Neidio i'r prif gynnwy

Codi ymwybyddiaeth staff o atgyfeirio at wasanaethau maeth a deieteg yn y gymuned

  • Er y dylai staff deimlo'n hyderus wrth roi cyngor deietegol cyffredinol, efallai y bydd rhai pobl yn elwa o gyngor arbenigol wedi'i deilwra a/neu gymorth mwy dwys. 
  • Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda (LlC 2018) yn nodi y gallai fod angen cymorth gan ddeietegydd cofrestredig ar bobl sydd â gofynion deietegol arbennig neu anghenion meddygol ar sut i addasu'r canllaw i ddiwallu eu hanghenion unigol. 
  • Mae Taflenni Ffeithiau Bwyd (Saesneg yn unig) Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) a ysgrifennwyd gan ddeietegwyr ar gael i'w lawrlwytho ac maent yn ymdrin â bwyta'n iach yn ogystal ag ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â maeth.