysau masnachol i gomisiynu pecynnau cymorth 12 wythnos i gleifion y mae Fferyllydd Cymunedol wedi nodi eu bod yn ddiabetig ac sydd am golli pwysau

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPHDd (English only)

BI Addysgu Powys

Rhaglen Ymyrraeth Gynnar ar gyfer y Cyflwr Cyn-ddiabetes

Mae'r Rhaglen Ymyrraeth Gynnar ar gyfer y Cyflwr Cyn-ddiabetes yn dilyn modelu Rhaglen Atal y Cyflwr Cyn-ddiabetes Cymru Gyfan a dreialwyd gan Glystyrau Cwm Afan a Gogledd Ceredigion. Nod y prosiect yw gwella nifer yr achosion o ddiabetes math 2 ym mhoblogaeth De Powys drwy gefnogi’r broses o gyflwyno llwybr atal ac ymyrryd cadarn i gleifion sy’n datblygu diabetes neu sydd mewn perygl o’i ddatblygu. 

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIAP (English only)

BIP Bae Abertawe

Rhaglen Atal Diabetes  

Cynnal ymyriadau atal diabetes mewn 3 Chlwstwr ychwanegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

Cynigion Cronfa RhSGS 2022 BIPBA (English only)