Neidio i'r prif gynnwy

Grwpiau agored i niwed ac ymylol

Mae'r is-dudalen hon yn rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio I Glystyrau (PCCG)

Cyflwyniad 
Yn Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i uchelgais i bawb yng Nghymru gael bywydau hir, iach a hapus:

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i ni helpu pobl i edrych ar ôl eu hunain. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cywir ar gael i helpu pobl i aros yn iach, i wella pan fyddant yn sâl, neu i fyw’r bywyd gorau posib pan fo ganddynt broblemau na fydd yn gwella. (Cymru Iachach; WG 2018)

Fodd bynnag, gwyddom y bydd yna grwpiau bob amser sy’n wynebu mwy o risg o ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael ac mae’n bosibl y byddant yn cael anhawster i gael mynediad at ofal a chymorth.  Cydnabyddir yn eang bod rhai grwpiau penodol o dan anfantais yn systematig ar hyd eu bywydau a bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau iechyd.  Mae gan wasanaethau cyhoeddus gyfrifoldeb i ddiogelu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf oherwydd gall anghydraddoldebau ddwysáu os nad eir i’r afael â’r rhwystrau at ofal sy’n effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed.

Canfod anghenion grwpiau agored i niwed ac ymylol