Neidio i'r prif gynnwy

Anweithgarwch corfforol

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol  

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae gweithgarwch corfforol yn hybu llesiant, iechyd corfforol a meddyliol, yn atal afiechyd, yn gwella cysylltedd cymdeithasol ac ansawdd bywyd, yn darparu buddion economaidd ac yn cyfrannu at 13 nod datblygu cynaliadwy (Global action plan on physical activity 2018–2030, WHO 2018); (Saesneg yn unig) mae gweithgarwch corfforol isel yn ffactor risg ymddygiadol sy’n cyfrannu at flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl anabledd (DALYs) (Saesneg yn unig) y gellir eu hosgoi.
  • Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hyrwyddo cynaliadwyedd drwy deithio llesol (megis cerdded a beicio); mae buddion eraill yn cynnwys lleihau allyriadau nwyon llosg ac allyriadau carbon niweidiol a gwell ansawdd aer.
  • Mae llai na 50% o oedolion yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cyflawni’r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir o gymharu â dros 60% yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru; mae cyrhaeddiad y lefelau canllaw yn is yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban (Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru; ICC 2018).
  • Mae Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol 2018 (LlC 2018) yn tynnu sylw at yr angen i symud tuag at fwy o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar.
  • Pwysau Iach: Cymru Iach (LlC 2019) yw’r strategaeth hirdymor i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru; mae'r strategaeth yn cynnwys annog gweithgarwch corfforol. 

B.  Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Nifer yr achosion o weithgarwch corfforol (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Proffiliau ymarfer OAT 

Dolen i’r ddogfennaeth:

Canllaw technegol Proffiliau Poblogaeth Practis Cyffredinol (Saesneg yn unig)

C.  Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

 

Adolygwyd gan:  BM/VT | Dyddiad adolygu: 06/08/22 | Côd pwnc: BRF-003