Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeiriadur Addysg a Hyfforddiant yn y Maes Iechyd Cynhwysiant ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Term ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio unigolion sy’n wynebu allgau cymdeithasol ac sy’n dod ar draws ffactorau risg amrywiol ar gyfer iechyd gwael, gan gynnwys tlodi, trais, a thrawma cymhleth yw iechyd cynhwysiant. Mae’r categori hwn yn cynnwys y rhai sy’n ddigartref, yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol, mudwyr sy'n agored i niwed, aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma, a Theithwyr, gweithwyr rhyw, unigolion sy’n rhan o'r system gyfiawnder, a dioddefwyr caethwasiaeth fodern. Yn aml, mae canlyniadau iechyd pobl sy'n perthyn i'r grwpiau cynhwysiant hyn yn llawer gwaeth o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, ac mae eu hoedran marwolaeth cyfartalog yn is. Mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol at y gwahaniaethau iechyd cynyddol. Mae grwpiau iechyd cynhwysiant yn aml yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad i wasanaethau gofal iechyd a gallant gael profiadau negyddol oherwydd rhwystrau lluosog yn y system gofal iechyd.

Mae gwybodaeth a sgiliau'r gweithlu ym maes iechyd cynhwysiant yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau teg. Yn y DU, mae pob un o'r pedair gweinyddiaeth ddatganoledig yn cydnabod pwysigrwydd ymgorffori Iechyd Cynhwysiant mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae pob gwlad wedi cyhoeddi canllawiau i wella canlyniadau iechyd ar gyfer grwpiau ymylol. Fodd bynnag, nid yw astudiaethau diweddar wedi dod o hyd i dystiolaeth bod gan adrannau’r llywodraeth a sefydliadau cenedlaethol gynllun i sicrhau bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ofalu am gymunedau sy'n agored i niwed. Yn ôl tystiolaeth a gyhoeddwyd gan sefydliadau sy’n cyflogi staff sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed, mae llawer o ymarferwyr gofal iechyd wedi cydnabod yr angen i gaffael y wybodaeth a’r sgiliau i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau o gymunedau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol.

Tra roeddem yn ysgrifennu’r cyfeiriadur hwn, clywsom fod trafodaethau ar y gweill yng Nghymru i greu fframwaith gwybodaeth a sgiliau ar gyfer iechyd cynhwysiant. Yn y cyfamser, mae'r cyfeiriadur hwn wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi cyfleoedd addysg a hyfforddiant i'w helpu i ddatblygu'r sylfaen wybodaeth ar gyfer iechyd cynhwysiant ac anghydraddoldebau iechyd.

Nid yw'r cyfeiriadur yn honni ei fod yn ganllaw hollgynhwysfawr i'r holl gyfleoedd addysg a hyfforddiant. Mae wedi'i gyfyngu i'r rhai a nodwyd drwy adolygiad o wefannau iechyd addysgol, gwybodaeth gweithwyr iechyd proffesiynol, a chwiliad cyflym ar y rhyngrwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.


Cyfeiriadur Addysg a Hyfforddiant yn y Maes Iechyd Cynhwysiant ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol