Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y geg plant

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Yn 2015-16 roedd gan draean o blant 5-6 oed yng Nghymru brofiad o bydredd dannedd; ar gyfartaledd byddai gan 10 o blant allan o ddosbarth o 30 bydredd dannedd, gyda'r 10 hyn â 3.6 o ddannedd wedi pydru (WOHIU 2017).
  • Mae tystiolaeth o raglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru yn dangos bod anghydraddoldebau iechyd y geg yn bodoli o mor gynnar â 3 oed, a phlant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd â'r baich mwyaf o glefyd deintyddol.
  • Gall profi pydredd dannedd yn ifanc nid yn unig achosi poen a haint, ond hefyd tarfu ar gwsg, cyfyngu ar y gallu i ganolbwyntio sylw a bwyta deiet amrywiol, llesteirio datblygiad lleferydd, ac effeithio'n negyddol ar hunanddelwedd ac iechyd meddwl.
  • Pydredd dannedd yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros fynd i'r ysbyty yn ystod plentyndod; mae'n cael effaith gydol oes gan fod iechyd deintyddol gwael plentyndod yn rhagfynegydd o iechyd deintyddol gwael i oedolion.  Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae pydredd dannedd yn gwbl ataliadwy trwy ymddygiad iechyd cadarnhaol (Cynllun Gwên).
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfeiriad strategol ar gyfer gwella iechyd y geg yn Cymru Iachach: ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg (LlC 2018).  
  • Mae angen dull amlweddog i wella iechyd y geg y boblogaeth, ynghyd â strategaeth sy’n dylanwadu ar benderfynyddion iechyd ehangach  ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg. Bydd clystyrau yn elwa ar gyngor deintyddol arbenigol o ran iechyd y cyhoedd wrth lunio cynlluniau i wella iechyd y geg y boblogaeth leol.

B. Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Nifer yr achosion o ddannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol yng Nghymru

Dolen i'r ddogfennaeth:

Mae'r ffynhonnell ddata hon yn cynnwys adroddiadau sy'n rhoi cyd-destun

C. Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

Adolygwyd gan:  MW | Dyddiad adolygu: 11/04/23 | Côd pwnc: DEN-001