Gwneud i bob cyswllt gyfrif trwy gymryd mantais o'r cyfle i ofyn am ddewisiadau bwyta'n iach
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull Cymru gyfan o newid ymddygiad, gan ddefnyddio rhyngweithio o ddydd i ddydd, i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u llesiant.
Ystyriwch annog staff ymarfer i ennill sgiliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [angen ESR neu unrhyw fath arall o fewngofnodi/cofrestriad]. Ar gyfer cysylltiadau hyfforddi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma (Saesneg yn unig) [mewnrwyd].
Hyrwyddir ymyrraeth fer gan staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl a allai elwa o rywfaint o gymorth i wneud dewis ar sail gwybodaeth ynghylch bwyta'n iach gan ganllawiau NICE (PH49). (Saesneg yn unig)
Mae Gwneud Gwahaniaeth (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2016) (Saesneg yn unig) yn nodi tystiolaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd bod cynnig cyngor cryno ar ddeiet yn eithaf cost-effeithiol (o'i gymharu â strategaethau cost-effeithiol iawn ar lefel y boblogaeth).