Gallai cydweithfeydd sy’n adlewyrchu ar gyfluniadau gwasanaethau lleol ystyried y cwestiynau canlynol i strwythuro trafodaethau ac i hysbysu argymhellion i grwpiau cynllunio traws glwstwr:
- Pa ymgysylltiad (os o gwbl) â defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi’i wneud a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o grwpiau agored i niwed ac ymylol?*
- A yw anghenion pob grŵp agored i niwed ac ymylol wedi’u cyfleu’n glir?*
- A oes unigolyn/grŵp arweiniol sy’n darparu dadansoddiad ac ymyriadau i gefnogi’r grŵp hwn?
- A oes cydnabyddiaeth o bwysigrwydd anghenion gofal cymdeithasol, er enghraifft tai?
- A gynhelir asesiad o’r nifer o grwpiau agored i niwed ac ymylol sy’n manteisio ar ofal ataliol a sgrinio?
- A oes unrhyw drefniadau cefnogol sydd ar gael yn gyffredinol neu sydd ond yn cael eu darparu mewn rhai lleoliadau?
- A oes cydnabyddiaeth o egwyddorion gofal sy’n ystyriol o drawma?
- A oes angen mwy o wybodaeth/dadansoddiad ac os felly beth a chan bwy?
*Noder: Gallai gwybodaeth am anghenion rhai grwpiau agored i niwed ac ymylol fod wedi’i chynnwys mewn asesiadau cyffredinol ar anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth (gweler yma) neu setiau data gwybodaeth iechyd (gweler yma), ond gallai fod yn fwy arwynebol. Mae gwybodaeth fanylach ar gael mewn asesiadau o anghenion pwrpasol (e.e. grwpiau penodol) neu adroddiadau ymgysylltiad a gynhaliwyd ar lefel genedlaethol neu fwrdd iechyd, neu drwy lenyddiaeth yr ymchwil.