Neidio i'r prif gynnwy

I ba raddau y mae'r gwasanaethau presennol (ar gyfer y pwnc hwn) yn cyflawni'r anghenion?

Mae disgrifio sut mae pobl â chyflyrau penodol neu grwpiau o gyflyrau yn defnyddio gwasanaethau sydd ar gael yn ceisio canfod y sefyllfa bresennol, ac mae’n rhagofyniad er mwyn ystyried sut y gallai gwasanaethau ehangu, lleihau, parhau ar y lefelau darpariaeth presennol neu eu haddasu er mwyn sicrhau mynediad neu ganlyniadau mwy cyfartal.

  • Bydd disgrifiad o gyfluniad gwasanaethau fel arfer yn cynnwys rhyw fath o fapio (e.e. plotio lleoliadau canolog yn erbyn rhai agosach at adref), metrigau gweithgarwch (allbwn, gweithdrefnau, gwybodaeth ariannol ac yn y blaen) neu naratif rhaglen.
  • Yn ddelfrydol, ymgorffori defnydd o wasanaethau ar draws y darparwr (gan gynnwys y sectorau gwirfoddol a phreifat, os yw’n hysbys) i asesu’r darlun mwy o ran galw a chyflenwi.
  • Ystyried a yw’r lefel o ddarpariaeth gwasanaeth lleol yn debyg i ardaloedd eraill â lefelau cyffredinrwydd tebyg.
  • Chwilio am unrhyw amrywiaeth mewn cyfraddau mynediad neu ganlyniadau clinigol drwy gymharu ffigurau’r clwstwr gyda chlystyrau eraill yn y bwrdd iechyd, neu glystyrau mewn byrddau iechyd eraill; ystyried a allai cyfluniad gwasanaethau lleol gyfrif am hynny.
  • Os ydych chi'n ymgorffori dull cyfranogol, beth mae llais y gymuned yn ei ddweud ynglŷn â hygyrchedd, ansawdd neu ddisgwyliadau eraill o ran gwasanaethau lleol (gweler rhestr wirio PACE)?
  • Beth mae’r llais proffesiynol yn ei ddweud sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio cystal ag y gallai (e.e. drwy gyfweliadau hysbyswyr allweddol/ arolygon/ grwpiau ffocws)?