Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn partneriaeth i addasu'r amgylchedd dewis bwyd lleol

  • Eiriolwch a chefnogwch gynlluniau lleol ehangach sy'n creu amgylchedd sy'n cefnogi dewisiadau bwyd iachach. Mae canllawiau NICE (CG43) (Saesneg yn unig) yn nodi “Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol weithio gyda siopau, archfarchnadoedd, bwytai, caffis a gwasanaethau cymunedol gwirfoddol i hyrwyddo dewisiadau bwyta'n iach sy'n gyson â'r canllawiau arferion da cyfredol ac i ddarparu gwybodaeth ategol.” 
  • Gall hyn olygu adolygiad gweithredol o geisiadau i'r awdurdod lleol am siopau bwyd brys a drafftio gwrthwynebiadau, yn enwedig pan fo'r cyfraddau gordewdra yn uchel, dwysedd y mannau gwerthu bwyd brys presennol yn uchel, neu lle mae'r siop agos at ysgol. 
  • Cefnogwch fentrau lleol gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i hyrwyddo bwyta'n iach drwy gydol cwrs bywyd, ond noder bod Gwneud gwahaniaeth (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2016) (Saesneg yn unig) yn dyfynnu tystiolaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bod ymyriadau i hyrwyddo deiet iach a lleihau gordewdra mewn ysgolion a'r gweithle yn llai cost-effeithiol (o'u cymharu â strategaethau lefel poblogaeth cost-effeithiol iawn). 
  • Ystyriwch fefnogi Cronfa Gymunedol Leol y Co-op, (Saesneg yn unig) sy'n sicrhau bod ffrwythau a llysiau ffres ar gael i drigolion lleol am brisiau fforddiadwy iawn ac sy'n annog pobl i'w cynnwys yn eu deiet.