Neidio i'r prif gynnwy

"P"

"P” yw prevention neu atal. A yw’r clwstwr yn gwneud defnydd llawn o gyfleoedd ataliol?

Beth yw atal?

  • Mae cyfatebiaeth afon Zola yn ffordd ddefnyddiol o feddwl am atal salwch (Zola 1970).  Mae’n disgrifio dulliau atal sylfaenol (atal pawb rhag disgyn i mewn i afon a dod i niwed e.e. peidio smygu), camau ataliol eilaidd (sicrhau bod unrhyw unigolion mewn perygl sydd yn disgyn i mewn yn cyrraedd diogelwch yn gyflym; lleihau’r siawns o gymhlethdodau drwy ddulliau adnabod ac ymyrraeth yn gynnar e.e. sgrinio) a chamau atal trydyddol (chwilio ac achub y rhai sydd wedi mynd i lawr yr afon; lliniaru canlyniadau gwaethaf clefydau sefydledig e.e. llawdriniaethau fasgwlaidd).
  • Mae diffiniad Llywodraeth Cymru o atal yn ehangach: gweithio mewn partneriaeth i greu’r canlyniadau gorau posibl ar y cyd, defnyddio cryfderau ac asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cynnig.

Beth yw rôl gofal sylfaenol mewn atal?

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymgorffori blaenoriaeth atal yn y gyfraith.
  • Mae gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn awgrymu y gellir priodoli’r rhan fwyaf o faich clefydau y gellir eu hosgoi yng Nghymru i bedwar ffactor risg clinigol allweddol (pwysedd gwaed uchel; mynegai màs y corff uchel; colesterol uchel; a lefelau diffygiol o glwcos ar ôl ymprydio) a phedwar ffactor risg ymddygiad allweddol (smygu; deiet gwael; anweithgarwch corfforol a defnyddio sylweddau).
  • Mae gan glinigwyr gofal sylfaenol rolau hollbwysig yn nodi a rheoli ffactorau risg clinigol (e.e. gorbwysedd), yn ogystal ag annog gwaith atal sylfaenol ac eilaidd ffactorau risg y gellir eu haddasu gydag ymddygiad (e.e. smygu).
  • Mae ymyriadau lleihau risg sy’n cael eu hysgogi gan glinigwyr ar lefel leol yn cyd-fynd â strategaethau lleihau risg a gynhelir ar lefel y boblogaeth; mae’r ddau ddull yn hollbwysig er mwyn gwella iechyd y boblogaeth yn gyffredinol ac i leihau llawer o anghydraddoldebau iechyd sy’n deillio o glefydau sy’n datblygu oherwydd y ffactorau hyn.
  • Mae system gofal iechyd sy’n atal yn weithredol morbidrwydd y gellir ei osgoi (salwch) a marwolaethau yn fwy cynaliadwy nac un sy’n taflu ymdrech ac arian ar ôl y ceffyl sydd wedi ffoi.

Sut y gall clystyrau / grwpiau cynllunio clystyrau cyfan bwysleisio gwaith atal?

Mae Cymru Iachach Cymru (Chwefror 2019) yn nodi chwe egwyddor allweddol ar gyfer gweithredu camau atal yng Nghymru:

  • Glynu wrth y pum ffordd o weithio (sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol).
  • Ymrwymo i fuddsoddi mewn ymyriadau ar sail tystiolaeth (pan fyddant ar gael neu werthuso ymyriadau bach ac uwchraddio os yw’n briodol).
  • Sicrhau bod ymyriadau ar sail tystiolaeth yn ddigon mawr a bod ganddynt  gyrhaeddiad digonol er mwyn cael effaith fesuradwy ar y boblogaeth ac i leihau anghydraddoldeb.
  • Sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i ansawdd digonol er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pob ymyrraeth; gwella’n barhaus drwy dynnu ar dechnegau gwella ansawdd.
  • Cydbwyso manteision ymyriadau ar gyfer canlyniadau tymor byr a hirdymor (gan gynnwys buddsoddi mewn un sector er mwyn cyflawni budd mewn un arall).
  • Optimeiddio gwerth drwy ddefnyddio dull ystwyth i werthuso ymyriadau a dulliau a pheidio buddsoddi yn y rhai nad ydynt yn creu budd/ gwerth.

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc, sy’n pwysleisio’r flaenoriaeth o atal ac sy’n defnyddio dull ar sail pwnc/cyflwr i ystyried anghenion y boblogaeth.

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc, sy’n pwysleisio’r flaenoriaeth o atal ac sy’n defnyddio dull ar sail pwnc/cyflwr i ystyried anghenion y boblogaeth