Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Newid ymddygiad: ymagweddau unigol (PH49) (Saesneg yn unig). Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â ffactorau risg ymddygiadol newidiol ymhlith pobl 16 oed a hŷn sy’n defnyddio ymyriadau fel gosod a chynllunio nodau, adborth a monitro, a chymorth cymdeithasol. Ei nod yw helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau gan gynnwys deietau afiach. 
  • Maeth: gwella maeth mamau a phlant (QS98 ) (Saesneg yn unig).  Mae'r safon ansawdd hon yn cwmpasu gwella maeth i fenywod sy'n bwriadu beichiogi, menywod beichiog, a babanod a phlant o dan 5 oed a'u mamau a'u gofalwyr. Mae'n canolbwyntio ar deuluoedd incwm isel a difreintiedig. Mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd â blaenoriaeth i'w gwella. 
  • Maeth mamau a phlant. (PH11) (Saesneg yn unig). Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â maeth menywod beichiog, gan gynnwys menywod sy'n bwriadu beichiogi, mamau a gofalwyr eraill plant o dan 5 oed a'u plant. Yn benodol, ei nod yw mynd i'r afael â gwahaniaethau ym maeth grwpiau incwm is a difreintiedig eraill o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.