Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod staff yn gallu cyrchu cyngor gweithgarwch corfforol syml ar gyfer beichiogrwydd a phlant

  • Mae Physical activity guidelines: pregnancy and after childbirth (UK Govt; 2019) (Saesneg yn unig) yn cynnwys ffeithluniau sy’n crynhoi canllawiau Prif Swyddog Meddygol (CMO) y DU (2019) ar weithgarwch corfforol i fenywod beichiog ac i fenywod yn y 12 mis ar ôl rhoi genedigaeth.
  • Mae Physical activity guidelines: early years (under 5s) (UK Govt; 2019) (Saesneg yn unig) yn cynnwys ffeithlun sy’n esbonio’r gweithgarwch corfforol sydd ei angen ar gyfer buddion iechyd cyffredinol plant dan 5 oed. 
  • Mae cyngor/ awgrymiadau i rieni ar chwarae egnïol yn yr awyr agored ar gael ar wefan Pob Plentyn i fabanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol. 
  • Mae Physical activity guidelines: children and young people (5 to 18 years) (UK Govt; 2019) (Saesneg yn unig) yn cynnwys ffeithlun sy’n esbonio’r gweithgarwch corfforol sydd ei angen ar gyfer buddion iechyd cyffredinol i blant a phobl ifanc 5 i 18 oed. 
  • O ran bwyta’n iach, dylid cynnig cyngor ar weithgarwch corfforol i’r teulu cyfan (mae modelu rôl yn bwysig, felly efallai y bydd angen rhoi blaenoriaeth i gefnogi newid ymddygiad rhieni sydd ddim yn gwneud digon o weithgarwch corfforol).