Lawrlwytho - Beth Yw'r Rhaglen Strategol ar Gyfer Gofal Sylfaenol? (RHSHS)
Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn rhaglen Gymru Gyfan a arweinir gan Fyrddau Iechyd sy'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac yn ymateb i Gymru Iachach.
Nod y Rhaglen yw dwyn ynghyd a datblygu'r holl strategaethau ac adolygiadau gofal sylfaenol blaenorol ar gyflymder, wrth fynd i'r afael â blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg y tynnwyd sylw atynt yn Cymru Iachach.
Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae'r Rhaglen yn edrych ar yr holl ddarparwyr iechyd, cymdeithasol a llesiant, byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i weithio ar y cyd i rannu mentrau, cynhyrchion ac atebion lleol a allai ychwanegu gwerth at ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar sail 'Unwaith i Gymru'.
Mae'r rhaglen yn cynnwys y chwe ffrwd (gweler isod) – Cliciwch ar bob ffrwd waith i ddarganfod mwy am pam mae angen y prosiect, pwy sy'n eistedd ar y gweithgorau, cwmpas y gwaith ac enghraifft o'r allbynnau disgwyliedig o bob un ardal: