Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda (LlC 2018 ) sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth yn rhoi cyngor i'r boblogaeth gyffredinol dros ddwy flwydd oed. Yr argymhellion allweddol yn y canllaw yw:
- Bwytewch o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd
- Seiliwch brydau ar datws, bara, reis, pasta a charbohydradau startsh eraill, gan ddewis fersiynau grawn cyflawn lle bo hynny'n bosibl
- Bwytewch rai cynnyrch llaeth neu gynnyrch llaeth amgen (megis diodydd soi); dewiswch opsiynau braster is a siwgr is
- Bwytewch rai ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill (gan gynnwys 2 ddogn o bysgod bob wythnos, a dylai 1 ohonynt fod yn olewog)
- Dewiswch olewau a thaeniadau annirlawn a bwytewch ychydig ohonynt
- Yfwch rhwng 6 a 8 cwpan/gwydraid o hylif y dydd
- Os ydych chi'n bwyta bwydydd a diodydd sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr, dewiswch y rhain yn llai aml ac ychydig ohonynt.
Er mwyn helpu staff i ddeall eu rôl wrth helpu pobl i newid eu hymddygiad sy'n gysylltiedig â bwyd, mae dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yng Nghymru yn canolbwyntio ar dair prif negessyml:
- Bwytewch 5 ffrwyth a llysieuyn y dydd
- Dewiswch opsiynau iachach dros fwyd a diodydd braster uchel a siwgr uchel
- Lleihewch maint y dogn.
Cyfeiriwch at adnoddau sy'n gyfeillgar i gleifion megis:
Mae hyfforddiant sgiliau maeth a ddatblygwyd ac a gydlynwyd gan ddeietegwyr sy'n gweithio yn GIG Cymru ar gael gan Sgiliau Maeth am Oes.