Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntio ar wella'r rheolaeth o ddementia

  • Ni fydd gwella ansawdd gofal dementia yn gostwng nifer yr achosion. Fodd bynnag, gall leihau'r risg o gymhlethdodau/ digwyddiadau yn y dyfodol; gwella ansawdd bywyd i'r claf a'u gofalwyr/ teuluoedd; lleihau annhegwch mewn canlyniadau iechyd; neu leihau (neu gynyddu) defnydd a chostau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Bydd Darllen yn Well Llyfrau  ar Bresgripsiwn Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia  yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n byw gyda dementia ynghyd â'u perthnasau / gofalwyr. Cylchlythyr Iechyd Cymru [WHC/2018/031]
  • Mae Llyfrau Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia, ar gael o lyfrgelloedd lleol ac wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru (WHC/2018/031), maent yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia, cymorth ar sut i fyw’n dda, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau, a llyfrau ffotograffig a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion.
  • Mae Dementia prevention, intervention, and care (The Lancet Commissions 2020;396(10248);413-446) (Saesneg un unig) yn gwneud argymhellion ar ofal i’r rhai â dementia, gan gynnwys darparu gofal ôl-ddiagnostig cyfannol, rheoli symptomau niwroseiciatrig, a gofal i ofalwyr teuluol.
  • Gweler isod i gael eich cyfeirio at ganllawiau perthnasol/safonau ansawdd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol sy'n ymwneud â rheoli dementia, gallwch eu defnyddio fel ffynhonnell o gamau gwella posibl.