Neidio i'r prif gynnwy

Dementia

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.


A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Dementia a chlefyd Alzheimer yw'r ail brif achos o farwolaeth yng Nghymru (ONS 2021).
  • Dementia a chlefyd Alzheimer sy’n gyfrifol am bron i hanner (45%) o’r DALYs anhwylderau niwrolegol; ar y cyfan, gellir priodoli tua 12% o’r DALYs sy’n deillio o anhwylderau niwrolegol i ffactorau risg hysbys (Iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018).
  • Mae Comisiwn Lancet yn nodi 12 ffactor risg y gellir eu haddasu a allai atal neu ohirio hyd at 40% o ddementia (The Lancet Commissions 2020; 396(10248);413-446)(Saesneg yn unig); mae hyn yn ategu at bwysigrwydd ymdrechion atal.
  • Mae’r polisi allweddol ar ddementia wedi’i nodi yng Nghynllun gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (LlC 2018).
  • Adroddir ar ddangosyddion ar gyfer y pwnc hwn drwy Fesurau Gofal Sylfaenol.


B.  Dadansoddiadau data 

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Cyffredinrwydd dementia (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Cofrestrau Clefydau'r Fframwaith Canlyniadau (QOF) (Saesneg yn unig)

Dolen i’r ddogfennaeth:

Mae'r ddolen ffynhonnell ddata yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel, cryno ac o ansawdd ystadegol

 

C. Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

Adolygwyd gan:  VT/BM | Dyddiad adolygu: 06/09/22 | Côd pwnc: LTC-007