Neidio i'r prif gynnwy

CGPSAT

Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT) i bractisau meddygol cyffredinol

Mae’n ofynnol i bractisau adolygu eu hymatebion CGPSAT blaenorol, nodwch ‘lefel’ ar gyfer pob testun yn y CGPSAT a gwnewch nodiadau ar gyfer eich Cynllun Datblygu Practis.

 

 

 

  • Mae mynediad at CGPSAT. Noder fod y CGPSAT yn cael ei letya ar fewnrwyd GIG Cymru (Saesneg un unig)
  • Cynghorir pob practis i ddarllen Tiwtorial CGPSAT (Saesneg un unig)
  • Bydd angen i bractisau adolygu, diweddaru a chyflwyno’u CGPSAT wedi’i gwblhau ar neu cyn 10 Ebrill 2024
  • Enw defnyddiwr a chyfrinair
    Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, defnyddiwch y ddolen ‘Wedi Anghofio eich Cyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi, cyfeiriwch at diwtorial CGPSAT 2017/18.
    Noder: Mae’r broses newid cyfrinair yn gysylltiedig â’ch cyfeiriad e-bost cyfredol.  Os nad yw eich cyfeiriad e-bost yn gyfredol, ni fydd y ddolen yn creu e-bost i’ch galluogi i ailosod y cyfrinair.
    Cyswllt: Iechyd a Gofal Digidol Cymru / Tel: 0333 200 8048 

Annwyl ddefnyddiwr CGPSAT, Dyma nodyn byr i’ch atgoffa o’r trefniadau ar gyfer defnyddio’r Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT):

Problem:

Datrysiad:

Mae gennych broblem gyda chyfrinair y practis e.e. angen ei ailosod

Gofynnwch i IGDC am gymorth yn y ffordd arferol

Mae angen i chi roi gwybod i rywun fod y practis yn uno neu am broses ad-drefnu debyg

Gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol roi gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru am y newid angenrheidiol (fel y nodir isod)

Mase angen cyngor arnoch am gynnwys eich cais

Os nad yw’n rhan o’r canllawiau yma, gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol am gymorth

Rydych am ailagor CGPSAT a chyflwyno eich cais yn hwyr

Gofynnwch i’ch tîm gofal sylfaenol lleol gyflwyno eich cais i Grŵp Cymheiriaid Penaethiaid Gofal Sylfaenol (a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru; gwneir penderfyniad un ffordd neu’r llall ac ni chaniateir hynny ar gyfer un practis yn unig)

Mae gennych broblem arall nad yw wedi’i rhestru yma

Cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru (fel y nodir isod) a all eich helpu neu eich cyfeirio at rywun a allai eich helpu

Cyswllt gweinyddol CGPSAT Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Claire Miles (Swyddog Cymorth Rhaglen, Yr Is-adran Gofal Sylfaenol), a gallwch gysylltu â hi drwy e-bostio Claire.Miles3@wales.nhs.uk.

  • Ymholiadau gweinyddol
    Os cewch unrhyw anawsterau gweinyddol, os oes gennych ymholiadau ynglŷn â CGPSAT neu sut i’w gwblhau (efallai oherwydd amgylchiadau unigryw yn eich practis chi), neu unrhyw gwestiwn arall, cysylltwch ag arweinydd Gofal Sylfaenol eich Bwrdd Iechyd Lleol am gyngor.
  • Beth yw’r CGPSAT? 
    Mae Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol Cymru Gyfan (CGPSAT) yn annog practisau i bontio’r bwlch rhwng deall ac ystyried eu systemau llywodraethu a chyflawni’r gweithredoedd sydd eu hangen  i’w gwella.  

Gofynnir i bractisau ystyried pa mor aeddfed yw eu systemau drwy gyfrwng matrics.
Yn fras trefnir lefelau’r matrics yn ôl yr hierarchaeth gyflawni ganlynol:

Lefel 0 Nid ydym wedi cyflawni lefel 1
Lefel 1 Rydym yn gwneud rhywfaint ohono (system rannol, adweithiol, fanteisgar)
Lefel 2 Rydym yn ei wneud yn dda (h.y. mewn modd strwythuredig, system gyflawn, rhagweithiol, wedi’i gynllunio)
Lefel 3 Rydym yn sicrhau ein bod yn ei wneud yn dda (h.y. monitro, rhwyd ddiogelwch, adolygu, Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu (PDSA) a chylchoedd archwilio)
Lefel 4 Rydym yn ei wneud yn gyson ac yn gynaliadwy (mae gennym bolisi ffurfiol, mae’r tîm cyfan yn cymryd perchnogaeth). Rydym yn ymgysylltu â’n clwstwr Meddygon Teulu lleol ac yn cyfrannu ato.
Lefel 5 Rydym yn ymdrechu i’w wneud yn well fyth ac rydym yn ei rannu (Arfer gorau, gweithio mewn clystyrau, cynllunio lleol, datblygu cydweithio effeithiol gyda gwasanaethau cymunedol)Rydym yn arwain y tu allan i’n practis ac rydym yn dod â’r hyn rydym wedi’i ddysgu yn ein gwaith clwstwr yn ôl i’r practis.

Cynlluniau Datblygu Practis yn y CGPSAT

Nid oes gan fersiwn cyfredol y CGPSAT unrhyw faes ar gyfer CDP ond mae gan bob matrics ei faes ei hun ar gyfer testun y gellir ei gyfuno mewn adroddiad – mae angen i bractisau ddefnyddio’r swyddogaeth argraffu i argraffu adroddiad Cynllun Datblygu Practis.  Gweler y tiwtorial CGPSAT am wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn.

Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yng Nghymru 2019 / 20 – Dysgu o’r CGPSAT a’i ddefnyddio i ddatblygu practis a’r clwstwr rhwydwaith

Nod parth Datblygu Rhwydwaith Clystyrau y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QOF) yw cefnogi’r broses o ddatblygu rhwydwaith clystyrau a darparu rhywfaint o ffocws i weithgaredd gwella er mwyn cryfhau’r broses o ddarparu gofal iechyd lleol yng Nghymru.

Bydd angen i bractisau sydd wedi nodi y byddant yn gwneud cais am daliad Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau am gwblhau’r CGPSAT fod yn ymwybodol eu bod, drwy wneud hynny, yn cytuno i sicrhau bod canlyniadau’r practis ar gael i’r Bwrdd Iechyd a rhoddir gwybod i’r Byrddau Iechyd pa bractisau sy’n defnyddio’r pecyn offer. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chwblhau dangosydd Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau CND011W neu gyflwyno’r CGPSAT, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd Lleol

Mae’r CGPSAT wedi’i seilio ar Safonau Iechyd a Gofal 2015 Llywodraeth Cymru (y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru gynt). Rydym wedi dehongli’r safonau ar gyfer cyd-destun Ymarfer Cyffredinol ac rydym wedi ceisio cysoni matricsau’r CGPSAT â’r safonau diwygiedig. Yn aml mae matricsau’n cwmpasu mwy nag un safon ac nid yw eraill yn syrthio’n daclus i unrhyw fatrics.  

 

Wedi'i ddiweddaru 16/02/2022