Archwilio a gwella data lleol ar lefel gweithgarwch corfforol a chofnodi ymyriadau
Mae NICE (PH44) (Saesneg yn unig) yn argymell nodi oedolion sy'n segur e.e. yn fanteisgar neu fel rhan o sesiwn wedi'i chynllunio ar reoli cyflyrau hirdymor; asesu lefelau gweithgarwch corfforol gan ddefnyddio offeryn wedi'i ddilysu megis General practice physical activity questionnaire (GPPAQ); (Saesneg yn unig) a chofnodi canlyniadau asesu gan ddefnyddio Codau READ os yw'n briodol.
Mae Cymell i Symud (AaGIC) yn cynghori bod meddygon teulu yn archwilio cleifion â gordewdra i weld a ydynt wedi cael cynnig cynllun atgyfeirio ymarfer corff a rhaglen ddeietegol, ac i bennu eu lefelau gweithgarwch presennol.