Neidio i'r prif gynnwy

Gwella cyfraddau atgyfeirio i raglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth, gan gynnwys Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) Cymru

  • Mae NICE yn argymell atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer pobl sydd ddim yn gwneud digon o weithgarwch corfforol neu sy’n segur ac sydd â chyflwr iechyd neu ffactorau risg iechyd eraill (PH54) (Saesneg yn unig) , ond nid ar gyfer pobl sydd ddim yn gwneud digon o weithgarwch corfforol neu’n anactif ond sydd fel arall yn iach.
  • Mae Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn ymyriad iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ymgorffori gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad gan gefnogi cleientiaid i wneud a chynnal dewisiadau ffordd o fyw iachach a fydd yn gwella eu hiechyd a'u llesiant; mae wedi'i dargedu at bobl 16+ oed nad ydynt wedi arfer bod yn gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd ac sydd mewn perygl o gael (neu'n profi) cyflwr iechyd hirdymor neu gronig. Lawrlwythwch y daflen NERS yma. (Saesneg yn unig)
  • Lawrlwythwch y poster NERS yma. (Saesneg yn unig)
  • Lawrlwythwch wybodaeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yma. (Saesneg yn unig)
  • Gellir gwneud atgyfeiriadau NERS ar-lein yma. (Saesneg yn unig)
  • I gael manylion cyswllt Cydlynwyr NERS yn ôl awdurdod lleol, gweler yma