Sut mae cynlluniau clystyrau yn cymharu â’r ystyriaethau canlynol wrth gynllunio gwasanaethau gofal sylfaenol?
- Gweithgarwch (Activity) —A yw ein lefelau gweithgarwch yn cyfateb â metrig cymharol neu ddisgwyliedig, ac a ydynt yn gynaliadwy e.e. atgyfeiriadau? Gweler hefyd CPSP adran 2a.
- Derbynioldeb (Acceptability) —A ydym yn cyflawni disgwyliadau cyhoeddus a phroffesiynol?
- Priodoldeb (Appropriateness) — A yw ein gwasanaethau wedi’u targedu at yr angen mwyaf/y rhai sydd â’r gallu mwyaf i elwa arnynt?
- Atebolrwydd (Accountability) — A ydym yn arddangos tryloywder drwy drefniadau llywodraethu clinigol a sefydliadol? Gweler hefyd Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau.
- Asedau (Assets) —A ydym yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau cymunedol? Gweler hefyd CPSP adran 2a.
- Eiriolaeth (Advocacy) —A ydym yn hyrwyddo’r negeseuon allweddol cywir e.e. blaenoriaeth i atal?
- Bodloni (Accommodation) —A yw ein gwasanaethau yn ystyried hoffterau/ dewis defnyddwyr gwasanaeth?
- Aliniad (Alignment) —A yw ein cynlluniau yn arddangos addasrwydd strategol, gan gyfrannu at effaith gronnol ar iechyd. Gweler hefyd CPSP adran 2d.
- Argaeledd (Availabilty) —A ydym yn cyfeirio adnoddau / swm gwasanaethau yn gymesur ag angen?
- Hygyrchedd (Accessibility) — A yw’r gwasanaethau yn agos at y defnyddwyr gwasanaeth(“gofal yn agosach at adref”)?
- Fforddiadwyedd (Affordability) - A yw ein hymyriadau o fewn ? defnyddwyr gwasanaeth (nodi y gallai unrhyw wasanaethau mewnol neu drydydd parti ar sail ffioedd gost cyfle)?