Sicrhau bod staff rheng flaen yn gallu cynnig cyngor hybu iechyd y geg
Mae canllawiau NICE Oral health: local authorities and partners (PH55) (Saesneg yn unig) yn argymell sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn gallu rhoi cyngor ar bwysigrwydd iechyd y geg.
Fel rhaglen ataliol i blant o'u genedigaeth, mae Cynllun Gwên yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill; mae'r wefan yn darparu gwybodaeth a chyngor wedi'i deilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr, ac i weithwyr proffesiynol.