Neidio i'r prif gynnwy

Safbwyntiau iechyd y boblogaeth

Mae'r is dudalen hon yn rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio I Glystrau  (CPSP)

Cyflwyniad

Gallai materion yn ymwneud â chapasiti rwystro cyfranogiad uniongyrchol iechyd y cyhoedd wrth gynllunio i weithredu, ond nid cylch gorchwyl unigryw arbenigwyr iechyd y cyhoedd yw safbwyntiau iechyd y cyhoedd.  Gall clystyrau holi “A yw ein cynlluniau yn arddangos nodweddion PACE?” gan gyfeirio at y rhestr wirio safbwyntiau iechyd y cyhoedd ganlynol ar gyfer dylunio neu ailddylunio gwasanaethau gofal sylfaenol.

Mae rhestr wirio PACE yn adlewyrchu’r gwerthoedd y mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn ceisio eu cynnwys mewn sgyrsiau ynglŷn â sut y gellir ail-gyflunio gwasanaethau er mwyn sicrhau’r budd gorau.  Nid oes rhaid cymhwyso hyn yn systemataidd, ond gallai fod yn ysgogydd i helpu i glystyrau wirio bod cynlluniau sy’n datblygu yn gwneud synnwyr o ran iechyd y cyhoedd.  Mae hefyd yn rhoi ystyr newydd i ddisgwyliadau o gyflawni “at scale and PACE”, fel y dywedir yn Saesneg!

Rhestr wirio PACE