Neidio i'r prif gynnwy

Eirioli ar gyfer y ddarpariaeth leol orau bosibl o'r rhaglen Cynllun Gwên mewn meithrinfeydd ac ysgolion

  • Cynllun Gwên yw'r rhaglen gwella iechyd y geg genedlaethol i blant yng Nghymru; sail hynny yw WHC/2017/23 a'i nod yw helpu i gychwyn arferion da yn gynnar drwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, darparu brwshys dannedd a phast dannedd, ac annog mynd i bractis deintyddol cyn pen-blwydd cyntaf plentyn.
  • Mae Cynllun Gwên yn cyflwyno rhaglenni brwshys dannedd dan oruchwyliaeth a rhaglenni farnais fflworid mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd ledled Cymru.
  • Mae canllawiau NICE Oral health: local authorities and partners (PH55) (saesneg yn unig) yn argymell goruchwylio cynlluniau brwshys dannedd ar gyfer meithrinfeydd ac ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant mewn perygl uchel o iechyd y geg gwael; rhaglenni farnais fflworid ar gyfer meithrinfeydd ac ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant mewn perygl uchel o iechyd y geg gwael; codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y geg, fel rhan o ddull 'ysgol gyfan' ym mhob ysgol gynradd; a chyflwyno cynlluniau penodol i wella a diogelu iechyd y geg mewn ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant yn wynebu risg uchel o iechyd gwael y geg.