Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae 14 o Glystyrau Gofal Sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB).

Proffiliau Ardal Leol
Mae Proffiliau Ardal Leol wedi cael eu datblygu fel rhan o Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gyda’r bwriad o gefnogi datblygiad cynllunio strategol yn seiliedig ar leoedd a chomisiynu ar gyfer iechyd a gofal ar draws y rhanbarth.

Mae Proffiliau Ardal Leol yn dod a data a mewnwelediad ynghyd gan asiantaethau gwahanol er mwyn adeiladu darlun cyflawn o anghenion a chryfderau cymunedau gwahanol ar lefel leol, ronynnol. Mae’r mewnwelediad hyn yn cael ei ddefnyddio i siapio blaenoriaethau ar gyfer y lleoliad ac yn mynegi uchelgais cytunedig, cyfun i iechyd a gofal pobl leol a’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Bydd y data hefyd yn cael ei ddefnyddio yn barhaus er mwyn addasu blaenoriaethau a galluogi partneriaid i ddwyn ei gilydd i gyfrif ar gyfer darparu eu huchelgeisiau.

Gallwch gael mynediad at Broffiliau Ardal Leol yma 

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Clwstwr BCUHB
Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru (NWPHD) yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am angen iechyd y boblogaeth ar wahanol lefelau daearyddol (gan gynnwys ar lefel Clwstwr) i staff y GIG at ddibenion cynllunio.