Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn proses hunanfyfyrio gan glystyrau a ddatblygwyd ar y cyd gan Wirfoddolwyr Clwstwr / cydweithwyr y Bwrdd Iechyd a'r Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyn cwblhau'r hunanfyfyrio gan glystyrau, mae'n bwysig eich bod yn deall pam mae’n cael ei wneud a beth fydd yn ei olygu. Treuliwch amser yn darllen y ddogfen hunanfyfyrio gan glystyrau a ddarperir yn y pecyn adnoddau. Mae'r manylion wedi’u crynhoi isod.
Y broses hunanfyfyrio gan glystyrau yw un o’r tri dull y cytunwyd arnyn nhw i werthuso’r cynnydd a wnaiff clystyrau wrth weithio tuag at gyflawni’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC). Nod y digwyddiad hunanfyfyrio yw:
· Asesu aeddfedrwydd gweithio mewn clystyrau ledled Cymru.
· Canfod yr elfennau ar lefel y systemau sy'n rhwystro neu'n galluogi gweithio mewn clystyrau.
Cynigir y dylai clystyrau ymgymryd â hunanfyfyrio fel rhan o drafodaeth wedi'i hwyluso. Yn ddelfrydol, dylai'r drafodaeth hon gynnwys holl aelodau’r clwstwr neu gynrychiolwyr o blith yr amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y clwstwr. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, dylai arweinydd y clwstwr neu ddirprwy a enwebir* gwblhau proses hunanfyfyrio’r clwstwr.
*Rhaid i ddirprwy a enwebir fod â digon o wybodaeth am y clwstwr a'r awdurdod o fewn y clwstwr neu'r bwrdd iechyd i gwblhau proses hunanfyfyrio’r clwstwr.
Mae hunanfyfyrio gan glystyrau yn cynnwys pum rhan. Yn gyntaf, byddwch yn ateb cwestiynau cyffredinol am eich clwstwr (e.e. enw'r clwstwr). Yn adrannau dau a thri, cewch gyfle i hunanfyfyrio ar gynnydd eich gwaith tuag at ganlyniadau MGSiG a DCC, gan ddefnyddio matrics aeddfedrwydd. Mae'r bedwaredd adran yn rhoi cyfle i'r clwstwr rannu ei farn ar ffactorau sy’n galluogi a rhwystro'r system, sy'n effeithio ar weithio fel clwstwr, ac ystyried sut mae'r rhain wedi'u defnyddio/goresgyn neu lle mae angen cymorth pellach. Mae'r bumed adran, sef yr olaf, yn gofyn i chi ystyried lle mae'ch clwstwr chi o ran Model Datblygu Tîm Tuckman.
Nid oes unrhyw risgiau hysbys sy'n gysylltiedig â chymryd rhan yn yr hunanfyfyrio gan glystyrau. Mae hunanfyfyrio gan glystyrau yn gyfle i'r clwstwr ystyried cryfderau, lle mae gwaith wedi datblygu o ran canlyniadau MGSiG a DCC a chanfod meysydd lle mae angen gwneud rhagor o waith.
Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw'n gyfrinachol yn yr Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dim ond at ddibenion y prosiect hunanfyfyrio gan glystyrau y bydd yn cael ei defnyddio. Bydd yr holl ymatebion yn ddienw fel nad yw’n bosibl eich adnabod chi na’ch clwstwr mewn unrhyw gyhoeddiadau sy'n deillio o'r gwaith hwn.
Bydd y canfyddiadau'n cael eu hysgrifennu fel adroddiad ffurfiol gan gynnwys trosolwg o Gymru gyfan a rhanbarthau byrddau iechyd. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cyfrannu at y broses adolygu gan gymheiriaid clystyrau.
Trwy barhau â'r arolwg, rydych yn nodi eich bod wedi darllen y daflen wybodaeth hon, yn deall diben hunanfyfyrio gan glystyrau, ac yn cydsynio i gymryd rhan.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Llywodraethu Gwybodaeth, cysylltwch â: phw.informationgovernance@wales.nhs.uk
Os bydd gennych ymholiadau cyffredinol am ddefnyddio’r ffurflen, cysylltwch â Sian.jones104@wales.nhs.uk
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y broses hunanfyfyrio gan glystyrau, cysylltwch â: Rachel.Andrew@wales.nhs.uk
Diolch i chi am eich amser ac am gymryd rhan.
Yn gywir,
Dr Rachel Andrew
Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd
Is-adran Gofal Sylfaenol
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyn i chi ddechrau'r pecyn hwn, efallai yr hoffech adolygu'r dogfennau canlynol:
1. Dogfen proses hunanfyfyrio gan glystyrau, sydd â rhagor o wybodaeth am y broses hunanfyfyrio
2. Dogfen Fframwaith Datblygu Clwstwr sydd â gwybodaeth ychwanegol am ganlyniadau MGSiG a DCC a'r matrics aeddfedrwydd.
Mae'r ddwy ddogfen hyn ar gael ar wefan Gofal Sylfaenol Un a gellir eu gweld ar dudalen y Model Gofal Sylfaenol i Gymru