Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo gweithgarwch corfforol/teithio llesol

  • Eiriolwch a chefnogwch gynlluniau lleol ehangach sy’n creu amgylchedd sy’n cefnogi cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a dewisiadau teithio llesol.
  • Mae Making a difference (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2016) (Saesneg yn unig) yn dyfynnu tystiolaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd mai’r dulliau gorau o gynyddu teithio llesol yw cefnogi ymgyrchoedd cyfryngau torfol cenedlaethol a hyrwyddo teithio llesol yn lleol fel y norm ar gyfer teithiau byr (bydd mwy o drafnidiaeth llesol yn sicrhau cyd-fuddiannau, megis gwell ansawdd aer a llai o allyriadau CO2).
  • Mae canllawiau NICE ar Obesity prevention (GC43) (Saesneg yn unig) yn nodi "Health professionals should support and promote community schemes and facilities that improve access to physical activity, such as walking or cycling routes, combined with tailored information, based on an audit of local needs."
  • Mae canllawiau NICE ar Physical activity: walking and cycling (PH41) (Saesneg yn unig) yn nodi sut y gellir annog pobl i gynyddu faint y maent yn cerdded neu'n beicio at ddibenion teithio neu hamdden; mae argymhellion yn ymwneud â pholisi a chynllunio, rhaglenni lleol, ysgolion, gweithleoedd a'r GIG.
  • Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) wedi casglu ystod o wybodaeth ategol mewn Hwb Gweithgarwch Corfforol, (Saesneg yn unig) gan gynnwys y Siarter Ymarfer Egnïol, (Saesneg yn unig) y gellid ei mabwysiadu ar draws y grŵp cynllunio clwstwr/clwstwr gofal sylfaenol.