Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod gan staff wybodaeth a hyder i gynnig cyngor gweithgarwch corfforol syml sy'n addas i'r rhan fwyaf o bobl

  • Mae Physical activity guidelines: adults and older adults (UK Govt; 2019) (Saesneg yn unig) gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn cynnwys ffeithlun sy'n esbonio'r gweithgarwch corfforol sydd ei angen er budd iechyd cyffredinol oedolion ac oedolion hŷn; maent yn cynghori o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol ddwys yr wythnos a/neu o leiaf 75 munud o ddwyster egnïol yr wythnos, adeiladu cryfder o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos, a lleihau amser ar eich eistedd.
  • Gellir defnyddio’r tri chwestiwn a ofynnwyd gan holiadur sgrinio gweithgarwch corfforol yr Alban (Scot-PASQ) (Saesneg yn unig) fel offeryn sgrinio ysgogol ac i roi cyngor: 1. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ar sawl diwrnod ydych chi wedi bod yn gwneud gweithgarwch corfforol am gyfanswm o 30 munud neu fwy? 2. Os pedwar diwrnod neu lai, ydych chi wedi bod yn gwneud gweithgarwch corfforol am o leiaf dwy awr a hanner (150 munud) yn ystod yr wythnos ddiwethaf? 3. Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud mwy o weithgarwch corfforol?
  • Anogwch y rhai sy'n cyrraedd lefelau gweithgarwch corfforol yn ôl y canllawiau i gynnal hyn (neu wella arno); y gellir cael budd iechyd pellach po fwyaf o weithgarwch corfforol y mae unigolyn yn ei wneud, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o enillion iechyd corfforol yn digwydd ar lefelau gweithgarwch cymharol is (BMJ 2016; 354:i3857) (Saesneg yn unig), gydag enillion yn lleihau ar lefelau uwch o weithgarwch.
  • Mae Cymell i Symud (AaGIC) yn adnodd proffesiynol sy’n cynnwys cyngor ar weithgareddau i bobl â chyflyrau iechyd penodol.