Neidio i'r prif gynnwy

Atal

 

Gwaith Atal a rôl clystyrau

Mae pob prif sefydliad proffesiynol yn cefnogi’r achos dros atal ac mae wedi bwrw gwreiddiau cadarn yn neddfwriaeth Cymru a’r fframwaith polisi.  Mae pawb yn pwysleisio pa mor bwysig yw atal clefydau rhag dod i’r amlwg yn y lle cyntaf ac ymyrryd cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag gwaethygu.  Amlygodd Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (Llywodraeth Cymru 2018; dolen yr angen i symud tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar.  Mewn ymateb, mae’r Rhaglen Strategol genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn cynnwys ffrwd waith ar Waith Atal a Lles er mwyn helpu i sicrhau bod y ffocws hwn yn cael ei gynnal wrth drawsnewid gofal sylfaenol yn fodel iechyd a lles ar gyfer y system gyfan.

Beth yw ystyr gwaith atal?

Gellir meddwl am waith atal mewn sawl ffordd wahanol ac ategol, ond yn gyffredinol, gellir ystyried gwaith atal yn unrhyw gam gweithredu sydd wedi’i gynllunio i leihau risg cyn i rywbeth ddigwydd.

Bydd y rhai sydd wedi cael hyfforddiant clinigol fwy na thebyg yn gyfarwydd â’r gymhariaeth ag afon a wnaed gan Zola (Zola 1970). Mae’n disgrifio gwaith atal sylfaenol (atal pawb rhag disgyn i mewn i’r afon a chael niwed e.e. peidio byth â smygu), gwaith atal eilaidd (sicrhau bod unrhyw unigolion sydd mewn perygl ac yn disgyn i mewn yn cael eu hachub yn gyflym; lleihau’r siawns o gymhlethdodau drwy ganfod ac ymyrryd yn gynnar e.e. sgrinio) a gwaith atal trydyddol (chwilio-ac-achub y rhai sy’n mynd i lawr yr afon; lliniaru’r canlyniadau gwaethaf ar ôl canfod clefyd e.e. llawdriniaeth fasgwlaidd).

Mae diffiniad Llywodraeth Cymru o waith atal yn fwy eang: gweithio mewn partneriaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar y cyd, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a llefydd i’w cynnig.

Mae Creu Cymru Iachach (Chwefror 2019) yn amlinellu chwe phrif egwyddor er mwyn rhoi egwyddorion atal ar waith yng Nghymru:

• Dilyn y pum ffordd o weithio (fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r
   Dyfodol).

• Ymrwymo i fuddsoddi mewn ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth (pan fyddant ar
   gael neu werthuso ar raddfa fach ac uwchraddio pan fo’n briodol).

• Sicrhau bod graddfa a chwmpas ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ddigonol
   er mwyn cael effaith fesuradwy ar y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau.

• Sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn ddigonol er mwyn
   gallu cael y canlyniadau gorau posibl ar gyfer pob ymyrraeth; parhau i wella drwy
   ychwanegu at y dulliau o wella ansawdd.

• Cydbwyso manteision ymyrraeth ar gyfer canlyniadau tymor byr a hirdymor (gan
   gynnwys buddsoddi mewn un sector i greu canlyniadau mewn sector arall).

• Optimeiddio gwerth drwy ddilyn agwedd hyblyg i werthuso ymyriadau a dulliau a
   pheidio â

   buddsoddi yn y rhai nad ydynt o fudd/gwerth.

Sut beth yw gwaith atal mewn gofal sylfaenol?

Er bod gwaith atal yn berthnasol i bawb, fel y pwynt cyswllt cyntaf â gwasanaethau iechyd i’r rhan fwyaf o bobl, mae gofal sylfaenol yn un o’r prif ffyrdd o wella iechyd y boblogaeth leol drwy leihau baich clefydau yn y dyfodol a achosir drwy ffactorau risg y gellir eu hosgoi. Yn ogystal, deillia llawer o’r anghydraddoldebau mewn statws a chanlyniadau iechyd yn sgil dosbarthu risg yn anghymesur mewn cymunedau lleol; felly gall y rhai sydd fwyaf mewn perygl elwa ar gynnydd cymesur mewn rhoi sylw i ataliaeth (cyfrannu at y ddeddf gofal gwrthgyfartal).

Mewn lleoliadau clinigol gofal sylfaenol arferol, y prif feysydd o ddiddordeb yw:

• Lliniaru ymddygiad (smygu; deiet afiach; anweithgarwch corfforol; camddefnyddio  
  alcohol a sylweddau) a ffactorau risg clinigol (pwysedd gwaed uchel; gordewdra;
  lefelau uchel o glwcos ar ôl ymprydio; colesterol uchel) er budd hyrwyddo
  cynaliadwyedd ar draws y system gyfan drwy leihau baich y clefyd a’r pwysau y mae
  hyn yn ei roi ar wasanaethau gofal

• Rhaglenni brechu (yn bennaf ar gyfer y ffliw ac imiwneiddio a drefnwyd yn ystod
  plentyndod)

• Rhaglenni sgrinio i ganfod canser yn gynnar (y coluddyn, y fron a serfigol) a
  chyflyrau eraill ble y gall ymyrraeth gynnar wella’r canlyniadau

Fodd bynnag, gall cwmpas ataliaeth fod yn llawer mwy eang na hyn, yn arbennig pan mae’n ymwneud â gweithredu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid sy’n ymgysylltu â’r gymuned ynghylch ystod eang o gyflyrau iechyd neu ynghylch unrhyw un o’r penderfynyddion iechyd ehangach (er enghraifft, tai neu drafnidiaeth). Waeth beth fo’r cwmpas, gellir cyfeirio camau gweithredu ataliol at bawb (“ymagwedd y boblogaeth gyfan”), grwpiau adnabyddadwy neu hyd yn oed unigolion (“ymagwedd wedi’i thargedu”). Mewn unrhyw achos, mae gan glystyrau gofal sylfaenol ran allweddol i’w chwarae drwy eirioli—a hyrwyddo’n uniongyrchol mewn rhai achosion—camau gweithredu cyfunol ar atal. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth ac yn cyfeirio at y prif feysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith atal, y gwaith fydd angen ei wneud, a’r adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo clystyrau i wneud eu rhan.
 

Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dolen