Neidio i'r prif gynnwy

Patrymau asesu anghenion iechyd

Mae'r is dudalen hon yn rhaon o'r Porth Cymorth Cynllunio I Glystrau

Patrymau asesu a chynllunio gofal iechyd yng Nghymru

Mae cyfarwyddebau lluosog yn galw am baru asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth ac allbynnau cynllunio ar draws patrymau daearyddol a/neu strwythurol yng Nghymru; gweler y tabl isod.  Mae hyn yn cyflwyno nifer o heriau er mwyn canfod datrysiadau ar lefel system, gan gynnwys yr angen i:

  • Resymoli patrymau cynllunio er mwyn i bob rhanddeiliad allu craffu ar yr un data er mwyn cefnogi gwaith cynllunio integredig; mae hyn yn galw am ddull mwy effeithlon er mwyn osgoi dyblygu ymdrech, ac ar yr un pryd sicrhau y gellir dosbarthu’r data ar draws nifer o batrymau o ddiddordeb;
  • Rhesymoli amlder asesu anghenion i sicrhau bod hyn yn arwain y strategaeth tymor canolig i’ dymor hir; er enghraifft, mae’n bosibl na fydd gofynion blynyddol yn cydnabod sefydlogrwydd cymharol nifer o ddangosyddion iechyd, amharu ar ymdrechion i ymateb i anghenion hysbys, a chreu amser annigonol i fesur effaith cynlluniau gweithredu;
  • Ystyried asesiadau o anghenion fel cyfrifoldeb ar y cyd; nid yw’n rhywbeth i’w ddirprwyo yn ei gyfanrwydd i’r maes iechyd y cyhoedd (er enghraifft), ond dylai adlewyrchu cyfraniadau gan y rhai sydd yn y sefyllfa orau i’w cynnal drwy ymgorffori data a safbwyntiau amrywiol;
  • Sicrhau nad yw dadansoddiadau data yn cael eu cyflwyno heb rannu tystiolaeth hefyd wneud gwelliannau sy’n mynd i’r afael ag anghenion a lleihau annhegwch; dim ond os bydd y gwaith o bennu a chynllunio blaenoriaethau wedi’i ategu gan opsiynau ymyrraeth effeithiol a chost-effeithiol y bydd modd gweithredu ar wybodaeth.

Nid oes storfa ganolog ar gyfer asesiadau o anghenion ar sail ardal a gynhelir yng Nghymru.  Gellir adfer asesiadau presennol o un neu fwy o’r mathau canlynol o wefannau:

Asesiadau o anghenion ar sail pynciau

Yn ogystal ag asesiadau ar sail ardal, gellir cynnal neu gomisiynu asesiadau ar sail pwnc ar batrwm lleol neu genedlaethol (e.e. anghenion pobl sy’n byw gydag anableddau, iechyd carcharorion, anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches, neu iechyd llygaid).

Nid oes storfa ganolog ar gyfer asesiadau o anghenion ar sail pynciau a gynhelir yng Nghymru.  Pan fydd gan glwstwr / PCPG bwnc o ddiddordeb penodol, byddai holi timau iechyd y cyhoedd lleol (a allai fod wedi bod yn rhan o hyn) ynglŷn ag unrhyw asesiadau presennol ar batrwm byrddau iechyd yn fan cychwyn rhesymol, yn ogystal â  chwilio ar wefan genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Crynodeb o batrymau asesu a chynllunio gofal iechyd allweddol yng Nghymru

Patrwm (yn ôl maint)

Cyfarwyddeb

Allbwn asesu

Allbwn cynllunio

Nodiadau

Bwrdd iechyd / rhanbarth

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)

Asesu’r boblogaeth

Cynllun Ardal ar y Cyd

Cyhoeddwyd y Cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2017; sy’n cael ei ddiweddaru bob 3 blynedd, gyda JAP 1 flwyddyn yn ddiweddarach

Fframwaith Cynllunio’r GIG

Bydd angen i Gynllun Tymor Canolig Integredig ddangos sut maent wedi’u hysbysu a’u hategu gan asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau 3 blynedd ar lefel clwstwr

Cynllun Tymor Canolig Integredig, yn ymgorffori cynllun ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol

Yn ystod y pandemig Covid-19 newidiwyd i gynlluniau blynyddol

Bwrdd Iechyd (Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017)

Asesiad o Anghenion Fferyllol

Penderfyniad mynediad i’r farchnad

 

Awdurdod lleol

Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015)

Asesiad Llesiant

Cynllun Llesiant

Asesiad “o fewn y 12 mis cyn pob etholiad arferol llywodraeth leol”; mae’r cynllun yn un blynyddol

 

Grŵp cynllunio ar draws y clwstwr

I’w gadarnhau

I’w gadarnhau

I’w gadarnhau

I’w gadarnhau ar gyfer cynlluniau 23-24

Clwstwr

Contract ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (rhan o barth clwstwr y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn flaenorol)

Asesiad o anghenion lleol

Cynllun Gweithredu Clwstwr

Nid oes eu hangen ar gyfer cynlluniau 22-23; I’w gadarnhau ar gyfer cynlluniau 23-24

Practis meddygon teulu

Mae gofyniad cytundebol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (rhan o barth clwstwr y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau) i gynhyrchu asesiad o anghenion poblogaeth practis a chynllun datblygu’r practis wedi’i dynnu yn ôl