Neidio i'r prif gynnwy

2d – Datblygu cynlluniau: penderfynu ar y blaenoriaethau

Dylai cytuno ar flaenoriaethau i’w gweithredu adlewyrchu blaenoriaeth atal (er mwyn lleihau baich afiechyd y gellir ei osgoi yng Nghymru) ac ystyried cyfeiriadau strategol amrywiol a fydd yn hwyluso aliniad gwaith cynllunio, er mwyn i gamau gweithredu ar y cyd arwain at welliannau mesuradwy yn iechyd y boblogaeth.

Cyfeiriad strategol allweddol
Bydd alinio gweithgareddau clwstwr gyda dogfennau strategol allweddol yn helpu i sicrhau y bydd blaenoriaethau asiantaethau a phartneriaethau lleol eraill (e.e. Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus) a chyrff cenedlaethol (e.e. Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn dylanwadu ar gamau gweithredu clwstwr wedi’u cynllunio – yn ogystal â’r blaenoriaethau a nodwyd yn lleol.  Gellir canfod cyfeiriad strategol allweddol yn y canlynol:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Deddfwriaeth sy’n ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
  • Cymru iachach: Wedi’i gyhoeddi mewn ymateb i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (yma), mae’n cyflwyno’r weledigaeth hirdymor o ddull gweithredu system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol drwy fodel sy’n canolbwyntio ar iechyd, llesiant ac atal salwch.  Mae hefyd yn cyflwyno’r Nod Pedwarplyg o wella iechyd a llesiant y boblogaeth; ansawdd gwell a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy hygyrch; iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch; a gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy a llawn cymhelliant.
  • Rhaglen lywodraethu: Mae’r rhaglen yn ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r amcan llesiant o ddarparu gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy o safon uchel.
  • Blaenoriaethau gweinidogol: Ar gyfer 2022-23 y rhain yw’r ymateb i Covid-19; adferiad y GIG; gweithio ochr yn ochr â gofal cymdeithasol; Cymru Iachach; cyllid y GIG a rheoli o fewn yr adnoddau; Iechyd a llesiant meddyliol ac emosiynol; Cefnogi’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; ac iechyd y Boblogaeth
  • Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC): Y rhaglenni allweddol ar gyfer 2022-23 yw Datblygu Clystyrau Carlam; Gofal Sylfaenol Brys; Seilwaith Cymunedol; a Llesiant Meddyliol.
  • Fframwaith Clinigol Cenedlaethol: Mae’r fframwaith yn disgrifio sut y dylid cynllunio gwasanaethau clinigol gan ddefnyddio llwybrau system gyfan, oes cyfan gyda mesuriadau a safonau canlyniadau/ profiad y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, ond sy’n cael eu cyflenwi’n lleol yn ôl nodweddion y boblogaeth a’r gweithlu.
  • Ein strategaeth hyd at 2024 (Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru): Galluogi dull gweithredu system gyfan i ofal iechyd ar sail gwerth i Gymru.
  • Cynlluniau ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: Mae pob Bwrdd (a restrir yma) yn cynhyrchu cynllun ardal rhanbarthol.
  • Cynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus: Mae pob Bwrdd (sydd wedi’u mynegio yma) yn cynhyrchu cynllun llesiant lleol blynyddol.
  • Cynllun blynyddol/ Cynllun Tymor Canolig Integredig byrddau iechyd lleol: Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol (a restrir yma) yn cynhyrchu cynllun blynyddol neu gynllun tymor canolig integredig yn unol â fframwaith cynllunio blynyddol GIG Cymru.
  • Cynllun blynyddol/ Cynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru: Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynhyrchu cynlluniau strategol sy’n nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd y boblogaeth.

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc sy'n ymgorffori cyd-destun strategol yn ôl pynciau penodol.

