Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Mae Behaviour change: individual approaches (PH49) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu newid ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd ymhlith pobl 16 oed neu hŷn gan ddefnyddio ymyriadau fel nodau a chynllunio, adborth a monitro, a chymorth cymdeithasol; ei nod yw helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau gan gynnwys diffyg gweithgarwch corfforol.
  • Mae Physical activity: brief advice for adults in primary care (PH44) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu darparu cyngor byr ar weithgarwch corfforol i oedolion mewn gofal sylfaenol; ei nod yw gwella iechyd a llesiant trwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol ac annog pobl i gynyddu neu gynnal lefel eu gweithgarwch.
  • Mae Physical activity: exercise referral schemes (PH54)  (Saesneg yn unig) yn cwmpasu cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer pobl 19 oed neu hŷn, yn enwedig y rhai sydd ddim yn gwneud digon o ymarfer corff neu sy’n segur; y nod yw annog pobl i wneud gweithgarwch corfforol.
  • Mae Physical activity: walking and cycling (PH41) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu annog pobl i gynyddu faint y maent yn cerdded neu'n beicio at ddibenion teithio neu hamdden.
  • Mae Physical activity and the environment (NG90) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu sut i wella'r amgylchedd ffisegol i annog a chefnogi gweithgarwch corfforol; y nod yw cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y boblogaeth gyffredinol.
  • Mae Physical activity for children and young people (PH17) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu hyrwyddo gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc o dan 18 oed gartref, cyn ysgol, ysgol ac yn y gymuned; mae'n cynnwys codi ymwybyddiaeth o fuddion gweithgarwch corfforol, gwrando ar yr hyn y mae plant a phobl ifanc ei eisiau, cynllunio a darparu mannau a chyfleusterau, a helpu teuluoedd i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd.
  • Mae Physical activity in the workplace (PH13) (Saesneg yn unig) yn ymdrin â sut i annog gweithwyr i wneud gweithgarwch corfforol; y nod yw cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Mae Physical activity: for NHS staff, patients and carers (QS84) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu annog gweithgarwch corfforol ymhlith pobl o bob oed sydd mewn cysylltiad â'r GIG, gan gynnwys staff, cleifion a gofalwyr; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd blaenoriaeth i'w gwella (nid yw'n cynnwys annog gweithgarwch corfforol ymhlith pobl â chyflyrau penodol).
  • Mae Physical activity: encouraging activity in the community (QS183) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu sut y gall strategaeth, polisi a chynllunio a gwelliannau i’r amgylchedd ffisegol adeiledig neu naturiol fel mannau agored cyhoeddus, gweithleoedd ac ysgolion lleol annog a chefnogi pobl o bob oed a phob gallu i wneud gweithgarwch corfforol a symud mwy; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd blaenoriaeth i'w gwella.