Mae'r is-dudalen hon yn rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP)
Bydd angen coladu a/neu ddadansoddi a fformatio data a gasglwyd o ffynonellau lluosog er mwyn eu cyflwyno. Er enghraifft, gallech driongli canfyddiadau o lenyddiaeth ryngwladol, gwaith proffilio lleol a lleisiau cymunedol/proffesiynol yn naratif sy’n ystyriol o dystiolaeth. Efallai y byddwch yn ategu cyfrol dechnegol gyda ffeithluniau mwy hygyrch. Mae’n bosibl cyfosod data mewn nifer o wahanol ffyrdd; mae strwythur defnyddiol i gefnogi penderfyniadau comisiynu gwybodus fel a ganlyn.