Mathau o benderfyniadau
Mae matrics Stacey yn ddull o ddeall y gwahanol fathau o benderfyniadau y gellir gwneud hyn: ceir disgrifiad pellach o hyn yn Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru):

  • Mae penderfyniadau rhesymegol yn deillio o bresenoldeb lefelau uchel o gytundeb a sicrwydd
  • Mae penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu nodweddu gan lefelau uchel o sicrwydd, ond gyda lefelau is o gytundeb ynglŷn â’r camau gweithredu gorau
  • Mae penderfyniadau beirniadol wedi’u nodweddu gan lefelau uchel o gytundeb ym mhresenoldeb llai o sicrwydd ynglŷn â’r camau gweithredu gorau

Gall penderfyniadau gwleidyddol gael eu dylanwadu gan ffactorau sy’n cynnwys:

  • Cyngor technegol/ proffesiynol, yn seiliedig ar dystiolaeth (a fydd, yn ddelfrydol, yn dynodi lefel uchel o elw ar fuddsoddiad, a/neu werth am arian mewn perthynas â dewisiadau amgen posibl h.y. cost cyfle derbyniol)
  • Credoau personol
  • Canfyddiadau am farn y cyhoedd/ defnyddwyr gwasanaeth
  • Gwleidyddiaeth pleidiau/ sefydliadol (ac ar lefelau lleol a chenedlaethol).

Datblygu achos busnes
Gellir cynnwys cyfuniad o ddata sy’n disgrifio anghenion heb eu cyflawni, tystiolaeth ar gyfer gweithredu adferol, alinio â chyfeiriad strategol presennol, a chynnig i flaenoriaethu mewn achos busnes amlinellol i gefnogi proses ffurfiol o wneud penderfyniadau.  Fel arfer dychwelir at yr achos busnes wrth baratoi i’w weithredu (gweler adran 3) a datblygu yn ôl yr angen mewn ymateb i ddylanwadau arno – a allai hyd yn oed ei annilysu.

  • Achosion busnes clwstwr: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau  yn cwmpasu cyd-destun achos busnes; tystiolaeth; manteision a chyflwyno achos ariannol (Atodiad 15).  Gweler hefyd y trosolwg diagram o broses ddatblygu y prosiect a’r achos busnes.
  • Templed achos busnes: Templed sy’n cael ei ddarparu yn Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau, gan gynnwys gwerthusiad o opsiynau.
  • Achosion busnes clwstwr enghreifftiol: Wedi’u cynnwys yn Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau, mae’r enghreifftiau yn berthnasol i uned drin ac uwch ymarferwyr awdioleg.
  • Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr: Mae hyn yn cynnwys adran ar gynigion ac achosion busnes (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru)

Adnoddau blaenoriaethu eraill
Gallai’r adnoddau ychwanegol canlynol gefnogi penderfyniadau clwstwr:

  • Gwneud penderfyniadau clwstwr: Mae’r Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn cwmpasu egwyddorion, systemau a phrosesau ar gyfer penderfyniadau clwstwr (Atodiad 5). Gweler hefyd y samplau o fframwaith gwneud penderfyniadau, fframwaith blaenoriaethu, a traciwr penderfyniadau.
  • Gwerthusiad opsiynau: Er bod cyfeiriad at fodelau clwstwr, gellir defnyddio egwyddorion cyffredinol gwerthusiad o opsiynau, sy’n cael eu hamlinellu yn y Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau (Atodiad 9) i fathau eraill o benderfyniadau, gan gynnwys blaenoriaethu.
  • Gweithio yng Nghymru: Crynodebau o bolisïau a strategaethau allweddol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant yng Nghymru (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru).
  • Gallai themâu o’r Offeryn Hunanasesu Ymarfer Llywodraethu Clinigol (CGPSAT) ac adolygiadau Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru hefyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer gwaith cynllunio gwasanaethau ehangach, gan sicrhau bod yr hyn a ddysgir o ddigwyddiadau a phryderon yn hysbysu gwaith datblygu gwasanaethau.