Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Mae Dementia: assessment, management and support for people living with dementia and their carers (NG97)(Saesneg yn unig) yn trafod gwneud diagnosis a rheoli dementia (gan gynnwys clefyd Alzheimer); ei nod yw gwella gofal trwy wneud argymhellion ar hyfforddi staff a helpu gofalwyr i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
  • Mae Dementia, disability and frailty in later life – mid-life approaches to delay or prevent onset (NG16)(Saesneg yn unig) yn ymdrin â dulliau canol-oes ar gyfer oedi neu atal dementia, anabledd ac eiddilwch yn ddiweddarach mewn bywyd; ei nod yw cynyddu'r amser y gall pobl fod yn annibynnol, yn iach ac yn egnïol yn ddiweddarach mewn bywyd.
  • Mae Dementia (QS184)(Saesneg yn unig) yn trafod atal dementia, yn ogystal ag asesu, rheoli a rhoi cymorth iechyd a gofal cymdeithasol i bobl â dementia; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.
  • Mae Mental wellbeing of older people in care homes (QS50)(Saesneg yn unig) yn trafod lles meddwl pobl hŷn (65 oed a hŷn) sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal (gan gynnwys llety preswyl a llety nyrsio, gofal dydd a gofal seibiant); mae'n canolbwyntio ar roi cymorth i bobl wella eu lles meddyliol er mwyn eu galluogi i fod mor iach ac annibynnol ag sy’n bosibl.