Neidio i'r prif gynnwy

Deiet afiach

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae deiet cytbwys iach yn helpu i gynnal pwysau iach, yn ogystal â darparu'r maetholion sydd eu hangen i leihau'r risg o lawer o gyflyrau hirdymor: mae deiet yn cyfrif am 32% o DALYs  (Saesneg yn unig) y gellir eu priodoli ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd a 12% o DALYs y gellir eu priodoli ar gyfer canserau yng Nghymru (Iechyd a’i Benderfynyddion yng Nghymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2018) (Saesneg yn unig) .
  • Mae maeth yn bwysig ar draws cwrs bywyd; gall maeth yn y 1000 diwrnod cyntaf (beichiogi i 2 oed) effeithio ar ganlyniadau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd  (Pediatrics. 2018 Feb;141(2). pii: e20173716) (Saesneg yn unig).
  • Mae'n ymddangos bod bylchau anghydraddoldeb yn ehangu yng Nghymru o ran bwyta ffrwythau a llysiau, gyda'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig; bydd hyn yn atgyfnerthu anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd (Iechyd a’i Benderfynyddion yng Nghymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2018) (Saesneg yn unig).
  • Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (LlC 2018) yn tynnu sylw at yr angen i symud tuag at fwy o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar.
  • Cafodd Y Canllaw Bwyta'n Dda ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2018 (LlC 2018).
  • Pwysau Iach: Cymru Iach (LlC 2018) yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Nod y cynllun yw darparu lleoliadau ac amgylcheddau iach i ganiatáu i bobl o bob oed wneud dewisiadau iach.

B. Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Cyffredinrwydd bwyta'n iach (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Proffiliau ymarfer OAT

Dolen i’r ddogfennaeth:

Canllaw technegol Proffiliau Poblogaeth Practis Cyffredinol


C. Camau gwella 

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.        

Adolygwyd gan: VT/BM | Dyddiad adolygu: 27/06/22 | Côd pwnc: BRF-002