Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntio ar wella canfod dementia

  • Bydd gwell canfyddiad o’r rhai sydd mewn perygl, gyda chadarnhad o ddiagnosis o dementia, yn effeithio ar gyfran cyffredinrwydd.xxGall cyffredinrwydd uwch mewn clystyrau adlewyrchu un neu fwy o'r cyffredinrwydd uwch o’r clefyd mewn poblogaeth; cyfle i wella'r broses o gyflwyno ymyriadau newid ymddygiad; cyfle i wella adnabod a/ neu reoli ffactorau risg clinigol; mynediad at ofal iechyd; neu effeithiolrwydd dod o hyd i achosion.
  • Mae disgwyliadau codio Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoi unigolion â dementia ar gofrestrau dementia practisiau meddygon teulu (WHC/2015/004) yn helpu i gefnogi diagnosis cynnar ac i adnabod dementia yng Nghymru.
  • Er mwyn gwella adnabyddiaeth o ddementia, mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (LlC 2018) yn annog meddygon teulu i fanteisio ar yr elfen dementia o’r Gwasanaeth Ychwanegol dan Gyfarwyddyd (DES) iechyd meddwl a gyflwynwyd yn 2017, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i bractisau gofal sylfaenol allu dangos tystiolaeth eu bod yn "gefnogol i ddementia".
  • Gweler isod os ydych eisiau cael eich cyfeirio at ganllawiau perthnasol Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol/safonau ansawdd sy'n ymwneud â chanfod dementia, lle gallwch ganfod camau gwella posibl.